Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi cynnal seremoni raddio arbennig i ddathlu cyflawniadau ei fyfyrwyr Addysg Uwch.
Bob blwyddyn, mae miloedd o ddysgwyr yn dod i CCAF i feithrin y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen yn y llwybrau gyrfa maent wedi’u dewis. Mae llawer ohonynt yn dilyn ystod unigryw’r Coleg o gyrsiau gradd neu gyrsiau ar lefel gradd sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd, er mwyn ymroi i bynciau maen nhw’n teimlo’n angerddol yn eu cylch a meithrin y sgiliau a’r cymwysterau a fydd yn eu helpu i newid neu ddatblygu eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Un o'r dysgwyr a raddiodd eleni oedd Bahader Hussain, a raddiodd gyda Diploma Cyswllt mewn Rheoli Pobl gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD). Cyn hynny, roedd Bahader wedi cofrestru nifer o gydweithwyr ar gyrsiau yn y Coleg ac wedi clywed pethau gwych ganddynt, felly penderfynodd roi cynnig arni ei hun.
“Roedd strwythur y cwrs a’r dull roeddent yn ei ddilyn yn llawer mwy addas i mi na’r llwybr nodweddiadol o astudio ar eich pen eich hun fel mae rhai cyrsiau CIPD yn ei gynnig,” meddai. “Roedd y dulliau addysgu yn y Ganolfan Fusnes, gan gynnwys y cyfadrannau a’r profiad busnes uniongyrchol, yn cyfoethogi’r profiad drwy roi enghreifftiau a phrofiadau ymarferol a pherthnasol a oedd yn helpu i ddod â’r deunydd yn fyw.”
Ar ôl treulio blynyddoedd lawer yn gweithio yn y diwydiant modurol, gan gynnwys fel Prif Dechnegydd Audi, daeth Steven French i weithio fel athro yn Adran Fodurol CCAF. Ac yntau’n awyddus i ddefnyddio ei flynyddoedd o brofiad ac arbenigedd fel darlithydd, penderfynodd Steven ddilyn cwrs TAR gyda'r Coleg.
“Roedd astudio TAR drwy CCAF yn teimlo fel y cam naturiol nesaf,” esboniodd Steven. “Fe wnaeth fy ngalluogi i barhau i weithio yn yr adran fodurol a datblygu dealltwriaeth llawer dyfnach o addysgu, dysgu a sut i gefnogi dysgwyr o ystod eang o gefndiroedd a lefelau gallu.
“Roedd yr addysgu a'r gefnogaeth drwy gydol y cwrs yn rhagorol. Yr hyn roeddwn i'n ei werthfawrogi’n arbennig oedd nad dim ond ymdrin â damcaniaeth oedd y cwrs yn ei wneud – roeddwn i'n cael fy annog i fyfyrio'n gyson ar fy arferion dysgu fy hun ac i ystyried sut y gellid cymhwyso'r ddamcaniaeth mewn amgylchedd ystafell ddosbarth a gweithdy go iawn.
“Roedd y darlithwyr yn fy annog i edrych ar addysgu mewn ffordd wahanol ac i feddwl yn llawer mwy gofalus am bethau fel gwahaniaethu, asesu, ymgysylltiad dysgwyr ac arferion cynhwysol. Hyd yn oed gyda blynyddoedd o brofiad yn y diwydiant modurol, roedd gen i lawer iawn i’w ddysgu am addysg yn benodol.”
Gorffennodd Steven ei gwrs gyda Rhagoriaeth.
“Mae’r cwrs wedi cael effaith enfawr ar fy rôl bresennol,” meddai. "Rwy'n teimlo'n llawer mwy hyderus, nid yn unig ynghylch yr hyn rwy'n ei ddysgu, ond hefyd sut a pham rwy'n ei ddysgu. Mae fy nghefndir yn y diwydiant yn fy ngalluogi i ddod â phrofiad gweithdy go iawn i'r ystafell ddosbarth, tra mae’r cwrs TAR wedi rhoi'r wybodaeth addysgol i mi i droi'r profiad hwnnw'n ddulliau dysgu effeithiol. Rwy'n credu bod y cyfuniad o'r ddau wedi fy ngwneud yn ddarlithydd llawer mwy cyflawn.
“Mae hefyd wedi agor y drws i symud ymlaen ymhellach mewn addysg. Erbyn hyn mae gennyf gymhwyster addysgu cydnabyddedig ochr yn ochr â chymwysterau a phrofiad modurol, sy'n rhoi sylfaen gref iawn i mi ar gyfer pa gyfeiriad bynnag y byddaf yn ei ddilyn yn y dyfodol.”
Byddai'n argymell dilyn llwybr Addysg Uwch y Coleg.
“Un o’r pethau rwy’n eu gwerthfawrogi’n fawr am CCAF yw’r amrywiaeth o bobl sy’n dod i’r coleg,” esboniodd Steven. “Gall addysg bellach roi cyfleoedd i bobl ar wahanol gamau o'u bywydau, p’un ai a ydynt yn gadael yr ysgol, yn cwblhau prentisiaeth, yn newid gyrfa neu, fel fi, yn dychwelyd i addysg yn ddiweddarach yn eu bywyd.
“O fy mhrofiad fy hun, mae’n amlwg nad oes rhaid i ddysgu ddod i ben pan fyddwch chi'n gadael yr ysgol. Gallwch fod wedi sefydlu eich gyrfa ac eto eisiau herio eich hun, datblygu sgiliau newydd a chyflawni rhywbeth rydych chi'n wirioneddol falch ohono.
Dywedodd Sharon James-Evans, Pennaeth CCAF: “Mae gweld ein myfyrwyr yn graddio gyda chymwysterau Addysg Uwch yr oeddent eisiau eu cyflawni, ynghyd â’r sgiliau y maent wedi’u caffael ar hyd y ffordd, yn fy ngwneud i a’m holl gydweithwyr yn y Coleg yn hynod falch. Mae llawer ohonynt wedi dychwelyd i addysg ar ôl cyfnod i ffwrdd, ac ni ellir diystyru’r her honno ynddi'i hun – mae'n dangos faint o ymroddiad ac ymrwymiad sydd ei angen i lwyddo, ac maent wedi gwneud hynny.
“Mae ein graddedigion yn gadael fel pobl dalentog ac addysgedig, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddant yn mynd yn eu blaenau i gyflawni eu nodau. Rwy'n edrych ymlaen at glywed am eu llwyddiant dros y blynyddoedd i ddod.”
Mae CAVC yn cynnig ystod eang o gyrsiau Addysg Uwch, gan weithio mewn partneriaeth agos â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Pearson, CIPD ac AAT. I gael gwybod mwy, ewch i https://cavc.ac.uk/cy/he