Mae dau gyn-ddysgwr o Goleg Caerdydd a'r Fro, Javier Griffiths-Payne ac Yassmein Hussein, wedi ennill Gwobrau Dysgu Oedolion Ysbrydoli! am eu hymrwymiad i ddysgu gydol oes.
Ar ôl gadael yr ysgol yn 14 oed heb unrhyw gymwysterau ffurfiol, dychwelodd Javier Griffiths-Payne at ddysgu ddegawd yn ddiweddarach. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae wedi sicrhau lle i astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Bryste, gan brofi nad yw byth yn rhy hwyr i chi newid cwrs eich bywyd.
Ar ôl clywed am gyrsiau Mynediad mewn Noson Agored yn CCAF, cofrestrodd Javier ar gwrs Mynediad i Astudio Pellach lefel 2 y Coleg, ochr yn ochr â chwblhau cwrs TGAU mewn Saesneg gyda'r Brifysgol Agored.
“Roeddwn i wir wedi rhoi fy nghalon ar yrfa mewn meddygaeth ond, heb unrhyw gymwysterau, roedd hi'n anodd iawn dod o hyd i'r hyn roedd arnaf i ei angen fel myfyriwr aeddfed yn fy sefyllfa i,” meddai.
“Ar ôl y diwrnod agored, roeddwn i’n deall yn well y nod roeddwn i wedi’i osod i mi fy hun drwy drafod y gwahanol lwybrau y gallwn i eu dilyn.
“Roedd yn teimlo’n groesawgar iawn, dysgu mewn amgylchedd lle nad oeddwn i’n teimlo fel dieithryn oherwydd fy niffyg addysg ffurfiol, gan mai dyma oedd un o fy mhryderon mwyaf i am ddychwelyd fel myfyriwr aeddfed.”
Sicrhaodd radd A mewn Mathemateg Uwch a’r graddau uchaf posibl yn ei gymhwyster Lefel 3 Mynediad i Addysg Uwch: Biowyddoniaeth. Helpodd y cwrs dwys, blwyddyn o hyd, a oedd yn cynnwys cemeg, bioleg a biocemeg, ochr yn ochr â modiwlau mewn sgiliau astudio a chyfathrebu, Javier i sicrhau lle ym Mhrifysgol Bryste.
Drwy gydol ei astudiaethau, darparodd Javier ofal i’w daid anabl yn ogystal â bod yn gapten ar Dîm Cymru mewn gemau fideo cystadleuol yn ystod gemau rhagbrofol Pencampwriaeth y Byd y Counter-Strike International Esports Federation (IESF).
Gan annog pobl eraill oedd wedi gadael yr ysgol heb gymwysterau i ddychwelyd i ddysgu, dywedodd: “Dydi hi byth yn rhy hwyr i ddechrau eto. Pe bai rhywun wedi dweud wrtha’ i yn iau y byddwn i’n astudio meddygaeth yn y brifysgol, fe fyddwn i wedi dweud eu bod nhw’n cellwair! Ond dyma fi. ’Fydda i byth yn stopio dysgu!”
Dywedodd Kathleen Weatherhead, tiwtor cwrs Mynediad i Addysg Uwch CCAF ac athrawes gwyddoniaeth: “Mae Javier yn ddysgwr rhagorol. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae wedi dangos dro ar ôl tro ei frwdfrydedd gwirioneddol fel dysgwr aeddfed sy’n mwynhau’r cyfle i astudio ac i fanteisio ar bob cyfle sy’n ei baratoi ar gyfer addysg uwch.”
Mae Yassmein Hussein yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at gymuned Caerdydd lle mae hi’n byw wrth iddi ymdrechu i wella ei sgiliau, ei hyder a’i gwybodaeth drwy ddysgu oedolion.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r fam ifanc i ddau o blant wedi cwblhau 13 cwrs dysgu oedolion gyda CCAF a Chyngor Caerdydd. Mae rhai’n ymwneud ag anableddau dysgu, ADHD, awtistiaeth, dysgu teuluol, rheoli straen a gwyddoniaeth.
Mae hi nawr yn gobeithio gwneud cyrsiau seicoleg plant a busnes. Cyn cyrraedd Cymru, enillodd Radd Baglor mewn Fferylliaeth a Diploma Ôl-raddedig mewn Fferylliaeth Glinigol yn yr Aifft.
“Gan nad yw cael y dystysgrif gyfatebol yma yn y DU yn hawdd, fe wnes i benderfynu chwilio am ffordd arall o gefnogi fy mhlant yn ystod eu siwrnai addysgol, gan mai cynnal teulu sefydlog ac integredig o fewn y gymuned yw fy mhrif flaenoriaeth i,” eglurodd Yassmein.
Mae cyrsiau dysgu oedolion yng Nghymru wedi gwella Saesneg Yassmein ac wedi ei helpu i gyflawni ei hamcanion teuluol a chymunedol.
