Mae Y Dosbarth, bwyty nodedig Coleg Caerdydd a’r Fro, sydd wedi'i leoli ar bumed llawr Campws Canol y Ddinas, wedi llwyddo i gadw ei Rosét ar ôl cael Dyfarniad Cymeradwyaeth Uchel gan gynllun Rosét Colegau’r AA.
Bydd Rosét Colegau’r AA yn cael ei dyfarnu i fwytai sy'n gweini bwyd a baratowyd gyda gofal, dealltwriaeth a sgìl, ac yn cyrraedd safonau sy'n sefyll allan yn yr ardal leol. Y Dosbarth oedd y cyntaf yng Nghymru i gael Rosét Colegau’r AA, a hynny’n ôl yn 2017.
Mae Y Dosbarth yn fwyty Ewropeaidd modern unigryw gyda golygfa banoramig ar draws prif ddinas Cymru. Mae’r bwyty'n cynnig bwydlenni tymhorol sy'n rhoi pwyslais ar gynnyrch Cymreig ffres o safon uchel. Mae’r staff yn cynnwys arbenigwyr yn y diwydiant lletygarwch ac arlwyo, yn ogystal â dysgwyr CCAF, sy'n datblygu eu sgiliau a’u profiadau er mwyn gallu cychwyn gyrfa yn y proffesiwn.
Ar ôl ymweld â’r bwyty am bryd o fwyd, roedd arolygydd yr AA yn canmol y dysgwyr a oedd wedi bod yn gweini arno, sef Amy Rox a Cian. Dywedodd fod lefel y lletygarwch a ddarparwyd yn “dda iawn”.
Nododd yr arolygydd hefyd fod Y Dosbarth yn:
“Lle hardd a thrawiadol sy'n creu argraff arnoch chi pan fyddwch chi’n cyrraedd ac yn gweld y golygfeydd anhygoel. Mae’n ddiddorol gweld y ceginau yn union cyn y fynedfa – dyna destun sgwrs go iawn wrth gyrraedd.”
Tynnwyd sylw at ambell ‘waw ffactor’ hefyd, fel yr olygfa o Gaerdydd, a nodwyd bod y golau naturiol yn sicr yn “gynnig gwerthu unigryw iawn”.
Yn ôl yr arolygydd, roedd y cwrs cyntaf, sef eog wedi'i gochi â betys, salad sitrws, pomgranad a crème fraiche dil “wedi'i baratoi'n dda, gyda blas y pridd yn amlygu ei hun drwy’r betys”. Wrth sôn am y prif gwrs, sef brithyll seithliw wedi'i serio yn y badell, pys a chorizo, tatws Jersey Royal, ac aioli garlleg a lemwn, dywedwyd bod “safon i’r brithyll, a’r amser coginio’n berffaith, gyda’r croen yn rhoi gwead da”. Roedd y noisette cig oen, asbaragws, ffondant swêj a saws nafarin “wedi'i baratoi'n dda...roedd yr asbaragws yn mynd yn dda iawn gyda’r sawsiau rhagorol ac yn gweithio'n wych”.
Roedd cyfuniad y blasau yn y pwdin, sef ffondant siocled oren, tuile pistachio a hufen iâ caramel “yn arbennig, a’r ffondant yn gyfoethog ac yn foethus”.
Yng ngeiriau adroddiad yr AA: “At ei gilydd, roedd yn brofiad llawn mwynhad gyda thîm ifanc sy'n tyfu mewn hyder.”
Dywedodd Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro: “Mae’r ffaith bod Y Dosbarth wedi llwyddo i ddal gafael ar Rosét Colegau'r AA a chael Dyfarniad Cymeradwyaeth Uchel yn llwyddiant anhygoel.
“Mae’r Rosét yn brawf o waith caled ac ymrwymiad ein myfyrwyr talentog a’r gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant sy'n eu hyfforddi. Llongyfarchiadau i bawb.”
I gael rhagor o wybodaeth am Y Dosbarth neu i archebu bwrdd, ewch i: https://www.theclassroom.wales/cy/