Mae dysgwyr lletygarwch yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro wedi codi bron i £2,000 ar gyfer elusen drwy gynnal cinio nos arbennig ym mwyty Y Dosbarth yn CCAF.
Bu’r cogydd enwog, Stephen Terry, yn gweithio gyda thîm Y Dosbarth a’r dysgwyr ar fwydlen tri chwrs arbennig, ac anfonodd cogyddion enwog, gan gynnwys Tom Kerridge ac Andrew Pern, negeseuon lwc dda i’w dangos ar y noson. Dysgwr Celfyddydau Coginio Lefel 3, Polly Rees, ddyluniodd y pwdin.
Cododd y cinio £1,700 ar gyfer Hospitality Action, elusen sy'n cefnogi'r rhai sy'n gweithio yn y sector ac sydd angen cefnogaeth efallai yn eu gyrfa ar gyfer unrhyw beth o iechyd meddwl i bryderon ariannol. Mae'n cwmpasu'r diwydiant Lletygarwch cyfan, o westai, bwytai, tafarndai, bariau neu gaffis i ysgolion, ysbytai a lleoliadau digwyddiadau.
Dywedodd Stephen Terry: “Roedd yn bleser pur gweithio gyda’r dysgwyr ar hyn, oedd yn ymwneud â rhoi rhywbeth yn ôl. Mae bob amser yn bleser dod i mewn i’r Coleg a cheisio rhannu rhywfaint o fy ngwybodaeth a gweithio gyda’r dysgwyr, ac ochr yn ochr â hynny roedden ni’n codi arian ar gyfer elusen sy’n amlwg yn agos iawn at fy nghalon i – mae Hospitality Action yn gwneud gwaith anhygoel.
“Pan mae rhywun yn gofyn i chi wneud digwyddidau, weithiau rydych chi fymryn yn betrus ac yn mynd braidd yn nerfus, ond rydw i'n gwybod pan rydw i’n gwneud rhywbeth gyda'r Coleg bod y cyfleusterau o'r radd flaenaf a bod mwy na digon o help, brwdfrydedd a pharodrwydd ymhlith y dysgwyr a'r staff darlithio bob amser.
“Roedd yn bleser ac yn rhywbeth hoffwn i ei ailadrodd – hir y parhaed fy nghysylltiad i â’r Coleg a phob lwc i’r dysgwyr.”
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Diolch i Stephen a da iawn i dîm Y Dosbarth ac i’r dysgwyr am godi cymaint o arian at achos mor dda, sef Hospitality Action.
“Yn CCAF rydyn ni’n hoffi darparu profiadau real, nid realistig, i’n dysgwyr ni, ac fe wnaeth y dysgwyr Lletygarwch yma waith gwych yn trefnu ac yn cynnal cinio nos elusennol ar gyfer y cyhoedd. Nid yn unig y gwnaethon nhw godi’r £1,700 ar gyfer Hospitality Action ond hefyd fe wnaethon nhw helpu i godi ymwybyddiaeth o elusen sy’n helpu cannoedd o bobl bob blwyddyn yn y diwydiant, nid yn unig i’r rhai yn yr ystafell ond hefyd i gynulleidfa ehangach drwy negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol gan randdeiliaid allweddol a oedd yn y digwyddiad.”