Bydd mwy o ddysgwyr a phrentisiaid nag erioed o'r blaen o Goleg Caerdydd a'r Fro yn cymryd rhan yn Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU eleni.
Bydd record o 16 o ddysgwyr a phrentisiaid o'r Coleg yn cystadlu mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau pan ddaw Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU i Gymru ym mis Tachwedd, a bydd y Coleg yn cynnal rhai o'r rowndiau rhagbrofol. Bydd CCAF hefyd yn cystadlu yn y ddisgyblaeth Therapydd Harddwch a Thechnegydd Cyfrifo am y tro cyntaf.
Bydd y dysgwyr a'r prentisiaid yn cystadlu yn erbyn enillwyr rhanbarthol cystadlaethau sgiliau o bob cwr o'r DU yn eu disgyblaeth. Wedyn bydd enillwyr Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU yn cael cyfle i gynrychioli'r DU yn y 'Gemau Olympaidd Sgiliau' - Rowndiau Terfynol rhyngwladol WorldSkills 2028 yn Japan.
Dyma’r rhai sydd wedi cyrraedd y Rowndiau Terfynol o CCAF:
• Nicola Smith – Technegydd Cyfrifo
• Alison Ling – Technegydd Cyfrifo
• Ruby Edwards – Cynnal a Chadw Awyrennau
• David Morgan – Cynnal a Chadw Awyrennau
• Belal Al Haka – Atgyweirio Corff Cerbydau
• Owen Thomas – Atgyweirio Corff Cerbydau
• Logan Sweet – Ailorffen Cerbydau
• Anisa Abdin – Therapydd Harddwch
• Dominic Walker – Sgiliau Sylfaen: Gwasanaethau Bwyty
• Oliver Thomas – Technoleg Cerbydau Trwm
• Austin Peacock – Technoleg Cerbydau Trwm
• Daniel Pitman – Technegydd Cefnogi TG
• Daniel James – Technegydd Seilwaith Rhwydwaith
• Travis Huntley – Teilsio Waliau a Lloriau
• Alex Ainley – Teilsio Waliau a Lloriau
• Joseph Burgess – Teilsio Waliau a Lloriau
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James-Evans: “Rydyn ni’n dymuno’r gorau i'r 16 o'n dysgwyr a'n prentisiaid ni fydd yn cymryd rhan yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU ym mis Tachwedd eleni. Rydyn ni i gyd yn hynod falch ohonoch chi!
“Yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro rydyn ni’n credu'n angerddol ym mhwysigrwydd cystadlaethau sgiliau fel WorldSkills y DU a'r rôl maen nhw'n ei chwarae wrth ysbrydoli pobl i ddatblygu sgiliau lefel uchel. Mae sgiliau'n hanfodol i fusnesau o bob sector a maint, ac i economïau ledled y byd. Mae sgiliau lefel uchel yn gwneud busnesau'n well ac yn fwy abl ac effeithlon, gan ddenu cwsmeriaid a chyfrannu at gymunedau ac economïau mwy llewyrchus.
“Dyma pam mae WorldSkills y DU mor bwysig. Mae'n dod â'r negeseuon yma at ei gilydd ac yn eu hamlygu ar raddfa ledled y DU, gan ddangos i gyflogwyr a llywodraethau bod buddsoddi mewn sgiliau yn fuddsoddiad yn y dyfodol.”