CCAF yn dathlu’r flwyddyn orau eto o ran llwyddiant dysgwyr ar Ddiwrnod Canlyniadau Cyrsiau Safon Uwch a Lefel 3

12 Awst 2026

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn dathlu’r flwyddyn orau eto o ran llwyddiant wrth i fwy o fyfyrwyr nag erioed gyflawni eu cymwysterau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol, BTEC a chymwysterau Lefel 3 eraill.

Mae CCAF yn lle poblogaidd i astudio cyrsiau Safon Uwch wrth iddo gynnig ystod eang o 40 o bynciau. Roedd y gyfradd lwyddo eleni ar gyfer y pynciau Crefft, Ffotograffiaeth, Astudiaethau Busnes, Cyfrifiadura, Drama, Technoleg Ddigidol, Saesneg, Ffrangeg, Mathemateg Bellach, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, y Cyfryngau a Chymdeithaseg yn 100%.

Dathlodd y Coleg gyflawniadau dysgwyr a oedd yn astudio amrywiaeth eang o gymwysterau Lefel 3 eraill, megis BTEC, naill ai fel cymwysterau unigol neu ochr yn ochr â chyrsiau Safon Uwch, mewn pynciau a oedd yn cynnwys Newyddiadureg, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Ffasiwn a Chwaraeon. Mae llawer o’r cyrsiau Lefel 3 hyn yn galluogi dysgwyr i astudio credydau sydd gyfwerth â hyd at 3 Cymhwyster Safon Uwch mewn pwnc y maent yn frwdfrydig drosto, sy’n eu galluogi i fynd ymlaen i brifysgolion, prentisiaethau a rhagor.

Eleni, cafodd y nifer uchaf erioed o geisiadau o Goleg Caerdydd a’r Fro eu cyflwyno i brifysgolion. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae cyfanswm o fwy nag 1,000 o ddysgwyr wedi mynd yn syth i’r brifysgol o’r Coleg. Eleni, mae mwy o ddysgwyr nag erioed wedi gwneud cais i brifysgol, wrth i tua 750 o ddysgwyr wneud cais a chanran werth chweil o 34% o’r rheini yn cael cynigion cadarn amodol gan brifysgolion Oxbridge a Grŵp Russell.

Mae llawer o ddysgwyr hefyd yn dewis llwybrau cynnydd amgen i brentisiaethau, uwch brentisiaethau a chyfleoedd cyflogaeth eraill yn y diwydiant gyda chyflogwyr sy’n amrywio o’r BBC i Bentley.

Dywedodd Pennaeth CCAF, Sharon James-Evans: “Mae dathlu ein dysgwyr ar ddiwrnod Canlyniadau cyrsiau Safon Uwch a Lefel 3 bob amser yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn wrth i’r bobl ifanc hyn ddechrau pennod nesaf eu bywydau. Llongyfarchiadau i bawb!

“Rydym ni oll yn falch iawn o’n holl ddysgwyr sy’n casglu eu canlyniadau heddiw. Mae eu cyflawniadau yn dystiolaeth o’u gwaith caled yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ac i gydweithwyr y Coleg sydd wedi gweithio mor galed i gefnogi eu dysgwyr i gyflawni’r canlyniadau hyn. Mae’n wych gweld cynifer yn cyflawni’r canlyniadau hyn, yn ogystal â’r sgiliau a’r profiadau ehangach y maent wedi’u hennill yn ystod eu cyfnod yn CCAF i sefyll allan a mynd ymlaen i brifysgolion blaenllaw a llwybrau cynnydd amgen gwych sy’n cynnwys prentisiaethau uwch.”

Un dysgwr sydd eisoes wedi serennu yw Daniel James. Mae wedi cyflawni dwy Ragoriaeth Seren ac un Rhagoriaeth mewn cwrs Cyfrifiadura BTEC. Mae Daniel, sy’n mynd ymlaen i Brifysgol Leeds i astudio Cyfrifiadureg, eisoes wedi dangos ei fod yn un o’r bobl ifanc orau yn ei faes, wrth ennill medal aur yn Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU, 2025.

“Rydw i’n hapus iawn gyda fy nghanlyniadau gan ei fod wedi bod yn llawer o waith caled,” dywedodd Daniel. “Roedd astudio’r cwrs BTEC a chystadlu yn WorldSkills yn llawer o waith, felly mae ennill y canlyniad yma ar ôl yr holl waith caled yn hyfryd.

“Rydw i wedi cael amser gwerth chweil yn y Coleg; roedd yn wych bod gan y cwrs elfennau ymarferol ac elfennau theori. A chyda’r WorldSkills hefyd mae wedi bod yn anhygoel.”

Y llynedd, cyrhaeddodd Daniel Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU, lle y bu’n cystadlu yn erbyn y goreuon a llwyddodd i sicrhau’r wobr aur yn y gystadleuaeth Technegydd Seilwaith Rhwydwaith. Mae CCAF yn credu’n gryf mewn cefnogi cystadlaethau sgiliau fel WorldSkills oherwydd y profiadau a’r cyfleoedd ychwanegol y maent yn eu cynnig i’w ddysgwyr.

