Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi nodi cwblhau strwythur uchaf ei ddau gampws newydd nodedig ym Mro Morgannwg.
Mae’r garreg filltir yma’n golygu bod strwythur llawn Campws Glannau’r Barri a’r Ganolfan Dechnoleg Uwch wedi’u cwblhau i’w pwynt uchaf, a bod y prosiect arwyddocaol gwerth £119m yn symud i’r cam nesaf yn y gwaith adeiladu.
Gyda strwythur y ddau gampws yn eu lle, nododd y coleg y diwrnod drwy ddod â phartneriaid uniongyrchol allweddol y prosiect at ei gilydd i gael y cyfle cyntaf i ymweld â’r datblygiad a phrofi graddfa lawn y campysau.
Cynhaliwyd yr ymweliad ar safle Canolfan Dechnoleg Uwch CCAF, gyferbyn â Maes Awyr Caerdydd. Daeth â phartneriaid uniongyrchol allweddol y prosiect at ei gilydd i gael y cyfle cyntaf i ymweld â’r datblygiad a phrofi graddfa lawn y campysau. Aeth y datblygwr, Bouygues UK, â grŵp bach o uwch-gynrychiolwyr o CCAF, WEPCo a Llywodraeth Cymru o amgylch y safle ac i dop y campws, gan gynnig golygfa unigryw o raddfa'r campws a'r trawsnewid sy'n digwydd. Roedd dau ddysgwr Peirianneg o CCAF yn rhan o'r grŵp ymweld hefyd, gan gynrychioli rhai o'r dysgwyr cyntaf a fydd yn astudio yno pan fydd y campws yn agor ym mis Medi 2027.
Mae'r Ganolfan Dechnoleg Uwch arloesol wedi'i lleoli ochr yn ochr â Chanolfan Hyfforddiant Awyrofod Ryngwladol (ICAT) enwog y coleg. Bydd y ganolfan newydd yn darparu hyfforddiant sy'n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion sgiliau cyflogwyr, prentisiaid a'r rhai sy'n gweithio ym maes technolegau uwch, gan gefnogi trawsnewid Cymru tuag at sero net.
Mae Campws Glannau'r Barri y coleg wedi cyrraedd y cam allweddol hwn yn ei ddatblygiad hefyd a bydd yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleusterau a chyrsiau i bobl ifanc ac oedolion ddatblygu sgiliau newydd neu wneud cynnydd yn eu gyrfaoedd.
Mae disgwyl i’r ddau gampws agor yn haf 2027 a hwn fydd y prosiect addysg bellach sero net cyntaf yng Nghymru. Cyflwynir y prosiect drwy raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Mike James, Prif Weithredwr Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro: “Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r cynnydd sy’n cael ei wneud ac yn falch o nodi’r garreg filltir bwysig yma ar gyfer y ddau gampws newydd, a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau Bro Morgannwg a thu hwnt. Mae’r datblygiadau yma’n adlewyrchu ein hymrwymiad ni i greu amgylcheddau dysgu o ansawdd uchel ar gyfer ein cymuned a chyflogwyr, yn ogystal â’n hymdrech i fuddsoddi mewn sgiliau ar gyfer y dyfodol.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen bellach at ymgysylltu ymhellach gyda phobl ifanc, teuluoedd, grwpiau cymunedol a chyflogwyr, gan sicrhau bod pawb yn rhan o’r siwrnai wrth i’r campysau yma gael eu codi. Pan fydd y drysau’n agor ym mis Medi 2027, bydd y llefydd yma’n perthyn i’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu, gan ddarparu buddion addysgol, cymdeithasol ac economaidd hirdymor i’r Fro.”
Dywedodd Kevin McElroy, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bouygues UK: "Mae cyrraedd y garreg filltir yma’n dyst i’r dull cydweithredol cadarn mae ein partneriaid ni wedi’i gyfrannu at y prosiect yma. Mae’r ymrwymiad gan bob partner wedi bod yn hollbwysig wrth gyflawni’r buddsoddiad trawsnewidiol yma i Gymru.
"Mae’r campysau yma’n cynrychioli partneriaeth wirioneddol rhwng addysg, diwydiant a llywodraeth – ac mae’r ysbryd cydweithredol hwnnw’n ymestyn i’n tîm ni ar y safle, y mae eu hymroddiad wedi bod yn hanfodol wrth wireddu’r weledigaeth yma. Mae’n rhoi boddhad mawr i fod yn rhan o brosiect a fydd yn darparu cyfleusterau o safon byd ar gyfer y genhedlaeth nesaf o beirianwyr, gweithgynhyrchwyr ac arbenigwyr cynaliadwyedd, gan osod y safon hefyd fel campws addysg bellach sero net cyntaf Cymru."
Dywedodd Neil Cutting, Rheolwr Cyffredinol yn WEPCo: “Pa ffordd well o ddathlu angerdd ac ymrwymiad clir Coleg Caerdydd a’r Fro tuag at ei ddysgwyr a’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu na nodi cwblhau’r gofod ysbrydoledig sy’n dod i drefn yn y Ganolfan Dechnoleg Uwch. Mae’n anrhydedd derbyn yr ymddiriedaeth i wireddu gweledigaeth y Coleg ar gyfer gofod addysg arloesol a modern ar y safle yma ac ar Gampws Glannau’r Barri.
“Ochr yn ochr â’n partneriaid cyflawni profiadol ni, sydd wedi dylunio’n ofalus ac sydd bellach yn adeiladu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, rydyn ni’n edrych ymlaen at y cerrig milltir pwysig nesaf wrth i ni weithio tuag at gwblhau’r gwaith mewn pryd ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau y bydd y cyfleusterau newydd yn ysbrydoli pob dysgwr am flynyddoedd lawer i ddod ac yn agor drysau newydd o gyfle i Gymru a chymunedau ym Mro Morgannwg.”
Fel y prosiect Addysg Bellach Sero Net cyntaf yng Nghymru, bydd y ddau gampws yn dod yn amgylcheddau dysgu gwirioneddol gynaliadwy lle bydd miloedd yn dysgu bob blwyddyn, gan ddod â buddion sylweddol o ran datblygu cymunedol ac economaidd i’r Fro. Mae disgwyl i’r ddau gampws agor yn haf 2027.