Mae Darlithydd Sgiliau Hanfodol Coleg Caerdydd a’r Fro, Martha Holman, a Kim Eversham, Rheolwr Ansawdd yn Dow Silicones yn y Barri, wedi ennill Gwobrau Tiwtor a Mentor Inspire! am eu hymroddiad i helpu oedolion i ddychwelyd i addysg a goresgyn rhwystrau i ddysgu.
Mae Gwobrau Tiwtoriaid Inspire!, sy’n cael eu trefnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn gwahodd enwebiadau ar gyfer unigolion sy’n cael effaith eithriadol mewn lleoliadau addysgol ledled Cymru, o ysgolion i addysg uwch ac addysg bellach, gweithleoedd, a lleoliadau cymunedol.
Wedi’u siapio gan eu profiadau unigol, mae enillwyr y gwobrau eleni yn gwneud cyfraniadau sylweddol at addysg oedolion yng Nghymru, gan gyrraedd cymunedau a chefnogi mwy o bobl i feithrin eu sgiliau a goresgyn rhwystrau.
Cafodd Martha Holman, Darlithydd Sgiliau Hanfodol yn CCAF, ei chydnabod am ei hymroddiad i gydraddoldeb a gwrth-hiliaeth. Fel rhan o’i siwrnai ysbrydoledig mae hi wedi goresgyn rhwystrau iaith ar ôl cyrraedd o Zimbabwe, ailhyfforddi fel athrawes ac ennill Rhagoriaeth yn ei graddau TAR a Meistr.
Mae hi wedi datblygu modiwl gwrth-hiliaeth arloesol ac mae’n helpu myfyrwyr i wneud cynnydd o lefel mynediad i gymwysterau uwch. Sefydlodd Martha hefyd yr elusen ‘Love Zimbabwe’ ac mae’n weithgar yn ei chymuned leol.
“Dydi hi byth yn rhy hwyr i ddechrau neu ddal ati i ddysgu,” meddai Martha. “Drwy fy mhrofiadau bywyd personol i, rydw i’n gallu helpu fy nysgwyr i ailddarganfod llawenydd a buddion addysg.”
Mewn partneriaeth â CCAF, lansiodd Kim Eversham y rhaglen “Transitions to Work” yn Dow Silicones UK, gan greu interniaethau â chymorth i ddysgwyr ag anghenion ychwanegol. Mae'r rhaglen wedi datblygu'n llwyddiannus gyda mwy na 50 o interniaid a chyfradd cyflogaeth o 60%, o gymharu â chymharydd cenedlaethol o 4.8%.
Mae arweinyddiaeth Kim, ei mentora a’i symbyliad i fwy na 40 o fentoriaid wedi meithrin diwylliant cynhwysol sy’n canolbwyntio ar allu yn Dow Silicones, gan arwain at swyddi a phrentisiaethau newydd.
“Mae mentora’n ymwneud â chreu amgylchedd seicolegol ddiogel a chefnogi dysgwyr i ddod â’u hunain i’r gwaith, datgelu eu gwir botensial, dod yn fersiynau gorau ohonyn nhw eu hunain a gwireddu eu dyheadau,” meddai Kim.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Llongyfarchiadau i Kim a Martha! Mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud mor bwysig a gwerthfawr ac yn newid bywydau mewn cymaint o wahanol ffyrdd, gan wneud y ddwy ohonyn nhw’n enillwyr haeddiannol iawn o’r gwobrau hyn.”