Dysgwr a chyn-ddysgwr yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, Ffion a Beth, yn fuddugol yng Ngwobrau It’s My Shout 2026

13 Mai 2026

Mae Ffion Traylor, sy’n ddysgwr yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, a Beth Mytton, sy’n un o gyn-ddysgwyr y Coleg, wedi dod i’r brig yng Ngwobrau It’s My Shout 2026 am eu perfformiadau ar y sgrin a’r tu ôl i’r llenni.

Cwmni cynhyrchu ffilmiau annibynnol yng Nghymru yw It’s My Shout, sydd wedi ymrwymo i ganfod a meithrin talent newydd yn y diwydiant ffilm a theledu. Ers 2002 mae’n cynnig profiadau ymarferol ar draws gwahanol elfennau o gynhyrchu ffilmiau, gan gynnwys actio, cyfarwyddo, ysgrifennu ar gyfer y sgrin, gwaith camera, sain, dylunio, ac ôl-gynhyrchu.

Bob blwyddyn, mae It’s My Shout yn cynhyrchu nifer o ffilmiau byrion, yn ddramâu ac yn ffilmiau dogfen, ar y cyd â’i bartneriaid darlledu BBC Cymru Wales ac S4C, gan roi cyfle i gyfranogwyr weithio gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant ac ennill sgiliau ymarferol.

Yng Ngwobrau It’s My Shout eleni, sy’n dathlu llwyddiannau’r rhai a oedd wedi cymryd rhan yn y cynllun, enillodd Beth Mytton, cyn-ddysgwyr Ymarfer y Celfyddydau Perfformio (Theatr Gerddorol) yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, y wobr am yr Actores Gefnogol Orau am ei rôl fel Lucy yn y ffilm Waiting for Burton, a gafodd ei ffilmio ym Merthyr Tudful.

Fe wnaeth Ffion Traylor, sy’n fyfyriwr ar y cwrs Cynhyrchu Ffilmiau a’r Cyfryngau yn y Coleg, ennill y wobr am y Goruchwylydd Sgript Gorau. Roedd Ffion yn rhan o’r ffilmiau The Green Cottage a Waiting for Burton fel goruchwylydd sgript dan hyfforddiant. Hon oedd yr ail flwyddyn iddi gymryd rhan yn It’s My Shout ac mae’r profiad wedi ei helpu i gael swydd fel rhedwr swyddfa gyda’r cwmni cynhyrchu Good Gate Media.

Dywedodd Sharon James-Evans, Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro: “Llongyfarchiadau i Beth a Ffion ar ennill y gwobrau yma! Yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, ein nod ni yw darparu cyfleoedd real a thros y blynyddoedd mae ein dysgwyr ni wedi ennill profiad gwaith gwerthfawr ym mhob rhan o waith cynhyrchu ffilmiau, fel actio, dylunio gwisgoedd, a gwallt a cholur, felly rydyn ni wedi gweld gwaith ardderchog It’s My Shout gyda’n llygaid ein hunain.”