Gwobrau
Rydym yn falch o fod wedi ein rhoi ar restrau byrion a’n dyfarnu â nifer o wobrau cenedlaethol am ein gwaith, a gwaith ein staff a’n myfyrwyr gwych.
2017/2018
Gwobrau’r Coleg
- Gwobr Beacon AoC am Bontio i Addysg Ôl 16 i Raglen Prentisiaethau Iau CCAF
- Gwobr Beacon AoC am Ddarpariaeth Effeithiol o Brentisiaethau
- Cadwodd y Coleg ei Safon Aur gan People 1st a daeth yn Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Gwasanaeth Bwyd a Diod a Patisserie a Melysion
- Yn y 15fed Safle ar Fynegai 100 Uchaf y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth
- Derbyniodd yr Adran ESOL, ABE a Learndirect Wobr Dysgu ar y Cyd mewn Prosiectau am ei gwaith gyda BT
- Enillodd y Darlithydd Cyfrifeg Mike Webster Wobr Cyflawniad Oes gan AAT
- Enillodd y Darlithydd Creadigol Kat Keeble-Buckle Wobr Tiwtor Inspire!
- Enillodd y Darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus Tom Jones wobr Hyfforddwr y Flwyddyn VQ am y ffordd mae’n hyrwyddo dysgu arbrofol
- Enwyd y Rheolwr Career Ready Tracy Bird yn Hyrwyddwr Cyflogadwyedd y Flwyddyn Career Ready ar gyfer Cymru, y Gorllewin a Chanolbarth Lloegr
- Enillodd yr Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru James Martin Bencampwriaethau Codi Pŵer y Byd yn y categori dan 90kg
Gwobrau’r Myfyrwyr
- Cynrychiolodd y Prentis Gosodiadau Trydanol Tom Lewis Dîm y DU yn Euroskills yn Budapest
- Bydd Tom a’i efaill Connor, sydd hefyd yn Brentis Gosodiadau Trydanol, yn teithio i Rwsia ar gyfer Rowndiau Terfynol WorldSkills yn 2019
- Yn 2018, anfonodd CCAF fwy o ddysgwyr i Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU nag unrhyw Goleg arall yng Nghymru. Enillodd James Ackland fedal arian yn y categori Teilsio Waliau a Lloriau, enillodd Henry Deane fedal efydd yn y categori Ailorffen Cerbydau ac enillodd Matuesz Kolacki fedal efydd yn y categori Seibr Ddiogelwch
- Teithiodd Amy Hoskins (2017), Alex James (2018) a Jasmine Jones (2019) neu – yn achos Jasmine, bydd yn teithio – i India i gynrychioli Cymru yng ngornest ryngwladol yr Olympiad Cogyddion Ifanc
- Enillodd Anthony Cox fedal aur yn y gystadleuaeth Hyfforddwr Personol Sgiliau Cynhwysol yng nghystadleuaeth ADY WorldSkills
- Enillodd Henry Deane fedal aur yn rowndiau terfynol Paentio a Chyrff Moduron Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ac enillodd ei gydfyfyriwr Oscar Green fedal arian
- Enillodd Hannah Needs fedal aur yng nghategori Marchnata Nwyddau’n Weledol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru
- Enillodd James Ackland fedal efydd am Deilsio Waliau a Lloriau yn Rowndiau Terfynol WorldSkills UK 2017
- Enillodd Camilla Dima fedal aur yn Rowndiau Terfynol Wyneb a Harddwch Uwch Cystadleuaeth Sgiliau Cymru – enillodd Soraia Sequira Gomes Rabaol fedal arian
- Enillodd Sharna Byrne, Dasiy Dimond a Makenzi Webber fedal arian mewn cystadleuaeth Cyfryngau Sgiliau Cynhwysol Cymru
- Enillodd Dion Mullins fedal arian mewn Trin Gwallt yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru
