Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS, yn ymweld â Champws Canol y Ddinas Coleg Caerdydd a'r Fro

19 Meh 2024

Ymwelodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS, â Champws Canol y Ddinas Coleg Caerdydd a'r Fro yr wythnos ddiwethaf.

Roedd yr ymweliad yn gyfle i'r Ysgrifennydd Cabinet ddysgu mwy am waith amrywiol CCAF a cholegau ar draws Cymru ac effaith y gwaith hwnnw, ac i gael trafodaeth ynghylch hynny.

Yn ystod yr ymweliad prysur fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet, oedd hefyd yn ymweld gyda swyddogion hŷn Llywodraeth Cymru, yn cynnwys arweinwyr Addysg Bellach a Phrentisiaethau, ymweld â'r Pennaeth, Sharon James-Evans a dysgwyr.

Roedd hyn yn cynnwys dysgu mwy am y Prosiect Cwricwlwm Gwrth-hiliol arloesol y mae CCAF yn arwain arno ar ran Llywodraeth Cymru. Cafodd hefyd gyfle i ddysgu mwy am y rhaglen Prentisiaid Iau arobryn, gan ymweld â grŵp o ddysgwyr becws Blwyddyn 10.

Dechreuwyd y rhaglen gan CCAF er mwyn darparu llwybrau galwedigaethol i bobl ifanc 14 i 16 oed, ac mae bellach i'w gweld mewn colegau led-led Cymru; mae oddeutu 300 o ddysgwyr wedi ymgysylltu â'r rhaglen Prentisiaid Ifanc CCAF ers iddi ddechrau.

Siaradodd yn ogystal gydag amrywiaeth eang o ddysgwyr o ar draws CCAF am eu profiadau a'u cynnydd yn y coleg.

Meddai'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS: "Mae gan y sector Addysg Uwch ran hanfodol i'w chwarae yn cefnogi ein dysgwyr i gyrraedd eu llawn botensial, ac mae eu hiechyd a'u lles mor bwysig i hyn. Dyna pam roeddwn i mor falch o weld drosof fy hun sut mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cefnogi dysgwyr yn yr ardal hon fel eu bod yn barod i gyfranogi'n llawn yn eu dysgu a chael budd ohono.

"Rwyf hefyd wedi cael cyfle i glywed gan ddysgwyr a staff am y gwaith ardderchog sy'n digwydd yma yn datblygu adnoddau dysgu ac addysgu y gellir eu defnyddio ar draws y sector AU gyfan, gan archwilio cydraddoldeb hil a gwrth-hiliaeth yn y cwricwlwm AU. Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn gwneud cyfraniad enfawr i gyflawni Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol."

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: "Roedd yn bleser llwyr cael croesawu Lynne Neagle AS i'n Campws Canol y Ddinas. Roedd yr hyn welodd ac a glywodd yr Ysgrifennydd Cabinet a'r swyddogion yn ystod eu hymweliad wedi creu argraff ddofn arnyn nhw - ein hagwedd gynhwysol, gwaith estynedig gyda'r gymuned, cefnogaeth ar gyfer lles, ffocws ar greu pobl ifanc gyda sgiliau ac sy'n gyflogadwy, gweithio gyda chyflogwyr a'r effaith ar yr economi ac ar ein cymuned.

"Roedd yr holl fyfyrwyr a staff wnaeth gwrdd â nhw yn destun balchder i'r Coleg. Roedd hi'n wych o beth clywed cymaint - yn cynnwys dysgwyr sydd wedi bod yn ffoaduriaid, cyn Brentisiaid Ifanc, dysgwyr sydd wedi ennill cystadleuaeth sgiliau ac wedi sicrhau gwaith a llefydd mewn prifysgolion - yn siarad gyda hi am sut mae CCAF wedi bod o fudd iddynt ac wedi newid eu bywydau; roedd hynny'n brofiad hyfryd a theimladwy ac yn pwysleisio ethos deuluol CCAF."