Mae defnydd CCAF o ddysgu â chymorth technoleg yn ei helpu i gadw statws Coleg Arddangos Microsoft am y seithfed blwyddyn yn olynol

15 Hyd 2025

Mae defnydd arloesol Coleg Caerdydd a'r Fro o dechnoleg i greu profiadau dysgu ymdrwythol a chynhwysol wedi golygu ei fod wedi cadw ei statws Coleg Arddangos Microsoft am y seithfed flwyddyn yn olynol.

Coronwyd CCAF fel Coleg Arddangos Microsoft cyntaf yng Nghymru yn 2018. Mae'r statws yn golygu bod y Coleg yn arloeswr yn sector Addysg Bellach Cymru a bod ganddo strategaeth ddigidol gref.

Mae statws Coleg Arddangos Microsoft hefyd yn adlewyrchu arbenigedd staff ar draws y Coleg a'u sgiliau digidol uwch ar y technolegau addysgu a dysgu diweddaraf i gefnogi myfyrwyr. Mae defnyddio'r offer, gwybodaeth a thechnolegau diweddaraf yn helpu i baratoi dysgwyr ar gyfer y byd gwaith, sy'n golygu y gallant bod yn werthfawr ar unwaith i unrhyw gyflogwr.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae'r Coleg a'i dîm Dysgu â Chymorth Technoleg (TEL) wedi cefnogi twf drwy ddatblygu ei Strategaeth Trawsnewid Digidol, gan helpu adrannau unigol o fewn CCAF i ganolbwyntio ar eu datblygiad digidol a chynnig profiadau mewnweledol i ddysgwyr yn eu llwybrau gyrfa dewisol.

Mae hyn wedi cynnwys mentrau fel cydnabod y gallai rhai dysgwyr ar gyrsiau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) fod angen cymorth sgiliau digidol sylfaenol. Datblygodd tîm Canolfan Llwyddiant y Coleg gwrs byr wedi'i dargedu ar gyfer dysgwyr ESOL i adeiladu eu hyder a'u cymhwysedd mewn TG sylfaenol gyda hyfforddiant wedi'i bersonoli i'w hymgyfarwyddo â therminoleg ddigidol hanfodol a thasgau TG craidd.

Mae dysgwyr Troseddeg y Coleg wedi elwa o safle trosedd VR aml-ddefnyddiwr arbennig, sy'n cael ei ddefnyddio i asesu eu sgiliau ymarferol adnabod a chasglu tystiolaeth mewn lleoliad proffesiynol efelychiadol. Gan ddefnyddio offer rhithwir fel llwch a brwsh olion bysedd, tortsh UV, bagiau tystiolaeth a marcwyr, mae dysgwyr yn ymchwilio yr olygfa gyda chynnydd yn cael ei gofnodi ar gyfer asesiad.

Mae dysgwyr adeiladu wedi gallu llywio safle adeiladu aml-ddefnyddiwr arbennig lle gallent nodi'r gwahanol beryglon a welir yn gyffredin ar y safle. Mae pob perygl a nodir yn gywir yn cael ei amlygu gydag eicon penglog ac esgyrn croes gyda sgôr wedi'i gofnodi a'i arddangos ar hysbysfwrdd yn y byd, gan ganiatáu i ddysgwyr brofi'r risgiau a'r iechyd a'r diogelwch sydd eu hangen ar gyfer ymweliad â safle cyn mynychu lleoliad gwaith.

Mae dysgwyr ar gyrsiau Modurol wedi cael y dasg o adeiladu car Lego Robot gan ddefnyddio o leiaf dau ysgogydd ac o leiaf dau synhwyrydd. Yna roedd yn rhaid iddynt raglennu'r car robot yn y fath fodd fel y gallai ddatrys drysfa yn annibynnol, gan roi profiad iddynt o elfen raglennu mecaneg.

Gan nad yw dysgwyr Modurol sy'n astudio'r modiwl cerbydau trydan yn cael cyffwrdd â cherbyd trydan nes eu bod ar y cwrs Lefel 3 oherwydd foltedd uchel, mae CCAF wedi datblygu offeryn addysg dim-cyffwrdd. Gan ddefnyddio AR a VR, mae'r offeryn yn caniatáu i ddysgwyr ddatgymalu car trydan a throi pob rhan i ddod yn gyfarwydd â’r ffurf.

Cymerodd grŵp o ddysgwyr rhyngwladol sydd ar gwrs i ddatblygu sgiliau digidol ran mewn taith ofod rithwir i drwsio synwyryddion a osodwyd gan y gofodwr Tim Peake. Yna roedd yn rhaid iddynt fewnforio Modiwlau Python a rhaglennu cyfrifiadur bwrdd sengl Raspberry Pi i wirio synwyryddion priodol a dangos eu data allbwn ar fonitor.

Cafodd dysgwyr a oedd eisiau mynd i mewn i'r diwydiant cyfryngau a darlledu y dasg o greu eu podlediad eu hunain gydag Academi Cyfryngau Jason Mohammad. Fe wnaethant symud ymlaen o gynllunio a sgriptio, i recordio gan ddefnyddio Soundtrap ac offer proffesiynol. Aeth rhai dysgwyr ymlaen i gyhoeddi eu podlediadau ar Spotifiy.

Ac mae Clwb Codio wythnosol y Coleg yn caniatáu i ddysgwyr archwilio codio a sgiliau digidol eraill wrth hunanreoli prosiectau.

Mae statws arddangos hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad y Coleg i sicrhau bod gan ei staff y sgiliau digidol diweddaraf. Mae hyn wedi cynnwys fforwm digidol pwrpasol ar Microsoft Teams lle gall staff ofyn cwestiynau sy'n gysylltiedig â thechnoleg, rhannu awgrymiadau a chyfnewid arfer gorau, a digwyddiadau rhwydweithio Microsoft Mixer ar gyfer staff sydd wedi cyflawni ardystiadau Microsoft yn ystod y blynyddoedd diwethaf i feithrin diwylliant o ragoriaeth ddigidol.

Mae tîm TEL CCAF hefyd yn ymgysylltu'n weithredol â chymunedau dysgu allanol, gan fynychu digwyddiadau EdTech ledled y DU yn rheolaidd i gyfrannu a chael y gwybodaeth ddiweddaraf am arloesiadau technegol sy'n dod i'r amlwg.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James-Evans: "Rydym wrth ein bodd bod Microsoft wedi parhau i gydnabod ein hymrwymiad i Ddysgu â Chymorth Technoleg. Mae gennym strategaeth sgiliau digidol i ddarparu'r cyfleoedd a'r dechnoleg yn barhaus i gydweithwyr a dysgwyr CCAF i ddatblygu eu sgiliau digidol eu hunain ac mae'r gwaith a wnawn gyda Microsoft yn cefnogi'r ymrwymiad hwnnw.

"Nid yn unig y mae hyn yn gwella profiad dysgwyr yn y Coleg, gan roi mewnwelediadau gwerthfawr iddynt i'r byd gwaith yn eu gyrfaoedd dewisol, ond mae'n sicrhau ein bod yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i addysgu a chefnogi ein dysgwyr. Office365 a phecynnau fel Teams ac Outlook yw'r llwyfannau a ddefnyddir fwyaf mewn busnesau ledled y byd ac mae pob un o'r dysgwyr yn gadael y Coleg fel defnyddwyr hyderus o dechnoleg Microsoft waeth pa gwrs maen nhw wedi bod arno - a bydd hynny'n ychwanegu gwerth ar unwaith i unrhyw gyflogwr."