Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi dathlu gwaith caled, llwyddiant a chynnydd ei ddysgwyr a'i brentisiaid yng Ngwobrau Blynyddol y Coleg 2025.
Ymunodd cannoedd o fynychwyr o bob cwr o'r sbectrwm o fusnesau lleol, partneriaid addysg a'r gymuned â’r dysgwyr, eu ffrindiau a'u teuluoedd ar gyfer y Gwobrau. Cynhaliwyd y digwyddiad Gŵyl y Gaeaf disglair ar Gampws Canol y Ddinas y Coleg a chafodd ei gyflwyno gan y darlledwr, y newyddiadurwr a’r cyn-fyfyriwr yn CCAF, Jason Mohammad. Roedd hefyd yn cynnwys perfformiadau gan ddysgwyr Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio.
Gan arddangos uchafbwyntiau blwyddyn academaidd 2024-25 (edrychwch ar y rhestr lawn o enillwyr isod), mae'r gwobrau hefyd yn dangos y profiadau unigryw a'r cyfleoedd cynnydd sydd gan CCAF i'w cynnig.
Dywedodd Pennaeth CCAF, Sharon James-Evans: “Mae’r Gwobrau’n gyfle gwych i ddathlu llwyddiant ein dysgwyr rhagorol ni a rhai o’r sefydliadau gwych rydyn ni’n falch o weithio gyda nhw.
“Mae pob dysgwr wedi dangos gwydnwch a phenderfyniad i gyflawni’r hyn maen nhw wedi’i wneud ac rydyn ni’n eich dathlu chi a’ch siwrnai.
“A’r tu ôl i bob dysgwr mae’r athrawon, y mentoriaid, y teulu a’r ffrindiau wnaeth gredu ynoch chi a’ch cefnogi chi. Felly, rydyn ni hefyd yn eu dathlu nhw. Gyda’ch gilydd, rydych chi wedi dangos beth sy’n digwydd pan fydd talent yn cwrdd â chyfle, a phenderfyniad yn cael ei gefnogi gan gymuned.”
Mae’r holl fyfyrwyr gafodd eu cydnabod ar y noson naill ai wedi ennill cystadlaethau cenedlaethol neu ranbarthol yn eu disgyblaethau o ddewis; wedi symud ymlaen i brentisiaethau a chyflogaeth gyda chwmnïau uchel eu parch; wedi ennill lle mewn prifysgolion sy’n flaenllaw mewn pynciau neu wedi perfformio’n eithriadol yn eu hastudiaethau.
Dwy enghraifft o’r fath yw Daniel James a Jessica Mantle, a oedd yn gyd-enillwyr y Wobr Dysgwr Cyffredinol y Flwyddyn.
Mae Daniel, a enillodd y Wobr Gyfrifiadura hefyd, wedi bod yn ddysgwr eithriadol, gan gyflawni’r graddau uchaf posibl ym mhob gwaith cwrs ac arholiad. Yn aelod talentog, gweithgar a meddylgar o'i ddosbarth, mae wedi mynd o nerth i nerth ar ei gwrs. Yn awyddus bob amser i brofi ei hun, cystadlodd Daniel yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru ac ennill gwobr aur, ac yn fwy diweddar profodd ei hun i fod y gorau yn yr hyn mae'n ei wneud yn y wlad drwy ennill aur yn Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU yn y gystadleuaeth Technegydd Seilwaith Rhwydwaith.
“Rydw i'n credu bod cymaint o bobl yma heno wedi gwneud mor dda, mae'n sioc derbyn Gwobr Dysgwr Cyffredinol y Flwyddyn,” meddai Daniel. “Rydw i’n teimlo'n hynod falch ac yn ddiolchgar i'r Coleg am y cyfleoedd mae wedi'u rhoi i mi.”
Daw'r anrhydedd lai nag wythnos ar ôl i Daniel ennill ei fedal aur yn Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU.