“Roedd ennill y fedal aur yn wych, nid yn unig am y profiad ac i weld lle’r oeddwn arni, ond hefyd y ffordd mae wedi fy helpu gyda fy sgiliau ymarferol,” dywedodd Daniel. “Fe wnes i fwynhau pob cam o’r daith.

“Mae’r Coleg a’r gystadleuaeth WorldSkills heb amheuaeth wedi fy helpu i fod yn fwy uchelgeisiol wrth i mi ddewis prifysgolion, yn ogystal â fy helpu i gael lle yn rhai o’r prifysgolion hynny, a bydd hefyd o fudd i mi yn y dyfodol. Mae’r tiwtoriaid yn y Coleg wedi bod yn hynod gefnogol a hebddynt buaswn heb gael y profiad WorldSkills sydd wir wedi fy helpu i ddatblygu mewn cymaint o ffyrdd gwahanol.” 

Enillodd Gwen Barry radd A* mewn Gwleidyddiaeth, A mewn Economeg a B mewn Mathemateg. Mae’n mynd i Brifysgol Bryste i astudio Economeg.

“Rydw i’n hapus iawn gyda fy nghanlyniadau,” dywedodd Gwen. “Roeddwn i’n poeni ychydig o’n rydw i bellach yn teimlo rhyddhad.

“Rydw i wir wedi mwynhau fy nghyfnod yn CCAF - rydw i’n falch iawn fy mod wedi dod yma. Roedd yr athrawon yn wych, roedd y bobl yn wych, ac roedd y cyfleusterau hefyd yn dda iawn. Roedd fy athro Economeg yn dda iawn ac yn cynnig cymaint o help, yn enwedig gyda phynciau digidol. Mae’r Coleg yn sicr wedi fy helpu i gyflawni fy nodau.”

Enillodd Jenna O’Sullivan bedair gradd A mewn Mathemateg, Bioleg, Ffiseg ac EPQ. Mae’r Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ), sy’n cael ei gynnig gan Raglen Ysgolheigion CCAF, yn gymhwyster cydnabyddedig i baratoi dysgwyr at astudio mewn prifysgol.

“Rydw i’n hapus iawn gyda fy nghanlyniadau - roeddwn i’n meddwl fy mod am gael graddau is,” dywedodd Jenna. “Rydw i’n mynd i Brifysgol Lerpwl i astudio Astroffiseg.

“Rydw i wedi cael amser da yn y Coleg. Roedd yn hyfryd cael pobl o lawer o gefndiroedd gwahanol, fe wnes i fwynhau’r amrywiaeth hwnnw. Mae’n sicr wedi fy helpu gyda fy nodau.”

Enillodd Niran Abhilash ddwy Ragoriaeth Seren a B mewn cwrs Lefel 3 y Gyfraith, Troseddeg a Seicoleg ac mae’n mynd ymlaen i Brifysgol Durham i astudio Troseddeg.

“Rydw i’n teimlo’n wych,” dywedodd Niran. “Rydw i’n mynd i brifysgol dda yn ogystal â choleg da.

“Rydw i wedi mwynhau fy nghyfnod yn CCAF. Roedd fy newis rhwng y coleg yma a choleg arall ond rydw i wir wedi cael cyfnod gwych yma - mae’n rhaid i’r rhain fod yr athrawon gorau rwyf erioed wedi eu gweld. Mae wedi helpu gyda phopeth fel sefyll hen bapurau; fe wnaethon nhw bopeth o fewn eu gallu i sicrhau ein bod yn llwyddo.

“Roeddwn i wrth fy modd â’r ffordd roedd pawb yn trin ei gilydd â pharch. Roedd y bobl yma, yr athrawon a’r myfyrwyr, yn trin ei gilydd â pharch. Mae 100% wedi fy helpu i sicrhau fy lle - y ffordd rydw i wedi cael fy nhrin yma a’r ffordd mae fy ffrindiau wedi fy helpu sydd wedi fy nghario i le rydw i heddiw.”

Enillodd Maher Alrais A mewn Cemeg a Ffiseg a B mewn Mathemateg a Bioleg, ac mae’n mynd ymlaen i Brifysgol Caerdydd i astudio Meddygaeth.

“Mae’n wych, go iawn,” dywedodd Maher. “Roedd y canlyniadau yn wahanol i beth roeddwn yn ei ddisgwyl ond rydw i wedi eu cael ac rwy’n hapus iawn.

“Fe wnes i fwynhau yma yn CCAF. Yr hyn wnes i ei fwynhau yn bennaf oedd Undeb y Myfyrwyr gyda’r consolau gemau, gwyddbwyll a gemau eraill - roedd yr athrawon yn wych hefyd gan eu bod wedi gwneud cyrsiau anodd yn hwyl.

“Trwy’r Rhaglen Ysgolheigion, cefais hefyd fynd ar deithiau i brifysgolion fel Rhydychen i ddysgu am eu hanes, fe wnes i fwynhau hynny’n fawr. Cymerais ran yn yr Olympiad Cemeg a Ffiseg hefyd.

