Coleg Caerdydd a'r Fro i herio Coleg Gŵyr yng Ngemau cyntaf Colegau Cymru

6 Ebr 2025

Bydd timau chwaraeon o Goleg Caerdydd a’r Fro a Choleg Gŵyr Abertawe yn mynd benben â’i gilydd mewn cyfres o ornestau yng Ngemau cyntaf Colegau Cymru sydd i’w cynnal yng Nghaerdydd ar ddydd Gwener, 11eg Ebrill 2025.

Bydd y diwrnod o ddigwyddiadau’n cynnwys saith o gemau chwaraeon yn cael eu cynnal ar Gampws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd (CISC) a’r Tŷ Chwaraeon yn Lecwydd. Mae croeso i wylwyr a does dim angen archebu lle – dewch draw i gefnogi’r timau.


Amserlen y gemau


Pêl-rwyd                             Tŷ Chwaraeon 3                                      11am

Boccia                                Tŷ Chwaraeon 3 – Rinc                           11:15am

Pêl-fasged                         Tŷ Chwaraeon 2 - Cwrt 3                         11:30am

Pêl-droed Merched            CISC - 3G Pêl-droed                               12:00pm

Rygbi Dynion                     CISC - 3G Rygbi                                      1:00pm

Pêl-droed ILS (7)               CISC - 3G Pêl-droed / Ysgubor                1:30pm

Pêl-droed Dynion               CISC - Prif Gae                                        2:30pm


Dywedodd James Young, Uwch Bennaeth Chwaraeon, Twristiaeth a Gwasanaethau Cyhoeddus CCAF: “Mae’r Gemau Colegau Cymru cyntaf yma’n cynnig cyfle gwych i ddysgwyr a chydweithwyr o bob un o gampysau CCAF a Choleg Gŵyr ddod at ei gilydd, rhwydweithio a chael hwyl yn cefnogi cystadlu cyfeillgar. Fe allwch chi ddisgwyl gweld perfformiadau rhagorol gan y genhedlaeth nesaf o dalent chwaraeon – amdani Tîm CCAF!”