“Roedd WorldSkills yn gymaint o hwyl – rydw i’n dal i ddod dros y sioc o ennill medal aur!” meddai Daniel. “Fe wnes i fwynhau pob agwedd ar y gystadleuaeth yn ogystal â chwrdd â’r holl gystadleuwyr eraill. Mae cymryd rhan yn WorldSkills wedi bod yn gyfle gwych i mi ac mae’n rhywbeth na fyddwn i wedi gallu ei wneud heb y Coleg.
“Rydw i’n edrych ymlaen at fynd i’r brifysgol nesaf ac wedyn gwneud unrhyw beth ym maes TG. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn cyfrifiaduron cwantwm. Mae’r Coleg wedi fy helpu i gyda fy uchelgeisiau yn bendant ac rydw i’n credu bod pethau fel cymryd rhan yn WorldSkills yn eich helpu chi i fod yn fwy hyderus ac uchelgeisiol.”
Enillodd Jessica Mantle y Wobr Chwaraeon Perfformiad hefyd. Mae'r dysgwr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi symud ymlaen i Addysg Uwch gan ragori hefyd mewn athletau elitaidd. Ar yr un pryd ag astudio, mae Jessica wedi ennill y fedal arian yn y ras gyfnewid 4x100m ym Mhencampwriaethau Dan 20 Ewrop ac wedi cynrychioli Athletau Cymru mewn digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae hi wedi cofnodi amseroedd personol gorau o 11.49 eiliad yn y 100m a 7.52 eiliad yn y 60m, gan ei gosod ymhlith y sbrintwyr gorau yn ei grŵp oedran. Mae gallu Jessica i reoli rhagoriaeth academaidd a chwaraeon yn dyst i'w disgyblaeth, ei phenderfyniad a'i gallu i reoli ei hamser.
"Rydw i’n ddiolchgar iawn fy mod i wedi ennill y wobr yma a chael fy newis o blith yr holl enillwyr gwych eraill sydd yma yn y Gwobrau," meddai Jessica. "Doeddwn i ddim wir yn disgwyl hyn ac rydw i hefyd yn ddiolchgar i'r Coleg am ei help.
“Rydw i wir wedi mwynhau fy amser yn y Coleg yn fawr iawn. Mae pawb wedi bod yn gefnogol iawn, yn enwedig pan rydw i wedi bod yn gorfod ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng chwaraeon ac astudio ar yr un pryd. Mae'r Coleg wedi fy helpu i gyflawni cymaint ac wedi bod o gymorth i wireddu fy nyheadau.”
Enillodd Callum Giles y Wobr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae’n dilyn Interniaeth â Chymorth nawr, y mae CCAF yn ei gweithredu mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd. Mae Giles bob amser yn gwneud gwahaniaeth mawr wrth helpu eraill i deimlo'n gartrefol yn y Coleg. Mae wedi arwain teithiau i ddysgwyr sy'n symud i fyny o'r ysgol uwchradd, gan eu hannog i gymryd rhan.
Mae Callum hefyd wedi dod â dysgwyr at ei gilydd drwy dripiau cymunedol a’r Sioe Gymunedol Dysgu Sylfaen, lle cymerodd y rôl arweiniol y llynedd. Mae Callum yn gynhwysol, yn hyderus ac yn llawn anogaeth - yn bleser i fod yn ei gwmni ac yn esiampl wych o'r hyn mae'n ei olygu i greu ymdeimlad o berthyn yn y Coleg.
“Mae ennill y wobr yma’n hyfryd ond roedd hefyd yn dipyn o sioc,” meddai Callum. “Doeddwn i ddim yn gwybod am y gwobrau a dweud y gwir.
“Rydw i wedi cael amser pleserus iawn yn y Coleg - roeddwn i'n hoffi mynd i'r Dôm yn arbennig. Rydw i ar yr Interniaeth â Chymorth nawr ac rydw i wir yn mwynhau hynny hefyd.
“Fe hoffwn i weithio naill ai ym maes manwerthu, fel barista neu efallai ym maes gofal plant. Mae’r Coleg wedi fy helpu i gyda fy uchelgeisiau.”
