Cefnogaeth Canolfan Sgiliau

Darganfyddwch sut y gall ein tîm cyfeillgar eich helpu yn ystod eich astudiaethau a chymryd rhan mewn rhai gweithdai dros yr Haf i’ch paratoi ar gyfer mis Medi.

Mae tîm Cefnogaeth Canolfan Sgiliau yma i’ch cefnogi yn ystod eich amser yn CAVC, ar y campws ac ar-lein. Rydym yn cefnogi dysgwyr ar unrhyw lefel ac ar unrhyw gwrs i lwyddo a chyrraedd eich potensial.

O ysgrifennu traethodau ac aseiniadau, i sgiliau llythrennedd neu rifedd a sgiliau astudio, beth bynnag fo’ch cwrs gallwn eich helpu chi. Gwyliwch y fideo byr isod am ragor o wybodaeth neu cysylltwch â ni trwy learningcoach@cavc.ac.uk

Cymerwch ran yn ystod yr haf hwn!

Ar y 3, 8, 9 a 18 Awst 2022 rydym yn cynnal cyfres o sesiynau cyflym, hwyliog ac addysgiadol i’ch helpu i baratoi ar gyfer cychwyn coleg ym mis Medi.

Bydd bag o bethau sy’n hanfodol ar gyfer y coleg ar gael i bawb sy’n mynychu!

Darganfyddwch fwy am bob sesiwn isod a chliciwch yma i archebu a sicrhau eich lle nawr!

Skills2Escape

Ymunwch a’r sesiwn ar-lein awr o hyd i gael cyflwyniad cyflym i dîm cymorth y Ganolfan Llwyddiant a Sgiliau a rhoi eich sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol ar brawf yn ein gweithgaredd arddull Escape Rooms!

Hwb Sgiliau

Darganfyddwch sut i ddod yn ddylanwadwr cyfryngau cymdeithasol yn y sesiwn hwyliog ac addysgiadol hon, gan edrych ar sut mae dylanwadwyr yn defnyddio platfformau digidol i dyfu eu brand, a datblygu'r sgiliau llythrennedd sydd eu hangen i hawlio sylw eich cynulleidfa! Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i fireinio’ch sgiliau ymchwil, dysgu sut i gyfeirio at waith pobl eraill, a gwella eich sgiliau ysgrifennu wrth baratoi ar gyfer aseiniadau ar eich cwrs Coleg.