Blwyddyn arall o lwyddiant Safon Uwch a Lefel 3 heb ei hail yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro

14 Awst 2024

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn dathlu blwyddyn arall heb ei hail o lwyddiant, gyda mwy o fyfyrwyr nag erioed o’r blaen yn cyflawni yn eu cymwysterau Uwch Gyfrannol, Safon Uwch a BTEC a chymwysterau Lefel 3 eraill.


Fel cyrchfan boblogaidd ar gyfer Lefelau A, mae oddeutu 1,000 o ddysgwyr wedi astudio Lefel A yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro eleni ar draws detholiad trawiadol o 40 o wahanol bynciau. Bu i ystod eang o feysydd pwnc weld cyfraddau llwyddo o 100%, o Hanes Hynafol, Gwareiddiad Clasurol ymlaen i Astudiaethau Busnes, Celf a Dylunio, Drama a Theatr, Technoleg Ddigidol, Economeg, Iaith Saesneg, Ffrangeg, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, Y Cyfryngau, Cerdd, Addysg Gorfforol, Sbaeneg a Chymraeg.

Dathlodd y Coleg yn ogystal gyflawniadau dysgwyr oedd yn astudio amrywiaeth eang o gymwysterau Lefel 3 eraill, megis BTEC, naill ai fel cymwysterau ar eu pen eu hunain neu ochr yn ochr â Lefel A, mewn pynciau'n amrywio o Newyddiaduraeth i Wyddoniaeth Bellach, Ffasiwn a Chwaraeon. Derbyniodd 1,000 arall o fyfyrwyr ganlyniadau BTEC a chymwysterau Lefel 3 eraill, a'r cyfan yn galluogi iddynt symud ymlaen i'r brifysgol. 

Ac mae cannoedd o ddysgwyr wedi dathlu eu dilyniant, gyda thros 600 yn gwneud cais i fynd i’r brifysgol a chael cadarnhau llefydd yn Oxbridge, Grŵp Russell a phrif brifysgolion eraill ar draws y DU ac yn fyd-eang.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Pleser o'r mwyaf yw dathlu ein dysgwyr ar Ddiwrnod Canlyniadau Safon Uwch a Lefel 3 wrth i’r bobl ifanc hyn ddechrau ar bennod newydd yn eu bywydau. Da iawn bawb!


"Rydym yn falch iawn o'r holl ddysgwyr sy'n casglu eu canlyniadau heddiw. Mae eu llwyddiannau yn dyst o’u gwaith caled dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae staff y Coleg wedi gweithio’n ddiflino i gefnogi dysgwyr i gyflawni’r canlyniadau hyn. Gwych yw gweld cynifer yn manteisio ar y canlyniadau hyn, a’r sgiliau a’r profiadau ehangach maent wedi’u cael yn ystod eu cyfnod yn CCAF, i serennu a mynd ymlaen i’r prif brifysgolion a llwybrau dilyniant arbennig eraill, fel prentisiaethau uwch.”


Un dysgwr a wnaeth y gorau o'r hyn sydd gan CCAF i'w gynnig yw Carys Williams sydd, yn dilyn ei llwyddiant yn sicrhau A* mewn Cymdeithaseg a Seicoleg ac A mewn Astudiaethau Crefyddol yn mynd i fod yn astudio Cymdeithaseg Ddynol a'r Gwyddorau Gwleidyddol ym Mhrifysgol Caergrawnt.



"Rwyf ar ben fy nigon - mae hyn yn gymaint o ryddhad i mi ac rwy'n eithriadol o hapus," meddai Carys. "Mae wedi bod yn dda iawn, yn arbennig felly'r gefnogaeth rwyf wedi'i derbyn gan fy nhiwtoriaid.


"Gadawais yr ysgol i ddod i'r coleg gan fy mod eisiau gofod newydd. Mae'r hyblygrwydd a'r rhyddid rwyf wedi'i gael yma wedi teimlo'n fwy fel cam tuag at y brifysgol, lle byddai aros yn yr ysgol wedi teimlo yr un fath - mae dod i'r coleg wedi helpu i fy mharatoi a datblygu agweddau fel rheoli amser."


