Mae dysgwyr a phrentisiaid Coleg Caerdydd a'r Fro yn barod i gystadlu mewn amrywiaeth ehangach o Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU nag erioed o'r blaen pan fydd y gystadleuaeth yn dychwelyd i Gymru ym mis Tachwedd.
Gan adeiladu ar lwyddiant y llynedd, pryd daeth CCAF yn gydradd gyntaf yn y tabl medalau, mae'r Coleg yn anfon 15 o ddysgwyr a phrentisiaid i'r rowndiau terfynol. Bydd CCAF hefyd yn cynnal nifer o'r rowndiau rhagbrofol.
Bydd y dysgwyr a'r prentisiaid yn cystadlu yn erbyn enillwyr rhanbarthol cystadlaethau sgiliau o bob cwr o'r DU - y gorau o blith y goreuon yn eu disgyblaeth. Wedyn bydd gan enillwyr Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU gyfle i gynrychioli'r DU yn y 'Gemau Olympaidd Sgiliau' - Rowndiau Terfynol Rhyngwladol WorldSkills 2028 yn Japan.
Dyma gynrychiolwyr CCAF yn y rowndiau terfynol:
• Dylan Morgan – Atgyweirio Cyrff Cerbydau
• Jamie Smith – Atgyweirio Cyrff Cerbydau
• Lydia McCarthy – Celfyddydau Coginio
• Kornchanut Uttamamoon – Seibrddiogelwch
• Cole Parle – Cynhyrchu Cyfryngau Digidol
• Owen Thompson – Cynhyrchu Cyfryngau Digidol
• Ryan Lewis – Cynhyrchu Cyfryngau Digidol
• Kaleal Dababi – Cyfryngau Creadigol Sylfaen
• Kara Evens – Cyfryngau Creadigol Sylfaen
• Henry Moore – Gwasanaethau Bwyty Sylfaen
• Kodi Fryer Saxby – Gwasanaethau Bwyty Sylfaen
• Charlie Burton – Gwasanaethau Bwyty
• Angel Lewis – Colur SFX
• Titi Kaewnok – Colur SFX
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Dymunwn y gorau un i’r 15 o’n dysgwyr a’n prentisiaid a fydd yn cymryd rhan yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU ym mis Tachwedd. Rydyn ni i gyd yn hynod falch ohonoch chi!
“Yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro rydyn ni’n credu’n angerddol ym mhwysigrwydd cystadlaethau sgiliau fel WorldSkills y DU a’r rôl maen nhw’n ei chwarae wrth ysbrydoli pobl i ddatblygu sgiliau lefel uchel. Mae sgiliau’n hanfodol i fusnesau o bob sector a maint, ac i economïau ledled y byd. Mae sgiliau lefel uchel yn gwneud busnesau’n well ac yn fwy abl ac effeithlon, gan ddenu cwsmeriaid a chyfrannu at gymunedau ac economïau mwy llewyrchus.
“Dyma pam mae WorldSkills y DU mor bwysig. Mae’n dod â’r negeseuon yma at ei gilydd ac yn eu hamlygu ar raddfa ledled y DU, gan ddangos i gyflogwyr a llywodraethau bod buddsoddi mewn sgiliau yn fuddsoddi yn y dyfodol.”