Cyn-ddysgwr yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, Roxy, yn ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Mynediad i Addysg Uwch Agored

8 Mai 2025

Mae Roxy Hale, cyn-ddysgwr Mynediad i Wyddorau Iechyd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, wedi ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru ledled y wlad am Ymrwymiad Eithriadol i Astudio.

Gan ddychwelyd i addysg yn 2021 ar ôl bwlch o ddeng mlynedd, cofrestrodd Roxy yn CCAF ar gwrs Mynediad i Astudiaethau Pellach. Roedd yn rhaid iddi nid yn unig addasu i fod yn ôl mewn addysg, ond hefyd roedd cyfyngiadau Covid ar y pryd yn golygu bod rhaid i Roxy addasu i ffordd newydd, hybrid o ddysgu.

Er gwaetha’r cyfnod clo a dosbarthiadau ar-lein, roedd Roxy yn benderfynol o gwblhau'r cwrs ac ennill y cymwysterau TGAU oedd eu hangen i symud ymlaen i gwrs Mynediad i Addysg Uwch, a gwnaeth hynny yn 2023.

Wynebodd Roxy lawer o heriau a'u goresgyn drwy gydol ei hamser yn y Coleg, gan ddyfalbarhau bob amser, ac ennill ei diploma Mynediad i Wyddorau Iechyd. Roedd hi bob amser yn dod i’r coleg gyda brwdfrydedd didwyll, eisiau gwella ei rhagolygon a chyflawni rhywbeth iddi hi ei hun a'i phlant. Mae Roxy bellach yn astudio Gwyddoniaeth Fiofeddygol ym Mhrifysgol De Cymru.

“Roeddwn i wedi synnu cymaint fy mod i wedi ennill gwobr ac roedd yn gwneud i mi deimlo mor falch ohono i fy hun,”
meddai Roxy. “Roeddwn i wrth fy modd yn y Coleg – fe wnes i ffrindiau newydd a dysgu llawer o fy mhrofiad.”

Dywedodd Roxy ei bod wedi cael cefnogaeth gan ei chyfoedion a'i thiwtoriaid drwy gydol y cwrs, hyd yn oed pan oedd pethau'n "ymddangos yn amhosibl".

"Roeddwn i mor nerfus am ddychwelyd i fyd addysg ond cyn gynted ag y dois i'n ôl i'r arfer o wneud amser i astudio, fe ddaeth yn rhan o fy nhrefn arferol i," meddai. "Roedd dychwelyd i addysg yn un o'r penderfyniadau gorau i mi eu gwneud – rydw i nawr un cam yn nes at fy swydd ddelfrydol i’n gweithio mewn labordy ac yn gwneud a threialu cyffuriau."

Dywedodd Rheolwr Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru, Victor Morgan: "Roedd Agored Cymru wrth eu bodd yn cyflwyno Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Mynediad i AU i Roxy am Ymrwymiad Eithriadol i Astudio. Fe arweiniodd y cyfuniad o'i gwydnwch a'i gallu academaidd at iddi gwblhau Diploma Mynediad i AU Agored Cymru mewn Gwyddorau Iechyd yn llwyddiannus a symud ymlaen i Addysg Uwch.

"Mae hi wedi dangos sut gall cwrs Mynediad i AU, er gwaethaf dwysedd ei ofynion academaidd, hwyluso cyfleoedd i unigolion wireddu eu potensial a chyflawni eu dyheadau. Rydyn ni’n hynod falch o Roxy ac yn ei llongyfarch ar ei chyflawniad. Dymunwn y gorau iddi gyda’i hastudiaethau presennol ac yn y dyfodol ac ar y llwybr gyrfa mae hi wedi’i ddewis.”

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Llongyfarchiadau i Roxy am ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru.

“Yn CCAF rydyn ni’n angerddol am sicrhau bod unigolion yn gallu ennill y cymwysterau cywir a datblygu'r sgiliau sydd arnyn nhw eu hangen i symud ymlaen, a gwella neu newid eu gyrfa. Mae Roxy yn enghraifft ddisglair o ddysgwr sydd wedi ymroi, gweithio'n galed a, gyda'r gefnogaeth gywir, cyflawni ei dyheadau – mae hi wir yn haeddu'r wobr yma.”