Coleg Caerdydd a'r Fro yn cael ei gydnabod am ei waith arloesol i hyrwyddo iechyd meddwl a lles

17 Tach 2026

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi cael ei gydnabod fel un o'r colegau gorau yn y DU am y gwaith mae’n ei wneud i hyrwyddo iechyd meddwl a lles mewn addysg bellach.

Mae'r Coleg wedi cael ei ganmol yng Ngwobrau Beacon y Gymdeithas Colegau (AoC), a hynny yn y categori Gwobr AoC ar gyfer Iechyd Meddwl a Lles. Yn cael eu hadnabod yn eang fel ‘Oscars y Colegau’, mae Gwobrau clodwiw Beacon yn cydnabod sefydliadau Addysg Bellach sy’n mynd yr ail filltir o ran eu gwasanaeth i ddysgwyr a’r gymuned ehangach hefyd.

Yn hytrach na chanolbwyntio’n llwyr ar ymyrraeth pan fydd anawsterau’n codi, mae’r Coleg wedi datblygu dull ataliol sy’n hyrwyddo lles cadarnhaol drwy ymgysylltu â dysgwyr, cyfoethogi, datblygiad personol a pherthnasoedd ystyrlon.

Drwy gydol y flwyddyn, mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ystod eang o gyfleoedd, gan gynnwys rhaglenni Lles Actif, clybiau a chymdeithasau, prosiectau Llais y Dysgwr, dathliadau diwylliannol, gweithgareddau cymunedol, ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, Caffis Sgwrsio, grwpiau cymorth a digwyddiadau cyfoethogi. Mae'r gweithgareddau hyn yn hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol drwy helpu dysgwyr i feithrin cyfeillgarwch, hyder, pwrpas a chysylltiadau cymunedol.

Mae gweithgareddau sy'n ymwneud â lles, cynhwysiant a pherthyn yn arwain at filoedd o gyfleoedd ymgysylltu i ddysgwyr drwy gydol y flwyddyn.  

Ochr yn ochr â'r cyfleoedd hyn, mae Hyfforddwyr Dysgu, ymarferwyr lles, cydweithwyr diogelu a thimau Dysgu Cynhwysol yn darparu cefnogaeth gydlynol sy'n helpu dysgwyr i oresgyn rhwystrau a pharhau i gymryd rhan mewn cyrsiau dysgu. 

Gan adeiladu ar y dull hwn sydd wedi ennill ei blwyf, bydd y Ganolfan Gymorth newydd a Strategaeth Sgiliau Elevate yn cryfhau ymhellach ddull y coleg o ystyried yr unigolyn i gyd, drwy wreiddio lles, datblygiad personol a llwyddiant dysgwyr yn ddyfnach fyth ar hyd taith y dysgwr. 

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James-Evans: Rydym wrth ein boddau ein bod wedi cael ein canmol am y Wobr Beacon glodwiw hon.

“Fel y coleg mwyaf yng Nghymru a’r trydydd mwyaf yn y DU, rydym yn rhoi iechyd meddwl a lles cymuned gyfan CCAF wrth wraidd popeth a wnawn. Ac fel y coleg sy’n gweithredu yn un o’r cymunedau mwyaf amrywiol a bywiog yng Nghymru, rydym yn credu’n gryf bod yr holl gymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn haeddu teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u cynnwys.

“Mae’r ganmoliaeth hon yn brawf o waith caled ac ymroddiad cydweithwyr CCAF ar draws y Coleg.”