Gyrfa newydd yn y Flwyddyn Newydd gyda chyrsiau rhan amser ac unigryw Coleg Caerdydd a’r Fro ar gyfer oedolion

14 Rhag 2025

Awydd cychwyn newydd? Gobeithio datblygu neu newid gyrfa yn y Flwyddyn Newydd? Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn cynnig ystod eang o gyrsiau rhan amser sy’n cychwyn ym mis Ionawr 2026 ar gyfer oedolion.

Mae amrywiaeth eang o gyrsiau i ddatblygu eich sgiliau i newid neu ddatblygu eich gyrfa, yn cynnwys cymwysterau proffesiynol poblogaidd. Mae’r cyrsiau hefyd wedi’u dylunio ar gyfer oedolion, er mwyn in chi allu dysgu o gwmpas eich oriau gweithio, bywyd teuluol neu ymrwymiadau eraill.

Mae hefyd cyrsiau Mynediad ar gyfer symud ymlaen i’r brifysgol, Cyrsiau Addysg Sylfaenol i Oedolion sy’n dymuno datblygu eu sgiliau a chyrsiau byr i ennyn diddordeb pobl.

Mae’r cyrsiau rhan amser yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, yn amrywio o gyrsiau Cwnsela ar bob lefel i Serameg, Atgyweirio ac Ailorffen Cyrff Modurol a, Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion, a chyrsiau ILM (Arweinyddiaeth a Rheoli) neu gallwch gamu i addysgu gyda Gwobr Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant. Am restr llawn o gyrsiau i oedolion neu i ymgeisio ewch i: https://cavc.ac.uk/coursesforadults

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Rydym yn falch o allu cynnig ystod mor eang o gyrsiau rhan amser i oedolion o gychwyn 2026. Bob blwyddyn, mae miloedd o oedolion yn dysgu â ni i ennill cymwysterau proffesiynol i ddatblygu neu newid eu gyrfa - ac rydym yn gweld yr effaith mae hyn yn ei gael.

”Rydym yn cynnig cyrsiau sy’n darparu’r sgiliau a’r cymwysterau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Mae rhai o’n rhaglenni hyfforddiant hefyd yn unigryw, ac mae ein gwaith gyda chyflogwyr yn cefnogi pobl i gael mynediad at swyddi sydd eu hangen a’r swyddi maen nhw eu heisiau. Mae gennym hefyd nifer fawr o oedolion sy’n ymuno â ni i ddatblygu eu sgiliau ar gyfer eu gwaith, eu bywyd, a chefnogi eu teuluoedd.”