Disgyblion Ysgol Uwchradd Whitmore yn ennill Her Awyrofod Coleg Caerdydd a’r Fro 2025

29 Gor 2025

Mae tîm o chwech o ddisgyblion Blwyddyn 10 o Ysgol Uwchradd Whitmore yn y Barri wedi ennill Her Awyrofod Ysgolion Coleg Caerdydd a'r Fro 2025.

Yn ei thrydedd blwyddyn ar ddeg bellach, mae'r Her Awyrofod yn gyfle i ddisgyblion Blwyddyn 10 o ysgolion ledled de Cymru gystadlu mewn cyfres o weithgareddau a oedd, eleni, yn cynnwys treialu drôn, efelychydd hedfan, adeiladu cylched electronig gan ddefnyddio cylchedau cyfochrog, gwneud tagiau cŵn, her gollwng ŵy a jacio awyren Bulldog. Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Hyfforddiant Awyrofod Ryngwladol (ICAT) enwog CCAF ym Maes Awyr Caerdydd ac mae wedi'i chynllunio i godi ymwybyddiaeth o hyfforddiant yn y diwydiant Awyrofod ac o bynciau STEM.

Eleni cystadlodd 22 o dimau o 13 o ysgolion ac Ysgol Uwchradd Whitmore ddaeth yn fuddugol. Maen nhw’n ennill tlws a £250 o dalebau tuag at offer STEM ar gyfer eu hysgol.

Dywedodd Pennaeth Technoleg Dylunio Ysgol Uwchradd Whitmore, Allen Fitzpatrick: "Roedd y digwyddiad wedi'i drefnu'n dda ac roedd y strwythur yn wych i'r myfyrwyr brofi'r holl weithgareddau. Roedd y staff yn groesawgar ac yn gymwynasgar fel bob amser.

“Ar ôl cymryd rhan yn y digwyddiad ers sawl blwyddyn, mae'n wych ennill y categori ysgol cyffredinol o'r diwedd! Diolch yn fawr iawn i bawb yn CCAF ac ICAT am drefnu a chyflwyno digwyddiad mor rhagorol. Mae’r myfyrwyr yn cael blas real ar y math o weithgareddau y gallen nhw fynd ymlaen i'w gwneud pe baen nhw’n dewis y maes yma mewn peirianneg."

Dywedodd Olivia, disgybl Blwyddyn 10 yn Whitmore: "Roedd hwn yn brofiad anhygoel, roedd y gwaith trefnu’n arbennig ac roedd y gweithgareddau a gynhaliwyd yn y Coleg yn ddiddorol iawn. Yn bersonol, fy hoff weithgaredd i oedd yr efelychydd hedfan, cael y dasg o lanio'r awyren yn ddiogel. Rydw i wir yn ddiolchgar am gael y cyfle i gymryd rhan yn y digwyddiad yma.”

Dywedodd Oniya, disgybl Blwyddyn 10 arall: "Wrth fynd i mewn, doeddwn i ddim yn disgwyl iddo fod mor addysgiadol a diddorol ag yr oedd. Fe gefais i gyfle prin i siarad â staff am ba gyrsiau y gallwch chi eu dilyn a pha gymwysterau y gallwch chi eu hastudio yn y Coleg ac mae'n deg dweud fy mod i wedi mwynhau'r diwrnod yn fawr iawn ac fe fyddwn i’n ei wneud eto pe bai rhywun yn gofyn i mi wneud hynny."

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James-Evans: “Llongyfarchiadau i'r tîm o Ysgol Uwchradd Whitmore am ennill yr Her Awyrofod!

“Yn CCAF rydyn ni’n credu'n gryf yng ngwerth cystadlaethau sy'n seiliedig ar sgiliau a'r talentau maen nhw’n helpu i'w datblygu. Mae'n arbennig o bwysig ein bod ni’n annog pobl ifanc, yn enwedig merched ifanc, i yrfaoedd mewn Awyrofod a STEM ac mae cystadlaethau hwyliog fel yr Her yma’n gwneud llawer i helpu gyda hynny – diolch yn fawr iawn i holl gydweithwyr CCAF wnaeth drefnu a chynnal yr Her Awyrofod eleni.”