Myfyrwyr Interniaethau â Chymorth Coleg Caerdydd a'r Fro yn dathlu yn Seremonïau Graddio

21 Gor 2025

Mae myfyrwyr Interniaethau â Chymorth Ar y SAFLE Coleg Caerdydd a'r Fro gyda Phrifysgol Caerdydd, Dow Silicones UK a Gwesty'r Parkgate wedi cael eu seremonïau graddio.

Eleni graddiodd 23 o interniaid ar draws y tair rhaglen flaenllaw. Mae'r interniaethau'n cynnig cyfleoedd hygyrch ond cynhwysol i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol a hyd yn hyn mae ganddynt gyfradd gyflogaeth o 60%, o'i gymharu â'r ffigur cenedlaethol o 5.1% o bobl ag ADY sydd mewn cyflogaeth â thâl.

Dechreuodd y rhaglen Interniaeth â Chymorth Ar y SAFLE yn 2016 gyda chynllun peilot ym Mhrifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth ag Anabledd Dysgu Cymru ac Asiantaeth Cymorth Cyflogaeth Elite. Wedi'i adeiladu ar fframwaith Dylanwadu a Hysbysu, tyfodd yn gyflym i fod yn fodel sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol ar gyfer cyflogadwyedd cynhwysol.

Yn dilyn ei llwyddiant, lansiwyd ail raglen yn Dow Silicones UK Ltd yn 2019 — yr interniaeth gyntaf a gefnogir gan y sector preifat yng Nghymru. Yn 2024, ehangodd CAVC y model eto, gan ffurfio partneriaeth â Gwesty'r Parkgate i gyflwyno interniaeth â chymorth am y tro cyntaf mewn gwesty yng Nghymru. Mae'r tri busnes sy'n rhan o’r cynllun yn darparu lleoliadau gwaith bywyd go iawn o ansawdd uchel sy'n helpu i bontio'r bwlch rhwng addysg a chyflogaeth.

Hyd yn hyn, mae mwy na 150 o bobl ifanc wedi cwblhau'r rhaglen, gyda chyfradd cwblhau o 98% a 60% yn sicrhau cyflogaeth gynaliadwy.

Dywedodd Sharon James-Evans, Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro: “Mae’r fenter hon yn parhau’n gynhwysol, yn ysbrydoledig, ac yn ddylanwadol — gan gyd-fynd yn berffaith â gwerthoedd ein coleg. Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi pobl ifanc ag ADY yn eu taith tuag at gyflogaeth ystyrlon.”

Ychwanegodd James Scorey, Dirprwy Bennaeth CAVC: “Mae ein partneriaethau â’r busnesau sy’n eu cynnal yn wirioneddol amhrisiadwy. Mae'r cyfleoedd trochi a gynigir gan Brifysgol Caerdydd, Dow Silicones, a Gwesty'r Parkgate yn paratoi dysgwyr nid yn unig ar gyfer gwaith, ond ar gyfer bywyd.”

Dywedodd Damien Martin, Rheolwr Cyffredinol Gwesty’r Parkgate: “Dyma’r rhaglen orau i ni ymwneud â hi erioed. Mae'r sylfaen bellach wedi'i gosod ar gyfer partneriaeth hirdymor gyda CAVC, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i gynnig interniaethau ystyrlon.”

Dywedodd Sally Ann-Efstathiou o Brifysgol Caerdydd: “Bellach yn cael ei chynnal am y nawfed tro, mae’r rhaglen yn parhau i dyfu, gan ddarparu ystod ysbrydoledig ac amrywiol o brofiadau i interniaid ar draws y brifysgol.”

Dywedodd Kim Eversham, Rheolwr Ansawdd Dow Silicones: “Mae’r rhaglen wedi cael effaith bwerus ar draws ein safle. Mae'n ein helpu i greu diwylliant gwirioneddol gynhwysol, gan gyrraedd pob adran a chydweithiwr.”