Prentisiaid Iau yn dathlu graddio o Goleg Caerdydd a'r Fro

18 Meh 2026

Mae'r criw diweddaraf o fyfyrwyr 14 i 16 oed sydd wedi manteisio ar y cyfle i drawsnewid eu bywydau drwy lwybr gyrfa galwedigaethol arloesol yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro wedi dathlu cwblhau eu cyrsiau'n llwyddiannus.

Ymunwyd â Phrentisiaid Iau Blwyddyn 11 CCAF gan ffrindiau, teulu a'u tiwtoriaid i fwynhau Seremoni Raddio ar Gampws Canol y Ddinas y Coleg a derbyn eu tystysgrifau graddio.

Eleni, graddiodd 49 o ddysgwyr Blwyddyn 11. O blith y rhai a raddiodd, mae llawer yn mynd ymlaen i gyrsiau galwedigaethol ôl-16 sy’n amrywio o Drin Gwallt a Therapi Harddwch i Letygarwch ac Arlwyo, Gwasanaethau Adeiladu, Atgyweirio a Chynnal a Chadw Ceir, Gwasanaethau Cyhoeddus, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Astudiaethau Busnes a Chelf a Dylunio.

Roedd y graddio hefyd yn cynnwys seremoni wobrwyo. Aeth Gwobr Prentis Iau Cyffredinol y Flwyddyn eleni i William Grinstead, y profodd ei aeddfedrwydd, ei benderfyniad a'i agwedd gadarnhaol o'r dechrau un ei fod yn ddysgwr sy'dd wir yn ymgorffori gwerthoedd, ymrwymiad ac ysbryd y rhaglen Prentisiaethau Iau.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James-Evans: “Llongyfarchiadau i bob un o’n criw diweddaraf ni o Brentisiaid Iau – rydych chi wedi gweithio mor galed dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gyrraedd lle rydych chi heddiw. Rydych chi wedi datblygu a chyflawni eich nodau mewn ffordd sydd wir wedi bod yn ysbrydoledig.

“Mae gweld y byddwch chi’n symud ymlaen yn eich llwybrau gyrfa o ddewis yn wych. Diolch i chi ac i’r tîm gwych sydd wedi gweithio gyda chi – rydyn ni’n falch iawn ohonoch chi gyd.”

Yn cael ei chyllido ar y cyd gan CCAF, Cyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac ysgolion lleol, mae’r rhaglen Prentisiaethau Iau wedi’i chynllunio i gynyddu nifer y bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Mae’n cynnig cyfle i bobl ifanc astudio’n llawn amser mewn lleoliad coleg dan arweiniad athrawon cymwys yn y diwydiant mewn cyfleusterau galwedigaethol arbenigol wrth barhau i sefyll TGAU mewn Saesneg a Mathemateg.

Lansiodd CCAF y rhaglen yn 2016 – y coleg cyntaf yng Nghymru i wneud hynny. Enillodd y Coleg Wobr Beacon Cymdeithas y Colegau ledled y DU am Bontio i Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 yn 2017, a chyflwynodd Llywodraeth Cymru y rhaglen ledled Cymru.

Ers 2016, mae mwy na 300 o bobl ifanc 14 i 16 oed wedi astudio ar raglen CCAF o 25 o ysgolion ledled Caerdydd a Bro Morganwg, yn ogystal â phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu y tu allan i'r ysgol. Mae’r cyfraddau llwyddiant yn uchel gyda chyfartaledd o 86 i 88% yn cyflawni cymwysterau galwedigaethol a TGAU ac yn symud ymlaen i addysg bellach neu gyflogaeth.

Am ragor o wybodaeth am raglen Prentisiaethau Iau CCAF, ewch i https://cavc.ac.uk/en/junior-apprenticeships