Mae chwaraewyr Academi Rygbi Coleg Caerdydd a'r Fro, Rhys Cummings a Carter Prichard, wedi cael eu dewis i chwarae dros Gymru yng Ngemau Chwe Gwlad Dan 20.
Mae cyn-gapten yr Academi Rygbi, Ben Thomas, hefyd wedi cael ei ddewis ar gyfer carfan Chwe Gwlad Cymru.
Mae Academi Rygbi CCAF yn cynnwys myfyrwyr o bob rhan o'r Coleg sy'n astudio ystod o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd. Mae'r Academi yn darparu amgylchedd cefnogol ac arbenigol sy'n cyfuno cyfleusterau hyfforddi a chwaraeon o'r radd flaenaf gyda phortffolio eang o gyrsiau'r Coleg. Gall chwaraewyr symud ymlaen yn eu gyrfaoedd chwaraeon wrth astudio yn y Coleg a pharatoi ar gyfer dyfodol y tu allan i chwaraeon hefyd.
Mae llawer o chwaraewyr hefyd wedi symud ymlaen i chwarae dros eu rhanbarth ac wedi ennill capiau cenedlaethol, gyda chyn-chwaraewyr yn cynrychioli tîm dan 20 Cymru a thîm Hŷn y Dynion.
I ddarganfod mwy am Academi Rygbi CCAF cliciwch yma https://cavc.ac.uk/cy/rugbyacademy