Coleg Caerdydd a'r Fro yn croesawu Ffagl Tîm Cymru cyn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK ym mis Tachwedd

30 Hyd 2026

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi croesawu Ffagl Tîm Cymru fel rhan o'i ras gyfnewid Cymru gyfan cyn cynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK ym mis Tachwedd.

Mae'r daith Cymru gyfan yn nodi'r cyfrif i lawr at Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK 2026, a fydd yn cael eu cynnal yng Nghymru am yr ail dro'r mis Tachwedd hwn. Mae'r Coleg hefyd yn cynnal y rowndiau terfynol.

Mae ffagl Tîm Cymru yn teithio rhwng colegau a darparwyr hyfforddiant i ddathlu cyflawniadau pobl ifanc sy'n paratoi i gystadlu yng nghystadleuaeth sgiliau galwedigaethol a thechnegol fwyaf y DU.

Bydd gan CCAF 15 cystadleuydd yn Rowndiau Terfynol WorldSkills UK, yn cymryd rhan mewn ystod ehangach o Rowndiau Terfynol nag erioed o'r blaen, gan gynnwys Atgyweirio Cyrff Cerbydau, Celfyddydau Coginio, Diogelwch Seiber, Cynhyrchu Cyfryngau Digidol, Cyfryngau Creadigol Sylfaenol, Gwasanaethau Bwyty Sylfaenol, Gwasanaethau Bwyty a Cholur SFX.

Un o gystadleuwyr y Coleg yw'r dysgwr Lletygarwch Charlie Burton, a ddysgodd dechneg flambé i'r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth yn ddiweddar pan ymwelodd â Champws Canol Dinas CCAF.

“Mae’n golygu cymaint i mi gymryd rhan yn Rowndiau Terfynol WorldSkills UK,”
meddai Charlie. “Rydw i wedi dysgu gymaint yn y Coleg ac mae cael rhoi’r sgiliau rydw i wedi parhau i’w datblygu ar waith yn gyfle gwych.”

Byddai Charlie yn argymell cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau fel WorldSkills UK.

“Byddwn i’n dweud ewch amdani – gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dweud ie i bopeth,” meddai. “Rydw i wedi cwrdd â chymaint o bobl ddiddorol ac wedi cael cymaint o gyfleoedd gwych drwy WorldSkills dim ond drwy roi fy hun allan yna a phenderfynu rhoi cynnig arni, felly manteisiwch ar unrhyw gyfleoedd y gallwch chi eu cael.

“Y foment fwyaf cofiadwy i mi hyd yn hyn oedd cael y cyfle i gwrdd â’r Prif Weinidog a dangos techneg flambé iddo. Roedd yn deimlad mor gyffrous cael dangos y sgiliau rydw i wedi'u dysgu yn fy astudiaethau i rywun sydd mor bwysig i Gymru.”

Bydd y Coleg yn cynnal 20 cystadleuaeth ar gyfer WorldSkills UK, mewn disgyblaethau'n amrywio o Gyrff Cerbydau i'r Celfyddydau Coginio a Cholur SFX ar gyfer Ffilmiau a Theledu, yn ogystal â phob un o'r wyth Rownd Derfynol Sgiliau Sylfaenol mewn ystod eang o feysydd. Mae hefyd yn lleoliad ar gyfer nifer o ddigwyddiadau ehangach ac ymweliadau swyddogol sy'n cynnwys arweinwyr busnes, llywodraeth ac addysg ym mhwysigrwydd sgiliau. Bydd dros 100 o gystadleuwyr yn cymryd rhan yn y cystadlaethau yn CCAF a bydd miloedd yn fwy o hyd a lled y rhanbarth, Cymru a'r DU yn ymweld yn ystod yr wythnos, gan edrych ar gystadlaethau a mynychu digwyddiadau ehangach.

Mae cynnal y Rowndiau Terfynol, yn cynnig cyfle unigryw, gan ddod â chyflogwyr, ysgolion, y gymuned ac arweinwyr gwleidyddol ynghyd mewn dathliad o sgiliau a'u pwysigrwydd. Bydd Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Coleg Gwent a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant hefyd yn cynnal cystadlaethau drwy gydol yr wythnos.

Dywedodd Mike James, Ymddiriedolwr WorldSkills UK a Phrif Weithredwr Coleg Caerdydd a'r Fro: "Mae'n bleser croesawu Ffagl Tîm Cymru i CCAF. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at gynnal Rowndiau Terfynol WorldSkills UK yng nghyfleusterau gradd flaenaf y Coleg ar ein Campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd.

"Mae hwn yn gyfle gwych i ddod â chyflogwyr a'r dalent ifanc orau yn y DU ynghyd ac i weithredu fel llysgenhadon ar gyfer sgiliau.

“Yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro rydym yn credu'n gryf ym mhwysigrwydd cystadlaethau sgiliau fel WorldSkills UK a’u rôl yn y broses o ysbrydoli pobl i ddatblygu sgiliau lefel uchel. Mae sgiliau’n allweddol i fusnesau o bob sector a maint, ac i economïau ar draws y byd. Mae sgiliau lefel uchel yn gwneud busnesau yn well, yn fwy abl ac effeithlon, gan ddenu cwsmeriaid a chyfrannu at gymunedau ac economïau mwy ffyniannus.

“Dyna pam fod WorldSkills UK mor bwysig. Mae’n dod â’r negeseuon hyn ynghyd ac yn eu hamlygu ar raddfa'r DU gyfan, gan ddangos i gyflogwyr a llywodraethau fod buddsoddi mewn sgiliau yn gyfystyr â buddsoddi yn y dyfodol.”