Mae enillwyr y Gwobrau Dysgu Teuluol eleni wedi’u cyhoeddi, gyda Choleg Caerdydd a’r Fro yn cael Canmoliaeth Uchel yn y categori Dysgu Teuluol i Gefnogi Iechyd a Lles.
Mae’r Gwobrau Dysgu Teuluol, sy’n cael eu trefnu gan y fenter dysgu gydol oes, Ymgyrch ar gyfer Dysgu, a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Teuluol, yn dathlu mentrau dychmygus, arloesol a difyr ledled y DU sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd a’u cymunedau. Maen nhw’n cydnabod sefydliadau sydd wedi defnyddio dulliau gweithredu a chydweithredu newydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i greu cyfleoedd dysgu cynhwysol i deuluoedd.
Cafodd CCAF ei gydnabod am ei raglen Deall Emosiynau, a sefydlwyd gan dîm Dysgu Teuluol y Coleg mewn ymateb i bryderon cynyddol gan ysgolion am wytnwch emosiynol plant a hyder rhieni i gefnogi lles. Daeth y rhaglen â rhieni a phlant at ei gilydd yn yr ysgol i archwilio emosiynau, cryfhau cyfathrebu a datblygu strategaethau ymarferol ar gyfer rheoli straen. Roedd elfennau digidol, gan gynnwys diogelwch ar-lein a gweithgareddau syml, wedi helpu rhieni hefyd i deimlo’n fwy hyderus wrth gefnogi eu plant mewn byd digidol.
Cefnogodd y rhaglen 486 o deuluoedd a 992 o unigolion ar draws mwy na 50 o ysgolion, gyda chyfradd gystadlu o 94%. Targedwyd y ddarpariaeth yn strategol mewn ardaloedd gyda llawer o amddifadedd, gan sicrhau cefnogaeth i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys y rhai sy'n newydd i’r Saesneg fel iaith, teuluoedd sy'n addysgu gartref a rhieni a gofalwyr plant ag anghenion dysgu ychwanegol.
Dangosodd tystiolaeth welliannau sylweddol yn hyder rhieni, lles emosiynol ac ymgysylltu ag addysg. Adroddodd y teuluoedd am berthnasoedd cryfach, cyfathrebu gwell a mwy o hyder wrth reoli emosiynau gartref. Gwelodd ysgolion ymddygiad gwell, presenoldeb cynyddol a mwy o ymgysylltu yn yr ystafell ddosbarth. Helpodd y rhaglen hefyd i leihau ynysu drwy feithrin rhwydweithiau cyfoedion cefnogol, yn enwedig ar gyfer teuluoedd newydd i gymunedau.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James-Evans: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi cael Canmoliaeth Uchel yn y Gwobrau Dysgu Teuluol – llongyfarchiadau i dîm Dysgu Teuluol CCAF!
“Yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, rydyn ni’n ymfalchïo mewn bod wrth galon y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu, ac mae'r tîm Dysgu Teuluol yn esiampl ddisglair o'r gwaith hwnnw. Maen nhw’n gweithio i gydgynhyrchu'r rhaglen Dysgu Teuluol gyda phlant, rhieni, gofalwyr ac arweinwyr ysgolion i sicrhau ei bod yn ymateb i anghenion teuluoedd yn y cymunedau hynny, gan alluogi rhieni a gofalwyr i ddysgu a datblygu gyda'u teuluoedd.
“Mae'r ffordd arloesol, ddychmygus a chynhwysol mae'r tîm yn darparu cyfleoedd dysgu i deuluoedd ledled Rhanbarth y Brifddinas a llwyddiant y rhaglen Deall Emosiynau yn ysbrydoliaeth ac mae'r ganmoliaeth hon yn dyst i hynny.”
Yn 2026, roedd y pedwar categori gwobrau yn cydnabod prosiectau dysgu teuluol sy’n gweithio gyda phlant yn y blynyddoedd cynnar, dulliau arloesol o ddysgu, gweithgareddau sy'n cefnogi iechyd a lles, a mentrau sy'n cynnwys gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, neu fathemateg (STEM).
Dywedodd Miranda Baxter, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Ymgyrch ar gyfer Dysgu: “Mae’r Gwobrau Dysgu Teuluol yn cydnabod ac yn dathlu mentrau dysgu teuluol rhagorol ac effeithiol sy’n digwydd yn genedlaethol. Bob blwyddyn, mae’r beirniaid yn cael eu syfrdanu gan safon y ceisiadau a’r safonau rhagoriaeth ar draws sector hynod amrywiol ac arbenigol yn y DU.
“Mae dysgu teuluol yn ymwneud â chreu profiadau dysgu cyfoethog a pherthnasoedd cryfach sy’n trawsnewid ffyrdd o feddwl, yn hybu sgiliau ac yn creu diwylliant dysgu gydol oes. Mae pob ymgeisydd wedi dangos effaith gadarnhaol ar eu cymuned. Maen nhw wedi gweithio gyda theuluoedd mewn ffyrdd creadigol ac ymatebol lle’r oedd y teuluoedd yn gyd-grëwyr ac yn cael eu gwerthfawrogi fel partneriaid dysgu cyfartal.
“Mae pawb yn elwa o ddysgu teuluol: teuluoedd, trefnwyr, yr ecosystem gymunedol gyfan. Mae’r sefydliadau a’r unigolion sy’n cyflwyno ceisiadau yn grŵp angerddol sydd wir yn credu ym mhŵer ymgysylltu teuluol. Rydyn ni yn yr Ymgyrch ar gyfer Dysgu wrth ein bodd yn cyhoeddi’r enillwyr eleni a’r sefydliadau sydd wedi derbyn canmoliaeth, ac rydyn ni’n diolch i bawb a gyflwynodd gais.”