Aeth y Wobr Harddwch a Therapïau Cyflenwol i Anisa Abdin. Yn ddysgwraig gydwybodol gydag ethos gwaith eithriadol, mae Anisa yn dangos brwdfrydedd, chwilfrydedd a phenderfyniad i gyflawni rhagoriaeth ym mhob sesiwn addysgu. Mae Anisa wedi dangos twf rhyfeddol yn ei hyder a’i gallu, ac mae ganddi angerdd dros y diwydiant, gan arddangos lefel uchel o sgil dechnegol a dull o weithio sy’n canolbwyntio ar y cleient.
“Rydw i’n teimlo’n hapus iawn fy mod i wedi ennill y wobr yma,” meddai Anisa. “Rydw i wedi mwynhau’r cwrs – mae wedi bod yn llawer o waith caled ond rydw i wedi bod yn gwneud yr hyn rydw i’n ei garu, sef Therapi Harddwch, ac mae wedi bod yn llawer o hwyl. Rydyn ni mewn grŵp bach ac mae pawb yn ffrindiau felly rydyn ni’n agos ac yn helpu ein gilydd bob amser. Mae hynny’n braf iawn.”
Mae Anisa hefyd wedi cystadlu yn Rowndiau Therapi Harddwch Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, ac yn fwy diweddar yn Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU.
“Roedd y cystadlaethau sgiliau’n newydd iawn i mi,” meddai Anisa. “Pan ofynnodd fy nhiwtor i pwy sydd eisiau cystadlu, doeddwn i ddim wir eisiau gwneud hynny, ond roeddwn i’n meddwl, wel mae’n gystadleuaeth, pam lai? Nawr rydw i wir eisiau ei wneud eto.”
Lai nag wythnos cyn y Gwobrau, cafodd Anisa Ganmoliaeth Uchel yn Rowndiau Terfynol Therapi Harddwch WorldSkills y DU.
“Yn Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU, a dweud y gwir, roeddwn i braidd yn siomedig i ddechrau o beidio ag ennill medal oherwydd fy mod i wedi gweithio mor galed,” meddai Anisa. “Ond wedyn fe wnes i weld fy enw i’n dod i fyny ar y sgrin gyda Chanmoliaeth Uchel ac roedd hynny’n dda iawn – yn ôl pob tebyg roeddwn i yn yr wyth uchaf felly roedd hynny’n dda iawn hefyd.
“Rydw i’n credu bod pethau fel WorldSkills yn agor llawer o ddrysau i’r sector rydw i eisiau gweithio ynddo fo. Fe fydd rhoi rhywbeth felly ar eich CV yn creu argraff ar unrhyw gyflogwr felly mae’n wych bod y Coleg yn cymryd rhan ynddyn nhw. Fe fydd yn bendant yn fy helpu i gyflawni fy uchelgeisiau i.”
Aeth Gwobr Teulu CCAF i Zac Lynam am ei waith caled fel Capten Academi Rygbi CCAF, gan arwain o’r blaen a chadw’r grŵp yn dynn, ac am ei barodrwydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol fel mynychu ymweliadau gweinidogol â’r Coleg.
Cafodd sefydliadau partner y coleg, Aston Martin, Cyngor Caerdydd, Cyber College Cymru, Meithrinfa Grangetown, PwC UK a Llywodraeth y DU (Gwasanaethau Corfforaethol Integredig) eu dathlu hefyd am eu dulliau arloesol o weithredu a’u hymrwymiad rhagorol i hyfforddiant a dysgu.
