Rhaglen Recriwtio a Hyfforddi yn cefnogi twf busnes ac uwchsgilio ar gyfer busnesau bach a chanolig ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd

13 Maw 2025

Fel rhan o Raglen Datblygu a Thwf Clwstwr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn helpu i ysgogi twf busnesau bach gyda rhaglen Recriwtio a Hyfforddi arloesol sy’n darparu cymorth ariannol a chyngor hyfforddi pwrpasol.

Mae’r rhaglen Recriwtio a Hyfforddi yn gymhelliant cyflogaeth sy’n cynnig £2,000 tuag at recriwtio aelod ychwanegol o staff ynghyd â chyngor ac arweiniad hyfforddi wedi’u teilwra. Wedi’i hariannu ar y cyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae’r rhaglen Recriwtio a Hyfforddi yn cynnig £2,000 ar gyfer pob cyflogai newydd i unrhyw fusnes yn y rhanbarth sy’n bodloni meini prawf penodol, ynghyd ag arweiniad arbenigol ar hyfforddiant a datblygiad.

Gall busnesau bach a chanolig (BBaCh) ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg wneud cais am hyd at bum penodiad newydd am £2,000 yr un, ar yr amod eu bod yn bodloni’r canlynol:

  • Busnesau sector preifat bach sy'n cyflogi llai na 50 o gyflogeion
  • Recriwtio ar gyfer swydd gwbl newydd, ac nid llanw, sy'n llawn amser (30 awr yr wythnos o leiaf), a chytundeb o 12 mis o leiaf.
  • Talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol neu uwch.
  • Recriwtio unigolyn 18 oed neu hŷn
  • Recriwtio ar gyfer swyddi sero net / gwyrdd, gweithgynhyrchu uwch neu ddigidol
  • Ddim yn derbyn cyllid arall ar gyfer recriwtio i'r swydd hon

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, James Scorey: "Mae’r cymhelliant cyflogaeth Recriwtio a Hyfforddi BBaChau yn darparu cymhelliant rhagorol i gefnogi twf busnes ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r cymorth yma wedi cael effaith sylweddol, gan alluogi BBaChau i brynu offer newydd ar gyfer recriwtiaid, darparu hyfforddiant sefydlu ategol, a chynnig pecynnau tâl cystadleuol i ddenu a chadw talent o fewn y rhanbarth."

“Mae buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant yn allweddol i gefnogi twf economaidd a chynhyrchiant, ac mae ein cymuned BBaChau ni yng Nghymru wrth galon hyn.”

Dywedodd Rowena O’Sullivan, Rheolwr Sgiliau a Thalent Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: “Mae buddsoddiad ar y cyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth y DU ar ffurf Cymhelliant Recriwtio a Hyfforddi yn dangos ymdrech gydweithredol i gefnogi busnesau lleol ac ysgogi twf economaidd.

“Mae ein ffocws ni ar gefnogi busnesau bach, yn enwedig yn y Cymoedd gogleddol, yn helpu i ysgogi creu swyddi newydd, yn ogystal â meithrin sgiliau a gallu ar draws y meysydd sero net, gweithgynhyrchu uwch a digidol, gan gyda-fynd a’n blaenoriaethau strategol ni a thwf sectorau allweddol.”

Mae cwmni gweithgynhyrchu uwch o Flaenau Gwent ac ymgynghoriaeth Apex Additive Manufacturing wedi cyflogi pum aelod newydd o’r tîm gan ddefnyddio Recriwtio a Hyfforddi, ac mae’n gobeithio adeiladu ei weithlu ymhellach er mwyn cynyddu cynhyrchiant.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Apex, Youssef Beshay: "Roedd Recriwtio a Hyfforddi o help eithriadol ac yn syrpreis pleserus. O'r dechrau, roeddwn i’n awyddus i ymgymryd â'r her o ddatblygu ein talent ni ein hunain, ond mae dod o hyd i bobl sydd â'r profiad priodol mewn gweithgynhyrchu uwch yn hynod o anodd.

"Rydyn ni wedi cael llwyddiant mawr, gyda'n gweithlu ni bellach yn 70% o Gymry. Mae'r dalent yma - mae angen buddsoddiad gan gyflogwyr i hyfforddi aelodau newydd o'r tîm, ac fe brofodd Recriwtio a Hyfforddi i fod yn ardderchog ar gyfer hynny."

Cafodd LunarWP ei sefydlu yng Nghaerdydd i lenwi bwlch yn y farchnad ar gyfer cymorth WordPress i gwmnïau sy’n profi problemau parhaus gyda’u gwefannau a heb neb i droi ato.

Dywedodd Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol LunarWP, Dominic Bonaker: “Roedden ni’n gweld y cymhelliant Recriwtio a Hyfforddi fel opsiwn gwych i gefnogi ein hymdrechion recriwtio ni. Roedd yr adnodd ychwanegol yma’n amhrisiadwy wrth i ni dyfu o un cyflogai llawn amser i chwech mewn pedwar mis.

“Fe gawson ni’r gefnogaeth recriwtio, yn ogystal â’r cyfle am hyfforddiant pellach i’r cyflogeion presennol a newydd er mwyn gwella eu sgiliau. 

“Mae’r cyllid wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i ni eisoes. Roedd yn ein galluogi ni i gyflogi'n gyflymach a thyfu'n gyflymach o ganlyniad. Heb yr arian, byddai gennym ni lai o gyflogeion a llai o gwsmeriaid.”

Os ydych chi’n fusnes bach a chanolig sy’n dymuno recriwtio cyflogeion newydd ac sy’n bodloni’r meini prawf sydd wedi’u nodi uchod, gallwch gofrestru eich diddordeb mewn Recriwtio a Hyfforddi yma:

https://cavcforbusiness.co.uk/en/recruit-and-train#Financial-support-and-training-advice-to-grow-your-small-business