Croeso i deulu CAVC!

Dewch i ni ddechrau arni!

Croeso i deulu CAVC! Rydym mor falch eich bod wedi dewis ymuno â ni.

Dyma rai pethau pwysig sydd angen i chi eu gwneud, a gwybodaeth bwysig i’ch helpu i baratoi ar gyfer eich cwrs.

Angen help? Cysylltwch.

Mae ein tîm cyfeillgar ar gael i helpu gydol yr haf. Cliciwch yr adnodd sgwrsio byw, neu ffoniwch 02920 250 250.

Y Pethau Pwysig

Dyma ddau beth pwysig sydd angen i chi eu gwneud er mwyn bod yn barod ar gyfer y coleg.

Sefydlu eich Cyfrif Rhwydwaith CAVC

Pan fyddwch wedi ymrestru, byddwn yn anfon e-bost atoch chi gyda’r testun Paratoi ar gyfer Coleg – sefydlu eich Cyfrif Rhwydwaith CAVC.

Bydd hwn yn cynnwys yr hyn sydd angen i chi ei wneud er mwyn sefydlu eich Cyfrif Rhwydwaith CAVC er mwyn i chi allu gwneud defnydd o gyfrifiaduron a systemau’r coleg, a’r ap MyCAVC.
Mae angen i’n holl fyfyrwyr wneud hyn ar ddechrau eu cwrs. Mae angen i chi wneud hyn p’un a’ch bod yn fyfyriwr newydd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, neu os ydych wedi astudio gyda ni o’r blaen. 
Bydd eich e-bost yn cynnwys eich enw defnyddiwr, cyfeiriad e-bost myfyriwr a’ch cyfrinair cychwynnol. Pan fyddwch wedi mewngofnodi, bydd gofyn i chi newid eich cyfrinair. Mae'n bwysig eich bod yn gwneud hynny er diogelwch.

Beth sydd angen i chi ei wneud?

• Ewch i Office 365: https://outlook.office365.com

• Mewngofnodwch gan ddefnyddio’r enw defnyddiwr a chyfrinair sydd yn yr e-bost a anfonwyd atoch chi.

• Newidiwch eich cyfrinair. Mae hyn yn bwysig.

Rhaid i’ch cyfrinair fodloni’r gofynion canlynol:
o Deg nod neu fwy
o Cynhwyswch 3 neu 4 o'r canlynol:
o Nod prif lythyren
o Nod llythyren fach
o Rhif
o Nod arbennig (e.e. @,!#=%).

Ni ddylai eich cyfrinair gynnwys eich enw.

• Yna, cewch eich arwain i dudalen mewngofnodi CAVC. Teipiwch eich cyfrinair newydd a chliciwch 'mewngofnodi’.

• Bydd blwch naid Microsoft yn ymddangos gyda’r testun 'Rhagor o wybodaeth yn ofynnol'. Cliciwch 'nesaf'. Bydd hyn yn eich arwain i dudalen dilysu diogelwch ychwanegol.

• Dewiswch 'Ffôn dilysu' o'r gwymplen a nodwch eich rhif ffôn i dderbyn cod drwy neges destun. Cliciwch 'nesaf'. Yna, anfonir neges destun atoch gan Microsoft gyda chod dilysu i'w nodi ar y sgrin. Nodwch y cod ar y sgrin a chliciwch 'dilysu'.

• Yna, gofynnir i chi os hoffech aros wedi mewngofnodi - argymhellwn i chi wneud hynny.

A dyna ni! Rydych wedi sefydlu eich Cyfrif Rhwydwaith CAVC! Gallwch nawr wneud defnydd o gyfrifiaduron y coleg a chael mynediad at eich negeseuon e-bost myfyriwr yn Outlook, y byddwn yn ei ddefnyddio i anfon negeseuon e-bost atoch. Gallwch hefyd gael mynediad at y Gyfres Microsoft lawn, yn cynnwys Microsoft Teams, a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dysgu ar-lein, ac i fewngofnodi i’r Ap MyCAVC, a llawer mwy!

Wedi anghofio eich cyfrinair? Neu angen cymorth i sefydlu eich cyfrif? 
Rydym yma i helpu.

Ymwelwch â’r Ganolfan Lwyddo ar eich campws pan fyddwch yn dechrau yn y coleg. 
Rydym hefyd ar gael rhwng 10.00am – 2.00pm ar Gampws Canol y Ddinas Caerdydd ac ar Gampws y Barri.
Neu anfonwch e-bost i successcentre@cavc.ac.uk

Lawrlwythwch yr Ap MyCAVC

Ewch i Siop Apiau Apple neu GooglePlay. Chwiliwch am MyCAVC a’i lawrlwytho ar eich ffôn neu lechen.  

Agorwch yr ap a mewngofnodwch gyda manylion mewngofnodi eich Cyfrif Rhwydwaith CAVC (e-bost myfyriwr a'ch cyfrinair). I fewngofnodi mae'n rhaid eich bod wedi sefydlu eich Cyfrif Rhwydwaith CAVC yn gyntaf. Bydd hyn wedyn yn arbed eich gosodiadau.

Yna, gallwch weld popeth sydd angen i chi wybod!

  • Gweld eich amserlen (ar gael pythefnos cyn i'ch cwrs ddechrau)
  • Gweld eich targedau a chynnydd
  • Tracio terfynau amser aseiniadau a dyddiadau arholiadau
  • Dolenni at gymorth a chyfleoedd i chi
  • Dilyn clybiau a gweld y cynigion diweddaraf i fyfyrwyr
  • Cael hysbysiadau pwysig ynghylch beth sydd angen i chi ei wneud
  • Cael gwybod y diweddaraf ar beth sy’n digwydd yn CAVC

Byddwn hefyd yn ychwanegu nodweddion newydd i’r ap dros yr haf, ac yn rhoi gwybod i chi pan fydd y rhain yn cael eu rhyddhau.  
Awgrym! Trowch eich hysbysiadau ymlaen fel y gallwn anfon negeseuon a diweddariadau pwysig atoch!