Coleg Caerdydd a’r Fro yn cael ei gydnabod am ei waith arloesol yn hyrwyddo iechyd meddwl a lles a defnyddio technoleg ddigidol

11 Tach 2025

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cael ei gydnabod fel un o’r colegau gorau yn y DU am ei waith yn hyrwyddo iechyd meddwl a lles ac am ei ddefnydd arloesol o dechnoleg ddigidol mewn addysg bellach.

Mae’r Coleg wedi ei gymeradwyo yng Ngwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau (AoC) mewn dau gategori: Gwobr Cymdeithas y Colegau am Iechyd Meddwl a Lles a Gwobr Jisc am Ddefnydd Effeithiol o Dechnoleg Ddigidol mewn Addysg Bellach. A hwythau’n cael eu hadnabod yn eang fel ‘Oscars y Colegau’, mae’r Gwobrau Beacon mawreddog yn cydnabod y sefydliadau Addysg Bellach ledled y DU sy’n mynd gam ymhellach wrth ddarparu gwasanaethau i’w dysgwyr a’r gymuned ehangach.

Mae CCAF yn darparu rhaglen llesiant holistig a chynhwysol sy’n cefnogi dysgwyr drwy gydol eu taith yn y Coleg. Mae hyn yn cynnwys ymyriadau wedi’u targedu sy’n sicrhau bod pob dysgwr - yn arbennig rhai sydd mewn perygl - yn cael mynediad at y gefnogaeth maent ei hangen.

Yn sail i hyn mae’r gwaith y mae’r Coleg yn ei wneud i hyrwyddo diwylliant o ddiogelwch, parchu ac ymgysylltu gyda’r fenter Caru Eich Campws, sy’n meithrin ymdeimlad o falchder, o berthyn ac o gyfrifoldeb a rennir ar draws cymuned CCAF. Mae llesiant wedi’i wreiddio yn rhan o’r cwricwlwm drwy raglen diwtorial gynhwysfawr, wedi’i chyfoethogi gyda gweithdai ataliol a digwyddiadau ar gyfer y coleg cyfan sy’n canolbwyntio ar amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae dysgwyr yn cael budd o fynediad 24/7 at gefnogaeth wedi’i phersonoli drwy’r Rhaglen Cymorth i Fyfyrwyr, ochr yn ochr â gweithgareddau cyfoethogi, clybiau Undeb y Myfyrwyr a chyfleoedd ar gyfer llesiant gweithredol. Mae staff yn gweithio’n gydweithredol ar draws adrannau er mwyn sicrhau bod cefnogaeth gofleidiol yn ei le, gyda systemau olrhain a monitro cadarn sy’n adnabod dysgwyr sydd mewn peryg o ymddieithrio.

Anogir timau dysgu i fewnosod meddwl yn gritigol ac i ymateb i gyfleoedd sy’n digwydd yn naturiol er mwyn archwilio themâu datblygiad personol. Mae llais y dysgwr yn ddarpariaeth ganolog, sy’n creu amgylchedd ymatebol sy’n grymuso, lle mae pob dysgwr yn teimlo’n ddiogel, wedi’i gefnogi ac yn gallu llwyddo.

Yn y cyfamser, roedd rhan CCAF yn y prosiect Cwricwlwm Gwrth-hiliaeth yn gofyn am ddatblygu rhaglen ddysgu wrth-hiliol sy’n addas ar gyfer y sector Addysg Bellach, gan gynnwys datblygu modd tiwtorial cyfun a modiwlau pynciau perthnasol. Cafodd y cwmpas ei ymestyn i gynnwys datblygu amgylchedd digidol trochol yn ogystal er mwyn ymestyn gorwelion modiwlau cwricwlwm sy’n cael eu cwmpasu drwy greu metafyd - y byd rhithiol gwrth-hiliol cyntaf.

Byddai’r prosiect yn cael ei ddarparu gan Sefydliadau Addysg Bellach gyda chefnogaeth gan adolygwyr gyda phrofiad bywyd o hiliaeth ac arbenigedd mewn arfer gwrth-hiliol. Yn ogystal â modd y tiwtorial, cafodd meysydd pwnc hanes, mathemateg, cymdeithaseg, gwallt a harddwch, athroniaeth, bywydeg, iechyd a gofal a seicoleg i gyd eu hadnabod fel meysydd allweddol ar gyfer adnoddau a ddatblygwyd drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Bydd y rhai sy’n cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Beacon yn cael eu cyhoeddi yng Nghynhadledd Flynyddol Cymdeithas y Colegau ar 18fed Tachwedd.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ein cymeradwyo i dderbyn dwy Wobr Beacon fawreddog.

“Fel y coleg mwyaf yng Nghymru a’r pumed fwyaf yn y DU, rydym yn rhoi iechyd meddwl a lles cymuned CCAF gyfan wrth galon yr hyn rydym yn ei wneud. Ac, wrth i’r Coleg sy’n gweithredu yn un o’r cymunedau mwyaf amrywiol a bywiog yng Nghymru, rydym yn credu’n gryf mewn defnyddio technoleg ddigidol i sicrhau bod yr holl gymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u cynnwys.

“Mae’r ddwy wobr yma yn dyst i waith caled ac ymroddiad cydweithwyr CCAF ar draws y Coleg.”