“Mae’r Coleg wedi fy helpu yn fawr, drwy fy helpu i gael profiad gwaith a phrofiad cysgodi, yn ogystal â helpu gydag UCAS.”

Cyflawnodd Harriet Gilmore A* yn y Gyfraith, Cymdeithaseg a Ffiseg ac A yn yr EPQ. Mae’n mynd ymlaen i Brifysgol Bryste i astudio’r Gyfraith.

“Doeddwn i ddim yn disgwyl y graddau hyn,” dywedodd Harriet. “Buaswn wedi bod yn hapus gydag un A*, ond mae ennill tair A* yn gyffrous iawn.

“Roedd y cyrsiau Safon Uwch yn heriol, ond mae ennill y canlyniadau hyn ar y diwedd yn golygu eu bod yn werth y gwaith caled. Cefais fy nghyflwyno i’r Gyfraith yma yn y Coleg. Roedd yn hollol newydd ac yn wahanol iawn i’r ysgol, rwy’n meddwl mai dyma pam y gwnes i ei fwynhau gymaint.”

Manteisiodd Harriet ar Raglen Ysgolheigion CCAF hefyd.

“Roedd y Rhaglen Ysgolheigion yn anodd ond fe wnes i fwynhau fy EPQ a chefais lawr o ryddid,” meddai. “Roedd yn gyffrous cael rhywbeth ochr yn ochr â fy nghyrsiau Safon Uwch.”

Enillodd Niamh Davies ddwy A* ac A yn ei chwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3, yn ogystal â B yng nghwrs Bagloriaeth Cymru, ac mae’n mynd ymlaen i Brifysgol De Cymru i astudio Nyrsio Oedolion.

“Rydw i wedi cael amser wrth fy modd yma yn CCAF,” dywedodd Niamh. “Pan roeddwn i’n dewis coleg roedd rhwng dau, ond ar y cyfan cefais fy mhlesio llawer yn fwy gan CCAF. Mae mor fodern, ac mae’r cyfleusterau a’r lleoliad yn wych.

“Roeddwn wrth fy modd â’r holl glybiau a’r pethau eraill a oedd yn digwydd - fe wnes i hyd yn oed sefydlu un fy hun. Roeddwn wrth fy modd â’r llyfrgell hefyd a threuliais lawer o fy amser yno. Rwyf gyda St John Ambulance ac roedd modd i mi drefnu sesiwn Cymorth Cyntaf gyda’r Clwb Meddygol.

“Roedd y cymorth a gefais yn wych - mae gen i awtistiaeth felly gall hynny fod yn broblem mewn lle hynod brysur, ond mae ystafell dawel y gallwch fynd iddi pan mae digwyddiadau’n mynd rhagddynt, a chefais hefyd gwnsela a chymorth gydag arholiadau.”

“Mae’r Coleg hwn yn sicr wedi fy helpu i gyflawni fy nodau. “Mae’n hyfryd eu bod wedi cael ffydd ynof a dydi hynny heb ddigwydd yn y gorffennol bob amser.”

Cyflawnodd Owen Williams A mewn Cemeg, Bioleg a Mathemateg.

“Rwy’n symud i Awstralia ac yn gobeithio astudio gradd Gwyddoniaeth draw yno,” dywedodd Owen. “Rwy’n hapus gyda fy ngraddau, yn enwedig Cemeg. Roedd y tri phapur yn anodd iawn felly roedd yn sioc cael A ym mhob pwnc!

“Rydw i wedi mwynhau fy nghyfnod yma - rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau ac roeddwn i’n hoffi’r annibyniaeth mae’r Coleg yn ei rhoi i chi, drwy allu mynd i mewn ac allan rhwng fy astudiaethau. Roedd fy athrawon yn wych, roedd yn dda bod fy athro Mathemateg wedi cynnal sesiynau adolygu ychwanegol i ni a oedd yn help mawr.

“Mae fy nghanlyniadau yn mynd i fy helpu i gyflawni fy nodau ac fe helpodd y Coleg fi i gyflawni fy nghanlyniadau.”

Enillodd Libby Cullen A* mewn Cymdeithaseg, A mewn Astudiaethau Crefyddol a Bagloriaeth Cymru a B mewn Ffiseg. Mae’n mynd ymlaen i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio Gwaith Cymdeithasol.

“Rwy’n teimlo’n dda iawn ac yn hapus iawn,” dywedodd Libby. “Cefais A, B, C y llynedd felly roeddwn yn hapus i gynnal hynny.

“Mae wedi bod yn dda iawn yma yn CCAF. Roeddwn i wrth fy modd ac yn falch fy mod wedi gadael y chweched dosbarth. Doedd fy mhynciau ddim yn cael eu cynnig yn yr ysgol felly penderfynais ddod i’r Coleg - roedd gen i ofn ar y dechrau, ond rydw i’n falch fy mod wedi. Mae’n sicr wedi fy helpu i gyflawni fy nodau.”