Darlithydd CCAF Michael a chyn-fyfyriwr yn y Coleg a'i bartner Gina yn ennill Gwobrau Ysbrydoli! am eu hymrwymiad i ddysgu gydol oes

25 Medi 2025

Mae Darlithydd Lletygarwch ac Arlwyo Coleg Caerdydd a'r Fro, Michael Cook, a chyn-ddysgwr a phartner y Coleg, Gina Powell, wedi ennill Gwobrau Ysbrydoli!

Ar ôl gweithio fel pobydd a chogydd crwst yng Nghaerdydd, dychwelodd Michael i fyd addysg yn ei 40au. Gan wneud y penderfyniad beiddgar i oresgyn ei ddyslecsia, enillodd Michael gymwysterau cogydd a becws ffurfiol yn CCAF. Yn ystod ei flwyddyn olaf yn y coleg, gofynnodd ei ddarlithydd a oedd wedi ystyried addysgu erioed ac fe wnaeth hynny ei ysbrydoli i barhau â'i siwrnai ddysgu. Ar ôl cwblhau Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (PCET), cafodd swydd yn cyflwyno ar Raglen Prentisiaeth Iau CCAF.

Enillodd Michael ei Wobr Ysbrydoli! yn y categori Newid Bywyd. Mae'n credu bod dyslecsia wedi rhwystro ei yrfa goginio ond, ar ôl bod yn hoff o rannu ei sgiliau erioed, mae bellach wedi cael ei gymell i helpu eraill, yn enwedig pobl ifanc ag anawsterau dysgu tebyg iddo'i hun.

“Drwy gydol fy siwrnai i yn ôl i fyd addysg, fe wnes i sylweddoli fy mod i, ers blynyddoedd, wedi osgoi dysgu’n weithredol oherwydd fy mhroblemau gyda dyslecsia,” eglurodd Michael. “Roeddwn i wedi argyhoeddi fy hun nad oeddwn i’n ddigon academaidd na deallus i lwyddo mewn amgylchedd addysgol.

“Roedd fy mhenderfyniad i geisio cwblhau cymwysterau ffurfiol yn foment hollbwysig yn fy mywyd i. Fe wnaeth yr hyfforddiant trylwyr hogi fy sgiliau coginio i ac aildanio fy angerdd dros ddysgu.

“Wrth i mi wneud cynnydd drwy fy nghyrsiau, fe wnes i sylweddoli pwysigrwydd addysg wrth ddatgloi cyfleoedd newydd. Mae’n rhoi cymaint o foddhad gwylio myfyrwyr rydych chi wedi’u hyfforddi a’u cefnogi yn llwyddo.”

Darganfu Michael yn ddiweddar hefyd ei fod wedi graddio gyda 2:1 yn ei Radd Meistr mewn Twristiaeth a Lletygarwch Rhyngwladol, ar ôl astudio ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd ar yr un pryd â’i ferch Livvy. Roedd wedi’i hannog hi i fynd i’r brifysgol i ddilyn ei breuddwyd o weithio fel rheolwr digwyddiadau.

Ychwanegodd Michael: “Mae addysg yn ffordd allan o dlodi ac fe fyddwn i’n annog unrhyw un i’w chofleidio ar unrhyw oedran. Fe fyddaf yn parhau i addysgu, arwain ac ysbrydoli eraill.”

Enillodd Gina Powell, Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd yn Ysgol Gynradd Pencaerau yng Nghaerdydd, Wobr Ysbrydoli! hefyd, yn y categori Llais y Dysgwr.

Ar ôl cymryd rhan mewn Dysgu Teuluol mewn ysgol lle'r oedd hi'n rhiant, symudodd Gina ymlaen i wirfoddoli i ddechrau fel Cynorthwy-ydd Addysgu yn yr ysgol. Yn fuan daeth Gina yn aelod staff cyflogedig yn yr ysgol ac mae'n eiriolwr angerddol dros ddysgu oedolion. Mae hi bellach yn cysylltu â CCAF ac Addysg Oedolion Caerdydd i gyflwyno cyfleoedd dysgu i oedolion a rhieni yn Nhrelái.

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Ehangu Cyfranogiad CCAF, Emma McLoughlin: “Mae siwrnai Gina o fod yn fam i fod yn ddysgwr, yn gyflogai ac yn llysgennad dros ddysgu oedolion yn dangos y gall cael llais dros ddysgu greu newid mewn cenhedlaeth i'w theulu a'i chymuned.

“Mae hi'n creu newid allweddol drwy ei hangerdd, ei hymgysylltu a'i dyheadau ar gyfer aelodau eraill y gymuned.”

“Drwy fod yn llysgennad dysgu, rydw i'n dangos nad ydi bywyd yn dod i ben gyda bod yn rhiant - gallant ddod yn beth bynnag maen nhw eisiau bod! Rydw i wedi cerdded yn yr un esgidiau â llawer o’r teuluoedd rydw i’n eu cefnogi,” meddai Gina, sy’n fam i dri ac yn nain i bump.

“Efallai nad ydi’r dysgu wedi digwydd iddyn nhw pan oedden nhw’n iau ond dydi hynny ddim yn golygu ei bod hi’n rhy hwyr. Rydw i wedi dod i ddeall nad ydi dysgu’n ymwneud â chymwysterau yn unig; mae’n ymwneud â hyder, perthyn ac agor drysau nad oedd pobl yn gwybod eu bod yn bodoli hyd yn oed.”

Yr hyn sy’n gwneud ei rôl yn fwy personol fyth yw bod ei merched bellach yn addysgu yn yr ysgol roeddent yn ei mynychu o’r blaen a’i hwyrion yn ddisgyblion yno.

“Gyda chefnogaeth tiwtoriaid, rydw i wedi gweld rhieni’n ailgysylltu â dysgu ac yn cael ymdeimlad newydd o hunan-werth. Os mai’r brifysgol yw eu nod neu ddim ond y dewrder i gymryd y cam cyntaf hwnnw, rydw i yma i gerdded ochr yn ochr â nhw, oherwydd mae pob cam ymlaen yn bwysig.

“Nawr, rydw i hefyd yn cael cefnogi swyddogion ymgysylltu â theuluoedd eraill a helpu i agor ein hysgol ni i ddysgu cymunedol ehangach. Pan rydyn ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd, mae rhywbeth anhygoel yn digwydd: mae ein cymuned ni’n tyfu’n gryfach, yn agosach ac yn llawn posibiliadau.”

Yn uchafbwynt yr Wythnos Dysgu Oedolion yng Nghymru, mae gwobrau Ysbrydoli! yn cydnabod y rhai sydd wedi dangos ymrwymiad i beidio byth â rhoi’r gorau i ddysgu. Mae’r gwobrau’n cael eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Mae pob enillydd Gwobr Ysbrydoli! yn dangos sut gall dysgu gynnig ail gyfleoedd, helpu i greu cyfleoedd gyrfa newydd, meithrin hyder a helpu cymunedau i ddod yn hyfyw ac yn llwyddiannus.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Llongyfarchiadau i Michael a Gina! Mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud mor bwysig a gwerthfawr ac yn newid bywydau mewn cymaint o wahanol ffyrdd, gan wneud y ddau’n enillwyr haeddiannol iawn o’r gwobrau yma.”