Disgyblion Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr yn ennill Her Awyrofod Coleg Caerdydd a’r Fro 2024

18 Medi 2024

Mae tîm o chwe disgybl Blwyddyn 10 o Gymuned Ddysgu Ebwy Fawr wedi ennill Her Awyrofod Coleg Caerdydd a’r Fro 2024 gyda’r sgôr uchaf erioed.

Yn ei 12fed blwyddyn bellach, mae’r Her Awyrofod yn cynnig cyfle i ddisgyblion Blwyddyn 10 o ysgolion ar draws de Cymru gystadlu mewn cyfres o weithgareddau a oedd eleni yn cynnwys peilota drôn, efelychydd hedfan, adeiladu cylched electroneg gan ddefnyddio cylchedau cyfochrog, gwneud tagiau cŵn, her gollwng wyau a jacio awyren Bulldog. Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Hyfforddiant Awyrofod Ryngwladol (ICAT) enwog CCAF ym Maes Awyr Caerdydd a’i nod yw codi ymwybyddiaeth o hyfforddiant yn y diwydiant Awyrofod ac o bynciau STEM.

Eleni, cefnogwyd y digwyddiad hefyd gan brentisiaid y Coleg o’r darparwr cynnal a chadw awyrennau lleol Caerdav, a ddaeth â deinameg cwbl newydd i’r gystadleuaeth. Fe fu’r disgyblion yn gweithio gyda’r prentisiaid gan eu bod yn agos o ran oedran, ac roedd staff yr ysgolion a oedd yn bresennol wedi addysgu rhai o’r prentisiaid ac wrth eu bodd yn cael cyfle i’w gweld eto.

Roedd y tîm o Gymuned Ddysgu Ebwy Fawr yn erbyn 23 o dimau eraill o bedair o ysgolion ym Mro Morgannwg, pump o ysgolion yng Nghaerdydd ac ysgolion o Ben-y-bont ar Ogwr a Chwmbrân. Nhw sgoriodd y nifer mwyaf o bwyntiau y mae tîm wedi’u sgorio yn hanes yr Her Awyrofod ers ei sefydlu 12 mlynedd yn ôl, ac maen nhw wedi ennill tlws a £250 o dalebau tuag at offer STEM ar gyfer eu hysgol.

Dywedodd Chris Eveleigh, Cydlynydd STEM Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr: “Fe gafodd y disgyblion amser gwych yn yr Her Awyrofod. Pan gyrhaeddodd fy nisgyblion i am y tro cyntaf roedden nhw'n nerfus iawn ond roedd y staff mor gynnes, cyfeillgar a chalonogol fel bod y disgyblion yn amlwg yn ymlacio ac yn mwynhau eu hunain erbyn diwedd yr her gyntaf.

“Roedd yn wych gwylio’r disgyblion yn defnyddio eu sgiliau STEM drwy gydol y dydd ond yr hyn wnaethon nhw ei ddysgu fwyaf oedd sut i gyfathrebu a chydweithio fel tîm. Fel athro, roeddwn i'n teimlo'n falch iawn pan wnaethon nhw gydweithio i jacio a lefelu awyren yn llwyddiannus. Y peth gorau am y diwrnod cyfan oedd gwylio’r disgyblion yn magu hyder a cheisio gwneud pethau na fydden nhw wedi dychmygu eu gwneud hyd yn oed ar ddechrau’r diwrnod.

“Fe fyddwn i wir yn argymell bod ysgolion eraill yn cymryd rhan yn y dyfodol.”

Dywedodd Nnaemeka Chukwurasalu, disgybl Blwyddyn 10: “Roedd yn ddiwrnod bendigedig. Roeddwn i wrth fy modd yn defnyddio’r offer – fy hoff ran i oedd y dronau.”

Dywedodd cyd-ddisgybl, Dylan Tarr: “Roeddwn i wrth fy modd gyda’r holl weithgareddau ymarferol, yn enwedig pan wnaethon ni jacio a lefelu’r awyren. Fe fyddwn i’n argymell mynd eto.”

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Llongyfarchiadau i’r tîm o Gymuned Ddysgu Ebwy Fawr nid yn unig am ennill yr Her Awyrofod, ond hefyd am sicrhau’r sgôr uchaf erioed!

“Yn CCAF rydyn ni’n credu’n gryf yng ngwerth cystadlaethau sy’n seiliedig ar sgiliau a’r doniau maen nhw’n helpu i’w datblygu. Mae’n arbennig o bwysig ein bod ni’n annog pobl ifanc, yn enwedig merched ifanc, i yrfaoedd mewn Awyrofod a STEM ac mae cystadlaethau hwyliog fel yr Her yma’n gwneud llawer iawn i helpu gyda hynny – diolch yn fawr iawn i holl staff y Coleg wnaeth drefnu a chynnal yr Her Awyrofod eto eleni.”