Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cyfrif y dyddiau nawr tan wythnos olaf mis Tachwedd, pan fydd yn cynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU.
Bydd y Coleg yn cynnal 18 cystadleuaeth ar gyfer WorldSkills y DU, mewn disgyblaethau sy'n amrywio o Dechnoleg Cerbydau Trwm i Gelfyddydau Coginio, ynghyd â phob un o'r wyth rownd derfynol Sgiliau Sylfaen mewn ystod eang o feysydd. Mae hefyd yn lleoliad ar gyfer nifer o ddigwyddiadau ehangach ac ymweliadau swyddogol sy'n ymgysylltu ag arweinwyr busnes, llywodraeth ac addysg am bwysigrwydd sgiliau. Bydd mwy na 100 o gystadleuwyr yn cymryd rhan yn y cystadlaethau yn CCAF a bydd miloedd yn rhagor o bob cwr o'r rhanbarth, Cymru a'r DU yn ymweld yn ystod yr wythnos i wylio cystadlaethau a mynychu digwyddiadau ehangach.
Bydd y cystadlaethau'n denu’r dysgwyr a'r prentisiaid gorau o bob cwr o'r DU i gystadlu am gyfle i gynrychioli'r DU yn y 'Gemau Olympaidd Sgiliau' - Rowndiau Terfynol rhyngwladol WorldSkills 2028 yn Japan.
Bydd gan CCAF 14 o gystadleuwyr yn Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU, gan gynnwys pedwar sy'n cystadlu yn eu hail Rownd Derfynol; David Morgan mewn Cynnal a Chadw Awyrennau, Belal Al Haka ac Owen Thomas mewn Atgyweirio Cerbydau a Travis Huntley mewn Teilsio Waliau a Lloriau.
Mae cynnal y Rowndiau Terfynol yn gyfle unigryw, gan ddod â chyflogwyr, ysgolion, y gymuned ac arweinwyr gwleidyddol at ei gilydd i ddathlu sgiliau a'u pwysigrwydd. Bydd Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Coleg Gwent, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cynnal cystadlaethau drwy gydol yr wythnos hefyd.
Dywedodd Prif Weithredwr Coleg Caerdydd a'r Fro ac Ymddiriedolwr WorldSkills y DU, Mike James: “Rydyn ni’n gyffrous iawn am gynnal Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU yng nghyfleusterau o’r radd flaenaf y Coleg ar ein Campws ni yng Nghanol y Ddinas yng Nghaerdydd.
“Mae hwn yn gyfle gwych i ddod â chyflogwyr a'r dalent ifanc orau yn y DU at ei gilydd ac i weithredu fel llysgenhadon dros sgiliau.
“Yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, rydyn ni’n credu'n angerddol ym mhwysigrwydd cystadlaethau sgiliau fel WorldSkills y DU a'r rôl maen nhw'n ei chwarae wrth ysbrydoli pobl i ddatblygu sgiliau lefel uchel. Mae sgiliau'n hanfodol i fusnesau o bob sector a maint, ac i economïau ledled y byd. Mae sgiliau lefel uchel yn gwneud busnesau'n well ac yn fwy abl ac effeithlon, gan ddenu cwsmeriaid a chyfrannu at gymunedau ac economïau mwy llewyrchus.
“Dyma pam mae WorldSkills y DU mor bwysig. Mae'n dod â'r negeseuon yma at ei gilydd ac yn eu hamlygu nhw ar raddfa ledled y DU, gan ddangos i gyflogwyr a llywodraethau bod buddsoddi mewn sgiliau’n fuddsoddiad yn y dyfodol.”