‘Pregethwr Galar’ Jamie Denyer yn cyflwyno sgyrsiau pwerus ac ysbrydoledig i ddysgwyr Chwaraeon, Twristiaeth a Gwasanaethau Cyhoeddus CCAF

8 Medi 2024

Mae Jamie Denyer, sy’n adnabyddus hefyd fel y ‘Pregethwr Galar’, wedi cyflwyno cyfres o sgyrsiau pwerus ac ysbrydoledig i ddysgwyr a staff yn Adran Chwaraeon, Twristiaeth a Gwasanaethau Cyhoeddus Coleg Caerdydd a’r Fro, fel rhan o’u rhaglen gynefino.

Yn dilyn llofruddiaeth ei nai 19 mlwydd oed gan fachgen 14 mlwydd oed, gwelodd Jamie effaith ddifrifol hyn ar ei deulu. Penderfynodd wneud gwahaniaeth cadarnhaol, gan ddweud wrth bobl ifanc sut all eu gweithredoedd greu goblygiadau difrifol.

Fel rhan o’r rhaglen gynefino i ddysgwyr yr Adran Chwaraeon, Twristiaeth a Gwasanaethau Cyhoeddus, cyflwynodd Jamie bump o sgyrsiau dilynol ar draws dau gampws, gan ymgysylltu â rhagor na 300 o ddysgwyr a 25 o staff. Ers hynny mae amryw wedi datgan pa mor weddnewidiol oedd y profiad.

Dywedodd Lois Hughes, Dysgwr Chwaraeon Lefel 3: “Roedd y cyflwyniad mor ddiddorol a grymus. Dangosodd gymaint i mi ynghylch sut i oroesi ac ymdopi drwy sefyllfaoedd anodd mewn bywyd. Roedd hi’n wych gweld rhywun sydd wedi profi cymaint o golled a defnyddio hynny i roi budd i bobl eraill.”

Dywedodd Steve Tallis, Darlithydd mewn Gwasanaethau Cyhoeddus: “Roedd y cyfan yn wefreiddiol. Roedd sgwrs Jamie mor ysbrydoledig - roedd ei dosturi a’i allu i droi poen yn rhywbeth pwrpasol yn arwydd o’i gryfder.

“Llwyddodd i ysgogi cymaint o wahanol emosiynau yn y rhai a oedd yn gwrando. Y siaradwr gorau a glywais erioed - rwy’n grediniol fod pawb a oedd yn ddigon ffodus i fod yno bellach yn unigolyn llawer iawn gwell.”

Dywedodd Massie Caulkett, dysgwr Teithio a Thwristiaeth Lefel 3: “Roedd y sgwrs yn hynod o ysbrydoledig gan wneud i mi deimlo’n gadarnhaol am fy nyfodol. Roedd y cyfan mor dwymgalon ac roedd ei stori’n wych.”

Dywedodd Deandre Jones, Dysgwr Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3: “Roedd y sgwrs mor rymus. Un o'r sgyrsiau gorau i mi erioed ei chlywed. Llwyddodd i wneud i mi gredu ynof fy hun. Roedd yn un sy’n gallu newid bywyd.

Dywedodd y Tiwtor Sgiliau, Rachael Brown: “Rwyf wedi clywed amryw o areithiau cymhellol, ond yn wir hon oedd yr un fwyaf pwerus ar sawl lefel. Rwy’n sicr y bydd profiadau a negeseuon Jamie yn aros yng nghof ei gynulleidfa am amser maith i ddod.”

Dywedodd Pennaeth Chwaraeon, Twristiaeth a Gwasanaethau Cyhoeddus Coleg Caerdydd a’r Fro. James Young: “Dydw i erioed wedi gweld pump o sesiynau un-awr lle roedd pob dysgwr wedi eu cyfareddu. Jamie yw’r siaradwr mwyaf effeithiol ac emosiynol y cefais erioed y fraint o’i glywed.

“Rydych yn teimlo ei boen a’i ing drwy ei lais pwrpasol ac ysgogol, gan ddefnyddio ei alar i greu newid pwerus a dylanwadol, heb ei ail. Llwyddodd pob un myfyriwr ac aelod o staff i gymryd darn o ysbrydoliaeth o’i araith ac maent yn dal i siarad am effaith unigol a gwerthfawr ei eiriau arnynt.

“Mae’n anodd diolch digon i Jamie ac edrychaf ymlaen at ei wahodd yn ôl i’r coleg i ysbrydoli rhagor o’n dysgwyr CCAF. Mae Jamie yn ysbrydoliaeth, gan ddefnyddio ei boen i weddnewid teimladau pobl eraill mewn modd mor anhunanol.”