Os ydych chi'n meddwl am fynd i’r Coleg, mae ymweld â ni mewn Noson Agored yn ffordd wych o ddysgu mwy. Mewn Noson Agored, gallwch siarad â thiwtoriaid am gyrsiau sydd o ddiddordeb i chi, mynd ar daith o amgylch y cyfleusterau’r safle, cael cyngor ac arweiniad a dysgu am y gefnogaeth a’r cyfleoedd a gynigir gan y Coleg. Gallwch hyd yn oed gael help gan staff cyfeillgar i wneud cais ar y pryd.
Bydd dyddiadau ein Nosweithiau Agored i ddechrau ym mis Medi 2025 yn cael eu rhyddhau ym mis Hydref 2024. Llenwch y ffurflen isod i gael eich hysbysu pan fydd y dyddiadau ar gael.
Os ydych chi’n awyddus i ddechrau cwrs ym mis Medi 2024, dewch i un o’r digwyddiadau isod:
Sesiynau Ymrestru a Chyngor- Medi 2024:
Os nad ydych yn gallu mynychu’r digwyddiadau uchod ond yr hoffech ddechrau yn y coleg y tymor hwn, mae croeso ichi ddod o hyd i gwrs a gwneud cais, a bydd ein tîm Derbyniadau yn cysylltu â chi.