Prentisiaid Iau yn graddio o Goleg Caerdydd a’r Fro

1 Awst 2024

Mae’r criw diweddaraf o bobl ifanc 14 i 16 oed sydd wedi manteisio ar y cyfle i drawsnewid eu bywydau drwy lwybr gyrfa galwedigaethol arloesol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro wedi dathlu cwblhau eu cyrsiau yn llwyddiannus.

Fe ymunodd ffrindiau, teulu a’u tiwtoriaid â Phrentisiaid Iau Blwyddyn 11 CCAF i fwynhau Seremoni Raddio ar Gampws Canol y Ddinas y Coleg a derbyn eu tystysgrifau graddio.

Eleni, fe raddiodd 39 o ddysgwyr Blwyddyn 11. O blith y rhai a raddiodd, mae 33 yn mynd ymlaen i gyrsiau ôl-16 galwedigaethol yn amrywio o Drin Gwallt a Therapi Harddwch i Letygarwch ac Arlwyo, Adeiladwaith a Gwasanaethau Adeiladu, Atgyweirio a Chynnal a Chadw Ceir, Gwasanaethau Cyhoeddus, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Astudiaethau Busnes a Chelf a Dylunio. Mae un wedi symud ymlaen i gyflogaeth, bydd un yn symud ymlaen i brentisiaeth Foduro ac mae dau yn gweithio gyda Gyrfa Cymru i gael arweiniad gyrfa personol, tra bydd dau yn parhau â’u hastudiaethau yn ACT, aelod o Grŵp CCAF.

Roedd y seremoni raddio hefyd yn cynnwys seremoni wobrwyo. Enillodd Chloe Ryan, sy’n un ar bymtheg oed, wobr Prentis Iau y Flwyddyn am ei gwaith caled a’i hymrwymiad eithriadol.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Llongyfarchiadau i bob un o’n criw diweddaraf ni o Brentisiaid Iau – rydych chi wedi gweithio mor galed dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gyrraedd lle rydych chi heddiw. Rydych chi wedi datblygu a chyflawni eich nodau mewn ffordd sydd wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig.

“Mae'n wych gweld y byddwch chi'n symud ymlaen yn eich llwybrau gyrfa o ddewis. Diolch i chi ac i’r tîm gwych sydd wedi gweithio gyda chi – rydyn ni’n falch iawn ohonoch chi i gyd.”

Yn cael ei chyllido ar y cyd gan CCAF, Cyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac ysgolion lleol, mae'r rhaglen Prentisiaeth Iau wedi cael ei chynllunio i gynyddu nifer y bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Mae'n cynnig cyfle i bobl ifanc astudio'n llawn amser mewn coleg dan arweiniad athrawon sydd wedi cymhwyso yn y diwydiant mewn cyfleusterau galwedigaethol arbenigol a hefyd parhau i ddilyn cwrs TGAU mewn Saesneg a Mathemateg.

Lansiodd CCAF y rhaglen yn 2016 – y coleg cyntaf yng Nghymru i wneud hynny. Enillodd y Coleg Wobr Beacon Cymdeithas y Colegau ledled y DU ar gyfer Pontio i Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 yn 2017, ac ehangodd Llywodraeth Cymru y rhaglen ledled Cymru.

Ers 2016, mae mwy na 300 o bobl ifanc 14 i 16 oed wedi astudio ar raglen CCAF o 25 o ysgolion ledled Caerdydd a Bro Morgannwg, yn ogystal â phobl ifanc sy’n cael eu haddysgu y tu allan i’r ysgol. Mae’r cyfraddau llwyddiant yn uchel gyda chyfartaledd o 86 i 88% yn ennill cymwysterau galwedigaethol a TGAU ac yn symud ymlaen i addysg bellach neu gyflogaeth.

Am ragor o wybodaeth am raglen Prentisiaeth Iau CCAF ewch i https://cavc.ac.uk/en/junior-apprenticeships