Coroni Tîm Datblygu Academi Rygbi Coleg Caerdydd a'r Fro yn bencampwyr Cwpan Datblygu URC

4 Mai 2026

Mae tîm Datblygu Academi Rygbi Coleg Caerdydd a'r Fro wedi'i goroni'n bencampwyr Cwpan Datblygu URC.

Teithiodd yr Academi i Rodney Parade yng Nghasnewydd ar gyfer rownd derfynol y gynghrair yn erbyn Coleg Gwent. Roedd y tîm yn cynnwys dysgwyr blwyddyn gyntaf yn bennaf, ond roedd hefyd rai dysgwyr o’r ail flwyddyn yn cael gwisgo crys CCAF am un tro olaf cyn gorffen gyda'r Academi.

Ar ôl hanner cyntaf agos gyda'r ddwy ochr yn gwneud llawer o gamgymeriadau ac yn ei chael yn anodd cyrraedd parth 22 y gwrthwynebwyr, 0-0 oedd y sgôr. Ond fe wellodd pethau yn yr ail hanner gyda CCAF yn perchnogi’r cae ac yn sgorio tri chais.

Brwydrodd Coleg Gwent yn ôl a sgorio gyda munud i fynd ond sicrhaodd gwaith amddiffynnol da mai'r canlyniad terfynol oedd 20-13 i CCAF.

Dywedodd Capten tîm Datblygu Academi Rygbi CCAF ar y noson, Milo Fowler: “Roedd yn wobr wych am holl ymdrechion y bechgyn drwy gydol y tymor a'r gwaith caled maen nhw wedi'i wneud er mwyn ei gilydd.”

Dywedodd Pennaeth Rygbi Coleg Caerdydd a'r Fro, Llyr Davies: “Roedd yn ffordd wych o orffen y tymor ar ôl siomedigaethau a chaledi'r bloc coleg cyn y Nadolig, er doedd dim posib cwestiynu ymrwymiad a gwaith caled pob chwaraewr. Mae datblygiad ein chwaraewyr blwyddyn gyntaf ni wedi bod yn aruthrol ac fe brofodd y bechgyn ail flwyddyn eu rhinweddau mentora ac arwain drwy gydol y bloc ar ôl y Nadolig. Bydd diweddariadau cynlluniau datblygu’r myfyrwyr a chynlluniau gadael bois yr ail flwyddyn yn digwydd yn ystod y dyddiau nesaf cyn i'r Academi gymryd seibiant tan y cyfnod cyn y tymor ym mis Gorffennaf.”

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James-Evans: “Llongyfarchiadau i dîm Datblygu’r Academi Rygbi am ennill y cwpan! Mae gorffen y tymor fel pencampwyr yn gamp fawr ac rydyn ni i gyd mor falch ohonyn nhw - da iawn i'r chwaraewyr a chydweithwyr CCAF sydd wedi gweithio mor galed i'w cefnogi nhw i gyrraedd y lefel yma.”

Mae Academi Rygbi CCAF yn cynnwys myfyrwyr o bob rhan o'r Coleg sy'n astudio amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd. Mae'r Academi’n darparu amgylchedd cefnogol ac arbenigol sy'n cyfuno cyfleusterau hyfforddi a chwaraeon o'r radd flaenaf gyda phortffolio eang y Coleg o gyrsiau. Mae’r chwaraewyr yn cael symud ymlaen yn eu gyrfaoedd chwaraeon wrth astudio yn y Coleg a pharatoi ar gyfer dyfodol y tu allan i chwaraeon hefyd.

Mae llawer o chwaraewyr wedi symud ymlaen hefyd i chwarae dros eu rhanbarth ac wedi ennill capiau cenedlaethol, gyda chyn-chwaraewyr yn cynrychioli tîm dan 20 oed Cymru a thîm Hŷn y Dynion.

I gael gwybod mwy am Academi Rygbi CCAF cliciwch yma https://cavc.ac.uk/en/rugbyacademy