Dysgwyr Peirianneg Coleg Caerdydd a’r Fro yn mynd ar drip unwaith mewn oes i Japan

24 Gor 2024

Mae grŵp o ddysgwyr Peirianneg Electronig o Goleg Caerdydd a’r Fro wedi bod ar drip unwaith mewn oes i Japan.

Tra oedden nhw yno cawsant brofiad o fywyd yn astudio dramor a chymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chwaraeon.

Ariannwyd yr ymweliad gan Taith, menter sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gweithredu gan Brifysgol Caerdydd. Nod Taith yw rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio, dysgu ac archwilio fel dinasyddion byd-eang gyda chefnogaeth partneriaid addysgol a diwydiannol rhyngwladol.

Yn ystod yr ymweliad pythefnos, integreiddiodd y dysgwyr yn llawn i fywyd coleg yn Sefydliad Technoleg Kisarazu. Cawsant gyfle i ymuno â dosbarthiadau academaidd a chymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chwaraeon fel Jiwdo a chaligraffeg.

Ar y penwythnosau aeth y myfyrwyr ar ymweliadau â Tokyo, gan gynnwys tripiau i'r Sky Tree, Cyberdine Robotics a Chanolfan Ofod Jaxa.

Dywedodd un o’r dysgwyr, Joe: “Roedd trip Taith i Japan yn brofiad anhygoel i gyd, o gwrdd â myfyrwyr Japaneaidd i’r ymweliadau diwylliannol a thechnolegol.

“Rydw i yn bersonol wedi defnyddio’r dystysgrif gefais i gan Sefydliad Technoleg Cenedlaethol Kisarazu mewn dau gyfweliad ac roedd pawb yn gyffrous iawn i glywed am fy mhrofiad i yn Japan. Rydw i wedi cael cynnig swydd hyd yn oed ar gyfer gradd prentisiaeth peirianneg drydanol felly rydw i’n siŵr bod y profiad yma wedi fy helpu i sicrhau hynny.

Dywedodd un arall o’r dysgwyr ar y trip, Luke: “Fe fydda’ i’n mynd i Mongolia ym mis Medi gydag un o’r myfyrwyr rhyngwladol wnes i ei gyfarfod yn Japan. Rydw i’n ddiolchgar iawn am y cyfleoedd gefais i gan ei fod wedi helpu i ehangu fy ngorwelion i a rhoi cyfle i mi brofi diwylliannau gwahanol.”

Dywedodd Amy, dysgwraig arall: “Roedd Japan yn brofiad anhygoel – fe ddangosodd i mi pa mor debyg ydyn ni er ein bod ni o wahanol ochrau o’r byd. Fe ddangosodd i mi bod posib i mi fod yn annibynnol ac y galla’ i gyflawni’r hyn rydw i eisiau ei gyflawni.”

Ac meddai Ffion, dysgwraig arall: “Mae’r trip wedi fy nysgu i fod yn annibynnol ac yn hunangynhaliol, ac fe fydd hynny’n fy mharatoi i ar gyfer y dyfodol, yn y brifysgol, yn ogystal â phrofi diwylliant newydd, sy’n rhywbeth rydw i wedi ddod yn ôl gyda mi ac wedi’i rannu gydag eraill."

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Yn CCAF, rydyn ni’n hoffi cynnig profiad sy’n fwy na dim ond ystafell ddosbarth ac mae’r trip anhygoel yma wedi gwneud yn union hynny. Nid bob dydd mae rhywun yn cael cyfle i hedfan i Japan a phrofi Tokyo – felly fe hoffem ddiolch yn fawr iawn i Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd am ariannu’r trip yma drwy Taith.



“Mae clywed bod y dysgwyr wedi elwa cymaint o’r ymweliad yn anhygoel. Rydw i mor falch bod y dysgwyr wedi mwynhau eu hunain a hefyd wedi cael profiad uniongyrchol o fyd dysgu a gwaith dramor.”