- Cyflogwyd yr intern gyda Phrosiect SEARCH, Jade Smith – un o grŵp o interniaid ag Anghenion Dysgu Ychwanegol mae’r Coleg yn eu lleoli gyda Phrifysgol Caerdydd – yn llawn amser gan y Brifysgol
- Enillodd y dysgwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 Whitney Phillips wobr Dysgwr y Flwyddyn BTEC yn y Categori Plant, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Enillodd Caroline Turner ac Annette Howell wobr Dysgwr y Flwyddyn BTEC
- Bydd y fyfyrwraig TG Lefel 3 Ellie Perkins yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Pedair Gwlad Arbenigol Microsoft
- Daeth y myfyrwyr Gradd Sylfaen mewn Ffilm yn drydydd yng Nghystadleuaeth Ffilm NAMSS 2018
- Daeth y myfyriwr Gosod Brics Lefel 2 Sam Ashdown yn ail mewn cystadleuaeth wedi’i threfnu gan Persimmon Homes a chafodd gyfweliad am brentisiaeth
- Enillodd pedwar dysgwr Wobrau Myfyrwyr y Flwyddyn CILEx
- Enillodd Mateusz Kolacki fedal aur yn rowndiau terfynol rhanbarthol Seibr Ddiogelwch WorldSkills ac enillodd Kyle Woodward fedal arian. Hwn oedd y tro cyntaf i CCAF gymryd rhan yn y gystadleuaeth
- Enillodd Morgan Whithear fedal aur a Tomek Pawelek fedal arian yng nghystadleuaeth Technegydd TG WorldSkills
- Enillodd Fatoumata Makalo fedal efydd yng nghystadleuaeth Datrysiadau Meddalwedd TG ar gyfer Busnes WorldSkills
Ar restr fer/wedi’u henwebu
- Tair Gwobr TES – Defnydd Effeithiol o TEL, Addysgu a Dysgu Galwedigaethol ac Arweinydd y Flwyddyn
- Roedd Arweinydd y Cwrs CIPD Nick Carter ar y rhestr fer yn y categori Gweithiwr Proffesiynol AD Gorau – Sector Cyhoeddus/3ydd Sector yng Ngwobrau CIPD
- Ar restr fer Gwobr Beacon AoC am Les
- Roedd y Darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus Tom Jones ar restr fer ar gyfer Athro AB y Flwyddyn TES
- Roedd Angela Carreira ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr CIPD Cymru
- Roedd myfyriwr Safon Uwch Michael Bonney ar restr fer Gwobr Addysg Prydain ledled y DU
2016
Gwobrau’r Coleg
- Darparwr Addysg Bellach y Flwyddyn Cymru – Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth
- Coleg y Flwyddyn - Gwobrau Partneriaethau Busnes ac Addysg Insider Cymru
- Effaith Economaidd – Gwobrau Partneriaethau Busnes ac Addysg Insider Cymru
- Dylunio Drwy Arloesi - RICS
- Darparwr Hyfforddiant a Gyllidir y Flwyddyn – Gwobrau Cyflenwyr Canolfan Gyswllt
- Gwobr Pensaernïaeth Cymru i Gampws Canol y Ddinas – Cymdeithas Frenhinol Penseiri Cymru
Gwobrau Myfyrwyr
- Nadia Hadjali, Myfyriwr Trin Gwallt y Flwyddyn y DU – Y Cyngor Trin Gwallt
- Lauretta Hughes, Myfyriwr Mynediad i Addysg Uwch y Flwyddyn Agored Cymru
- Danielle Halford, Myfyriwr Career Ready y Flwyddyn y DU Syr Winfried Bischoff
Ar restr fer/enwebwyd
- Gwobr Beacon Cymdeithas y Colegau (AoC) – Addysgu Ymarferol a Dysgu Ymarferol
- James Donaldson, Cyflogai AB y Flwyddyn - Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth
- Coleg AB y Flwyddyn – Gwobrau Addysg Bellach TES
- Gwobrau Busnes a Phartneriaethau Insider Cymru – Gwobr Proses Newydd, Datblygu Pobl a Phartneriaeth
- Ymgyrch Hysbysebu Orau – Gwobrau Marchnata Cymru
- Darparwr Hyfforddiant y Flwyddyn – Gwobrau Sgiliau Creadigol a Diwylliannol