Yn ddiweddar, croesawodd Coleg Caerdydd a'r Fro grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 9 o Ysgol Uwchradd Mary Immaculate i'w Makerspace ar Gampws Canol y Ddinas ar gyfer dosbarth meistr a diwrnod blasu Echwaraeon .
Wedi'i gynnal gan dîm Echwaraeon y Coleg a'r hyfforddwr Jacob Williams, mwynhaodd y disgyblion ddosbarth meistr mewn adeiladu tîm, gweithgareddau Makerspace, cawsant brofi clustffonau Realiti Rhithwir, cymryd rhan mewn cystadleuaeth treialon amser F1, adeiladu Minecraft, Lego Mindstorm, defnyddio tabledi ar gyfer profiad creadigol a rhaglennu robotiaid. Fe wnaethant hefyd roi cynnig ar bodlediad a defnyddio technoleg sgrin werdd a gweld arddangosiad o argraffu 3D a dangoswyd iddynt sut mae'n gweithio.
Mae sector Echwaraeon y DU yn faes o dwf sylweddol, a rhagwelir y bydd chwaraewyr gemau ar-lein yn cyrraedd 11.56m erbyn 2027, cynnydd o 6.64% ar y ffigur ar gyfer 2023. Mae cyrsiau Echwaraeon CCAF yn darparu cymwysterau arbenigol, a gymeradwywyd gan Gymdeithas Echwaraeon Prydain, sy’n gallu agor drysau i ystod o opsiynau dilyniant o Echwaraeon i Reoli Digwyddiadau a Newyddiaduraeth Chwaraeon.
Dywedodd Mr Butcher, Athro Mathemateg, Manwerthu, Busnes, Echwaraeon a Phennaeth Blwyddyn 8 yn Ysgol Uwchradd Mary Immaculate: "Mwynhaodd y disgyblion eu profiad Echwaraeon yn CCAF yn fawr. Roedden nhw wrth eu bodd â'r elfen ymarferol o'r Mindstorm a phrofi'r sgrin werdd a chreu cynnwys.
“Roedden nhw hefyd wrth eu bodd yn gweld ochr wahanol i Echwaraeon ac roedd y wers a gyflwynwyd yn hynod ddiddorol ac wedi'i feddwl drwyddi yn dda. Roedd staff y Coleg yn gyfeillgar a chroesawgar, ac roedd y cyfleusterau yn creu argraff fawr ar y disgyblion. Roedd hefyd yn ddiddorol iddyn nhw wybod am y gwahanol lwybrau gyrfa sydd ar agor iddyn nhw ac mae'n bendant yn rhywbeth yr hoffem ei wneud eto y flwyddyn nesaf.”
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James-Evans: "Roeddem yn falch iawn o allu gwahodd disgyblion Ysgol Uwchradd Mary Immaculate i CCAF i brofi a rhoi blas iddynt o'n cynnig a'n cyfleusterau Echwaraeon. Mae Echwaraeon yn ddiwydiant sy'n tyfu cymaint ac mae gallu ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf a dangos yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw bob amser yn bleser."