Cofrestrodd Carys ar Raglen Ysgolheigion CCAF, sydd wedi'i chynllunio i gynnig cyfle i ddysgwyr ehangu eu profiad dysgu y tu hwnt i gwricwlwm traddodiadol Safon Uwch, a chynnig cymorth gydag ymgeisio i brifysgolion elitaidd a’r prif brifysgolion.



"Roedd hi'n beth da iawn cael bod ar y Rhaglen Ysgolheigion," meddai. "Roedd hi'n braf bod mewn dosbarth gyda phobl eraill sy'n mynd trwy'r un prosesau ac yn rhannu'r un canlyniadau."


Fe wnaeth Michael Sung lwyddo gyda A* mewn Bywydeg, a Mathemateg, ac As'au mewn Cemeg a Ffiseg. Y cam nesaf iddo yw astudio Meddygaeth yn Imperial College, Llundain.



"Rwy'n teimlo rhyddhad yn fwy na dim - wnes i ddim cysgu'n dda neithiwr yn meddwl am yr hyn oedd i ddod!" meddai Michael. "Mae’n waith caled, ond mae’n talu yn y pen draw.


"Ro'n i wir yn hoffi'r rhyddid o fod mewn coleg; roedd yn teimlo mwy fel mynd i brifysgol mewn rhyw ffordd. Roedd hi'n wych gallu cael mynediad at yr holl gyfleusterau ac roedd y staff i gyd yn gyfeillgar - ro'n i wir yn teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi.


"Rwy'n hynod o gyffrous i fod yn mynd i'r Imperial College, Llundain - mae'n anodd ei ddisgrifio ond rwyf wastad wedi bod eisiau gwneud hynny. Mae dod i'r Coleg wedi fy helpu llawer mwy na beth fyddai chweched dosbarth yn fy ysgol wedi'i wneud,."


Mae CCAF hefyd yn cynnig cyfleoedd unigryw eraill ar gyfer yr holl fyfyrwyr ochr yn ochr â'u hastudiaethau, gan gynnwys academïau chwaraeon adnabyddus. Mae'r chwaraewr Academi Pêl Fasged, Lance Macaraig wedi cyflawni yn academaidd yn ogystal â chynrychioli Academi Pêl Fasged CCAF wrth iddo ddod y tîm cyntaf erioed o Gymru i ennill Pencampwyr Chwaraeon Cymdeithas y Colegau ledled Prydain, a chwarae ar gyfer tîm o dan 17oed Cymru.



Llwyddodd Lance i gael B mewn Addysg Gorfforol ac C mewn Mathemateg a Thechnoleg Ddigidol. Bydd yn symud ymlaen i Queen Mary University of London i astudio Mathemateg gyda Sylfaen.


"Rwy'n teimlo rhyddhad - ar ôl rhai o'r arholiadau, roedd gen i hyder felly rwy'n hapus gyda hynna," meddai Lance. "Nid dyma oedd fy newis cyntaf o ran prifysgol ond mae'n addawol iawn ar gyfer pêl fasged ac mae fy rhieni o Ynysoedd y Philipinos ac mae yna fudiadau ar gyfer pobl o Ynysoedd y Philipinos yn Llundain felly mae mwy o gyfleoedd na fyddwn i wedi eu cael gyda fy newis cyntaf."


Fe wnaeth amser Lance yn yr Academi Pêl Fasged ei gefnogi wrth iddo ddatblygu ei sgiliau chwaraeon elitaidd tra'n cydbwyso hynny gyda'i astudiaethau.


"Fe wnaeth fy hyfforddwr yn siŵr ein bod ni i gyd yn ymwybodol ein bod yn fyfyrwyr athletau," eglurodd Lance. "Ein bod ni i gyd yn fyfyrwyr - gyda'r ochr academaidd yn gyntaf ac yna canolbwyntio ar bêl fasged. Ro'n i'n teimlo fel mai dyma'r Coleg ro'n i am fynd iddo gan fod y profiadau oedd yn cael eu cynnig yr union beth ro'n i eisiau."