| Enillydd y Wobr | Categori’r Wobr | Cwrs |
| Esther Nakidde | Mynediad | Mynediad i'r Biowyddorau |
| Ilyssa Magill | Peirianneg Awyrennau | Peirianneg Awyrenau – Lefel 3 |
| Adrian Koman a Luasz Koman | Safon Uwch | Safon Uwch |
| Ryan Lewis | Celf, Dylunio a Chyfryngau Digidol | Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol – Diploma Estynedig |
| Logan Sweet | Modurol | Ailorffen Cyrff Cerbydau – Lefel 3 |
| Anisa Abdin | Harddwch a Therapïau Cyflenwol | Therapi Harddwch a Sba – NVQ Lefel 2 |
| Joseph Burgess | Gwasanaethau Adeiladu | Teilsio Waliau a Lloriau – Lefel 3 |
| Caroline Gleeson | Busnes | Cyfrifeg – Diploma Proffesiynol AAT |
| Maram Alzokari | Gofal Plant | Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant – Lefel 3 |
| Daniel James | Cyfrifiadura | Cyfrifiadura gyda Chodio – Diploma Estynedig Lefel 3 |
| Ioniri Conte | Adeiladu | Gwaith Saer Safle – Lefel 2 |
| Haneen Ali | Addysg | Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion – Lefel 3 |
| Henry Newton | Peirianneg | Technolegau Peirianneg (Uwch) – Diploma Estynedig |
| Vitaliia Popova | ESOL | ESOL – Mynediad 2 |
| Dominic Watson | Esports | Esports – Diploma Cenedlaethol Lefel 3 |
| Chloe Quinn | Dysgu Sylfaen | Tuag at Annibyniaeth – Llwybr 2 |
| Zero Alsop | Trin Gwallt a Cholur Theatrig | Trin Gwallt – Lefel 3 |
| Saira Akter | Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
| Mary Antunes | Lletygarwch, Arlwyo a Becws | Becws, Patisserie a Melysion - Lefel 3 |
| Georgia Bailey | Cerddoriaeth a'r Celfyddydau Perfformio | Ymarfer Celfyddydau Perfformio – Lefel 3 |
| Callum Jones | Gwasanaethau Cyhoeddus | Gwasanaethau Cyhoeddus – Diploma Estynedig Lefel 3 |
| Yusef Moore | Chwaraeon | Hyfforddiant Chwaraeon – Diploma Estynedig Lefel 3 |
| Grace Hudson | Teithio a thwristiaeth | Twristiaeth a Chriw Caban – Diploma Lefel 3 |
| Janine Price | Oedolion a'r Gymuned | Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion – Lefel 1 |
| Owen Thomas | Prentisiaeth | Atgyweirio Cyrff Cerbydau – Lefel 3 |
| Sagal Maryam Ismail | Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant | Gwyddoniaeth – Diploma |
| Callum Giles | | Interniaeth â Chymorth – Prifysgol Caerdydd |
| Shadi Elzein | Addysg Uwch | BEng (Anrh) mewn Peirianneg Awyrennau |
| Lee Hatim | | HNC Artistiaeth Colur Technegol, Teledu, Ffilm a Theatr |
| Diego Rios | Rhyngwladol | IELTS Saesneg Academaidd – Lefel B2 |
| Evie Pope | Prentisiaeth Iau | Prentisiaeth Iau |
| Jessica Mantle | Chwaraeon Perfformiad | Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff – Diploma Estynedig |
| Michael Panteli | Dysgu Proffesiynol | Tystysgrif Lefel 5 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth |
| Aimee Morgan | | Diploma Uwch Lefel 7 CIPD mewn Rheolaeth Strategol ar Bobl |
| Aidan Bowen | (Noddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol) Cenedlaethol) | Cyfrifeg – Diploma Uwch AAT |
| Aston Martin | Busnes a Phartner | |
| Cyngor Caerdydd | | |
| Cyber College Cymru | | |
| Meithrinfa Grangetown | | |
| PwC UK | | |
| Llywodraeth y DU (Gwasanaethau Corfforaethol Integredig) | | |
| Zac Lynam | Teulu CCAF | |
| Steffan Pearson | Cyn-fyfyrwyr | |
| Pru Orridge MBE | | |
| Daniel James | Dysgwr Cyffredinol y Flwyddyn | |
| Jessica Mantle | Dysgwr Cyffredinol y Flwyddyn | |