Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cynnal seremoni raddio arbennig i ddathlu cyflawniadau ei fyfyrwyr Addysg Uwch.
Bob blwyddyn, mae miloedd o ddysgwyr yn dod i CCAF i ennill y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i barhau ar eu llwybrau gyrfa dewisol. Mae llawer ohonynt yn dilyn ystod unigryw’r Coleg o gyrsiau gradd sy’n canolbwyntio ar yrfa neu gyrsiau lefel gradd, gan ymgolli’n llwyr mewn pynciau y maent yn teimlo’n angerddol drostynt, er mwyn ennill y sgiliau a’r cymwysterau i’w helpu i newid neu wella eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Un o’r dysgwyr hyn a raddiodd eleni oedd Shadi Elzein, a raddiodd gyda BEng mewn Peirianneg Awyrennau. Clywodd am y cwrs pan ar gwrs Cynnal a Chadw Awyrennau Lefel 3 yn y Coleg.
”Beth oedd yn wirioneddol arbennig oedd y cyfle i barhau gyda’r modiwlau trwydded B, wrth weithio tuag at radd,” meddai Shadi. “Roedd yn teimlo fel y cam nesaf perffaith i adeiladu ar yr hyn oeddwn eisoes wedi ei ddechrau, ac i ddod yn nes at fy nod o weithio gydag awyrennau.”
  
 Roedd gan astudio yn CCAF ei fanteision i Shadi.
“A dweud y gwir, y rhan orau oedd y cyswllt rhwng tiwtoriaid a myfyrwyr,” esboniodd. “Roedd y dosbarthiadau’n fychan, oedd yn gwneud iddo deimlo’n fwy personol, bron fel teulu bach. Nid rhif yn unig oeddech chi; roedd pobl yn gwybod eich enw, eich cryfderau, ac roeddent wirioneddol eisiau eich helpu i dyfu.
 “Mae’r cwrs wedi fy helpu mewn cymaint o ffyrdd. Mae fy sgiliau llaw wedi gwella’n arw, a deuthum yn llawer mwy hyderus yn gweithio gyda systemau awyrennau. Rhoddodd ddealltwriaeth ddyfnach i fi o sut mae pethau’n gweithio mewn awyrennau yn y byd go iawn, a bu hynny’n hwb enfawr wrth i fi edrych ymlaen at fy ngyrfa.”
 
 Nawr mae Shadi yn awyddus i gymhwyso ei wybodaeth ymarferol a gweithio ar ei fodiwlau Trwydded B yn y diwydiant. Mae’n argymell y profiad Addysg Uwch yma a gynigir gan Goleg Caerdydd a’r Fro.
“Os ydych yn ystyried astudio cwrs Addysg Uwch yn CCAF, ewch amdani,” dywedodd. “Mae’r gefnogaeth yn anhygoel, y dysgu yn ymarferol, a bydd pobl o’ch cwmpas sydd wirioneddol yn dangos diddordeb yn eich cynnydd. Dim ond canolbwyntio’n gyson, gofyn cwestiynau, a pheidio bod ofn gwthio’ch hun, mae’n werth chweil.”
Daeth Seren Norman i’r Coleg i astudio Tystysgrif Ôl-radd (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (TAHO).
“Wrth chwilio am y cwrs cywir, roedd Coleg Caerdydd a’r Fro yn sefyll allan am ei ymrwymiad clir i ddatblygu addysgwyr hyderus, myfyriol, hynod broffesiynol y gellid eu cyflogi,” meddai Seren. “Roedd yn amlwg bod y Coleg yn blaenoriaethu creu amgylcheddau dysgu cefnogol, dan arweiniad darlithwyr brwdfrydig a phrofiadol oedd yn awyddus i helpu.”
Un o uchafbwyntiau’r cwrs i Seren oedd bod ar leoliad.
“Roedd cael cymhwyso theori a myfyrio’n ystyrlon ar fy ymarfer wedi fy annog i wthio fy hun tu hwnt i’r hyn rwy’ wedi arfer ag ef,” meddai Seren. “Roedd hwn yn brofiad hynod werth chweil, ac rwyf wedi gweld cynnydd sylweddol yn fy hyder. 
 
Mae’r pwyslais ar gydweithredu a rhannu arfer orau ymysg cyfoedion wedi fy helpu i ystyried sawl safbwynt, meddwl yn feirniadol a mabwysiadu strategaethau newydd i gynyddu cynhwysiant. Yn ogystal â’r adborth manwl ac adeiladol gan ddarlithwyr, teimlais fy mod yn cael cefnogaeth i gyflawni pob cam ar hyd y ffordd.
 
Mae’r cwrs wedi bod yn allweddol i fy mharatoi ar gyfer y camau nesaf yn fy ngyrfa, gan gefnogi fy nhwf personol a phroffesiynol. Rwyf wedi meithrin cyfoeth o wybodaeth ar addysgeg, cynllunio, ymarfer myfyriol, llythrennedd i ddysgu ac ymarfer cynhwysol, ac rwyf yn eu hymgorffori'n weithredol yn fy ymarfer dyddiol fel Darlithydd Seicoleg. 
 
”Wedi hynny, rwyf yn teimlo fod gen i’r hyder a’r adnoddau i reoli amrywiaeth o amgylcheddau dosbarth. Mae’r gefnogaeth gadarn a gefais gan fy nhiwtoriaid wedi meithrin cred gadarn ynof fy hun y gallaf lwyddo, sydd wedi rhoi cyfleoedd i ddatblygu ymhellach.”
 
 Bydd Seren nawr yn parhau i weithio fel Darlithydd Seicoleg, gan ddefnyddio’r wybodaeth a dderbyniodd i fireinio’i dulliau addysgu.
“Mae astudio cwrs Addysg Uwch yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn gyfle gwych i ddysgu gan unigolion hynod broffesiynol mewn amgylchedd cynhwysol a chefnogol,” meddai. “Er y gall godi ofn ar y cychwyn, ac efallai y byddwch yn wynebu heriau ar y daith, mae pawb yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yno i’ch helpu i lwyddo.”
 
 Dywedodd Pennaeth CCAF, Sharon James-Evans: “Mae gweld ein myfyrwyr yn graddio gyda’r cymwysterau Addysg Uwch yr oeddynt yn dymuno eu cyflawni, ynghyd â’r sgiliau a gawsant ar eu taith, yn fy ngwneud i a fy holl gydweithwyr yn hynod falch. Mae llawer ohonynt wedi dychwelyd i addysg ar ôl cyfnod i ffwrdd ac ni ddylid tanbrisio’r her honno ynddi’i hun - mae’n dangos faint o ymroddiad ac ymrwymiad sydd ei angen i lwyddo, ac maent wedi gwneud hynny.
 Mae ein graddedigion yn ein gadael yn bobl addysgedig a thalentog, ac rwy’n grediniol yr ânt ymlaen i gyflawni eu nodau. Rwy’n edrych ymlaen at glywed straeon o lwyddiant pob un ohonynt dros y blynyddoedd i ddod.”
Mae CCAF yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau Addysg Uwch, gan weithio mewn partneriaeth glos â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Gorllewin Llundain, Prifysgol Kingston a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. I ddysgu rhagor, ewch i: https://cavc.ac.uk/cy/he