Llwyddodd Tomos Davies i gyflawni A* mewn Ffrangeg a Chymdeithaseg ac C yn Iaith Saesneg, ac mae'n mynd ymlaen i Brifysgol Bryste i astudio ar gyfer gradd Ffrangeg ac Astudiaethau Rwsiaidd.



"Rwy'n eithriadol o falch - doeddwn i ddim yn disgwyl cael A* mewn Ffrangeg ac rwy'n mynd i'r brifysgol i astudio Ffrangeg felly rwy'n hapus iawn," meddai Tomos.


"Ro'n i wir yn hoffi bod yma; roedd e'n newid mawr o ysgol uwchradd ac fe wnaeth wir fy helpu i ffynnu fel person - ro'n i'n caru'r amrywiaeth a'r annibyniaeth . Heb y Coleg fyddwn i ddim wedi gallu dod mor bell â hyn."


Llwyddodd Ella Moyse i sicrhau A* mewn Busnes, EPQ a Seicoleg ac C mewn Mathemateg. Mae'n mynd ymlaen i Brifysgol Aberystwyth i astudio Rheolaeth Busnes.


"Ro'n i'n hoffi bod yma achos roedd o'n newydd i mi ac mae'r cyfleoedd wedi bod yn anhygoel," meddai Ella. "Ro'n i'n caru pob eiliad ohono ac roedd yr athrawon mor dda - ro'n i wrth fy modd yn cael cyfle i ymgymryd â phrosiect a'i ymchwilio fy hun.


"Mae'r Coleg yn bendant wedi fy helpu i - fyddwn i ddim wedi gallu cyflawni hyn heb CCAF."


Roedd yna hefyd ddysgwyr ar gyrsiau Lefel 3 oedd yn casglu eu canlyniadau yn CCAF heddiw. Llwyddodd Grace McDonald i sicrhau BTEC Lefel 3 mewn Gofal Plant gyda Datblygiad Chwarae a Dysgu ac mae'n mynd ymlaen i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio Blynyddoedd Cynnar ac Ymarfer Proffesiynol gyda Statws Ymarferydd.


"Dechreuais ar gwrs Lefel 1 gan weithio fy ffordd i fyny am bedair blynedd, ac mae gwneud y cwrs hwn wedi fy arwain at y radd," meddai Grace. "Rydw i eisiau ysbrydoli dysgwyr gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol a dangos iddynt fod unrhyw beth yn bosib.

"Rydw i wedi cael yr amser gorau yn y coleg. Mae'r tiwtoriaid yn yr Adran Gofal Plant ac Adran ADY wedi bod yn anhygoel. Mae'r gefnogaeth mae'r coleg yn ei gynnig, yr hyfforddwyr dysgu a'r gefnogaeth lles ac academaidd wedi bod yn wych ac rydw i wedi bod â fy nheulu a fy ffrindiau o fy amgylch i hefyd. 

Llwyddodd Mason Perry i ennill Rhagoriaeth a dau Merit mewn Diogeledd Seibr. Mae'n symud ymlaen i'r BSc mewn Diogeledd Seibr sy'n cael ei gynnig gan CCAF.


"Mwynheais y cwrs yn fawr," meddai Mason. "Fe wnes i fwynhau gweithio ar raglennu a dysgu am sut mae unigolion yn defnyddio cyfrifiaduro a sut mae cyfrifiaduro wedi effeithio ar y byd.


"Mae'r athrawon yn gefnogol iawn a wir wedi fy helpu i."


Llwyddodd Imran Duriez i gyflawni A* mewn Ffrangeg, B mewn Saesneg ac C mewn Mathemateg a Seicoleg ac mae'n mynd ymlaen i Brifysgol Aberystwyth i astudio Cyfrifeg a Chyllid.


"Wnes i ddewis CCAF gan fod llawer o bobl rwy'n eu hadnabod wedi dweud wrthyf ei fod yn lle da i astudio a bod y bobl yma yn cael canlyniadau gwirioneddol dda, felly ro'n i'n meddwl y gallwn innau gael canlyniadau da iawn hefyd - ac fe wnes i!" Meddai Imran, "Mae'r Coleg wedi fy helpu i'n fawr i gyflawni fy uchelgeisiau."