I rannu ei gwybodaeth a’i phrofiadau o’r cyrsiau, mae hi wedi ffurfio grŵp Facebook sy’n cefnogi mamau plant niwroamrywiol, yn enwedig yn ei gwlad enedigol, yr Aifft. Mae hi hefyd yn hyrwyddo addysg oedolion i famau eraill.
Wrth ymateb i ennill y wobr, dywedodd Yassmein: “Rydw i mor gyffrous ac yn falch o fod wedi ennill y wobr yma. Rydw i’n teimlo ei bod yn wobr am fy holl waith caled ar gyrsiau dysgu oedolion dros y tair blynedd ddiwethaf.
“Y prif reswm pam wnes i ymuno ag addysg oedolion oedd fy mod i eisiau bod yn rhan o'r gymuned pan wnes i symud i'r DU fwy na thair blynedd yn ôl.
“Mae pobl wedi bod mor groesawgar ers i ni gyrraedd Cymru ac mae CCAF a Chyngor Caerdydd mor gefnogol. Ar hyn o bryd, rydw i'n datblygu syniad becws gyda ffocws ar y gymuned i greu gofod lle gall merched, yn enwedig mamau, ddysgu pobi a sgiliau gwaith llaw eraill i'w helpu i ddechrau busnesau cartref bach.”
Wedi'i hysbrydoli gan wirfoddoli fel pobydd yn The Hive yn Llaneirwg, mae hi wedi dechrau ei busnes cartref bach ei hun, yn pobi bisgedi a chacennau. Mae hi hefyd yn gwirfoddoli gyda Common/Wealth Sounding Board, prosiect creadigol dan arweiniad y gymuned yng Nghaerdydd.
“Rydw i’n berson gwahanol nawr o gymharu â phan wnes i gyrraedd y DU i ddechrau - gyda’r un angerdd ac uchelgais o hyd, ond gyda mwy o ymwybyddiaeth a chariad cryfach at wybodaeth a gwaith cymunedol,” ychwanegodd Yassmein, y mae ei gŵr, Ahmed, yn llawfeddyg orthopedig yng Nghaerdydd.
Mae enwebydd y wobr, Mags Richmond, tiwtor Dysgu i Deuluoedd Coleg Caerdydd a’r Fro, yn disgrifio Yassmein fel “dysgwr ysbrydoledig” sy’n gwneud cyfraniad gwerthfawr at ei chymuned.
“Mae gan Yassmein freuddwydion mawr ar gyfer y dyfodol ac mae hi’n esiampl o beth gall person ei gyflawni gyda’r gefnogaeth a’r cyfleoedd cywir,” meddai. “Mae ei hagwedd yn golygu ei bod hi’n helpu i ysbrydoli dysgu ei phlant ei hun ac yn rhoi anogaeth amlwg i bawb o’i chwmpas.”
Dywedodd Dirprwy Weinidog Sgiliau ac Addysg Drydyddol Llywodraeth Cymru, Cefin Campbell AS: "Mae stori Yassmein yn esiampl wych o fanteision ehangach dysgu oedolion. Drwy ei hymrwymiad i ddysgu, mae hi wedi datblygu sgiliau newydd, wedi meithrin ei hyder ac wedi dod yn gyfrannwr gweithredol at ei chymuned leol.
“Yr hyn sy'n gwneud ei chyflawniad yn hynod ysbrydoledig yw'r ffordd mae hi'n defnyddio ei gwybodaeth a'i phrofiad i gefnogi eraill, yma yng Nghymru a thu hwnt. Mae ei siwrnai’n dangos sut gall dysgu ddod â phobl at ei gilydd, creu cyfleoedd a helpu i greu cymunedau cryfach a mwy cysylltiedig.
“Wrth i ni baratoi i ddathlu Wythnos Dysgwyr Sy’n Oedolion, mae stori Yassmein yn ein hatgoffa ni bod dysgu’n gallu bod yn drawsnewidiol ar unrhyw adeg mewn bywyd, a chael effaith gadarnhaol ymhell y tu hwnt i’r dysgwr unigol.”
Yn un o uchafbwyntiau’r Wythnos Dysgwyr Sy’n Oedolion yng Nghymru, mae gwobrau Ysbrydoli! yn cydnabod y rhai sydd wedi dangos ymrwymiad i beidio byth â rhoi'r gorau i ddysgu. Mae’r gwobrau’n cael eu cydlyunu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
Mae pob un o enillwyr y Gwobrau Ysbrydoli! yn dangos sut gall dysgu gynnig ail gyfleoedd, helpu i greu cyfleoedd gyrfa newydd, meithrin hyder a helpu cymunedau i ddod yn fywiog ac yn llwyddiannus.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Llongyfarchiadau i Javier ac Yassmein! Mae eu hymrwymiad i wneud gwahaniaeth drwy ddysgu gydol oes yn golygu bod y ddau wir yn haeddu ennill y gwobrau yma.”