Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn edrych ymlaen at ganol mis Tachwedd, pan fydd yn cynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK.
Bydd y Coleg yn cynnal 20 cystadleuaeth ar gyfer WorldSkills UK, mewn disgyblaethau'n amrywio o Gyrff Cerbydau i'r Celfyddydau Coginio a Cholur SFX ar gyfer Ffilmiau a Theledu, yn ogystal â phob un o'r wyth Rownd Derfynol Sgiliau Sylfaenol mewn ystod eang o feysydd. Mae hefyd yn lleoliad ar gyfer nifer o ddigwyddiadau ehangach ac ymweliadau swyddogol sy'n cynnwys arweinwyr busnes, llywodraeth ac addysg ym mhwysigrwydd sgiliau. Bydd dros 100 o gystadleuwyr yn cymryd rhan yn y cystadlaethau yn CCAF a bydd miloedd yn fwy o hyd a lled y rhanbarth, Cymru a'r DU yn ymweld yn ystod yr wythnos, gan edrych ar gystadlaethau a mynychu digwyddiadau ehangach.
Yn y cystadlaethau fe welwn y gorau o'r dysgwyr a'r prentisiaid gorau o hyd a lled y DU yn cystadlu am gyfle i gynrychioli'r DU yn 'yr Olympics Sgiliau' - Rowndiau Terfynol WorldSkills rhyngwladol 2028 yn Siapan.
Bydd gan CCAF 15 cystadleuydd yn Rowndiau Terfynol WorldSkills UK, yn cymryd rhan mewn ystod ehangach o Rowndiau Terfynol nag erioed o'r blaen, gan gynnwys Atgyweirio Cyrff Cerbydau, Celfyddydau Coginio, Diogelwch Seiber, Cynhyrchu Cyfryngau Digidol, Cyfryngau Creadigol Sylfaenol, Gwasanaethau Bwyty Sylfaenol, Gwasanaethau Bwyty a Cholur SFX.
Mae cynnal y Rowndiau Terfynol, yn cynnig cyfle unigryw, gan ddod â chyflogwyr, ysgolion, y gymuned ac arweinwyr gwleidyddol ynghyd mewn dathliad o sgiliau a'u pwysigrwydd. Bydd Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Coleg Gwent a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant hefyd yn cynnal cystadlaethau drwy gydol yr wythnos.
Dywedodd Mike James, Ymddiriedolwr WorldSkills UK a Phrif Weithredwr Coleg Caerdydd a'r Fro: "Rydym yn edrych ymlaen yn arw at gynnal Rowndiau Terfynol WorldSkills UK yng nghyfleusterau gradd flaenaf y Coleg ar ein Campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd.
"Mae hwn yn gyfle gwych i ddod â chyflogwyr a'r dalent ifanc orau yn y DU ynghyd ac i weithredu fel llysgenhadon ar gyfer sgiliau.
“Yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro rydym yn credu'n gryf ym mhwysigrwydd cystadlaethau sgiliau fel WorldSkills UK a’u rôl yn y broses o ysbrydoli pobl i ddatblygu sgiliau lefel uchel. Mae sgiliau’n allweddol i fusnesau o bob sector a maint, ac i economïau ar draws y byd. Mae sgiliau lefel uchel yn gwneud busnesau yn well, yn fwy abl ac effeithlon, gan ddenu cwsmeriaid a chyfrannu at gymunedau ac economïau mwy ffyniannus.
“Dyna pam fod WorldSkills UK mor bwysig. Mae’n dod â’r negeseuon hyn ynghyd ac yn eu hamlygu ar raddfa'r DU gyfan, gan ddangos i gyflogwyr a llywodraethau fod buddsoddi mewn sgiliau yn gyfystyr â buddsoddi yn y dyfodol.”