Coleg Caerdydd a'r Fro yn cyhoeddi nawdd i Ŵyl Fach y Fro

14 Mai 2024

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn falch o fod yn noddi Gŵyl Fach y Fro pan ddaw i Ynys y Barri y penwythnos yma (17eg Mai).

Bydd y dathliad o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn cynnwys perfformiadau byw gan gorau ysgol, bandiau enwog ac artistiaid gwerin, perfformiadau dawns a gweithdai. Bydd gweithgareddau penodol i deuluoedd hefyd.

Mae CCAF yn gyffrous am fod yn rhan o’r ŵyl fel prif noddwr, fel rhan o ymgyrch hirsefydlog y Coleg #SiaradDysguByw.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Yn CCAF rydyn ni’n credu yng ngrym partneriaeth i dyfu cyfleoedd ac i fod o fudd i’n rhanbarth, ac wrth gydweithio â Gŵyl Fach y Fro rydyn ni’n gobeithio darparu awyrgylch croesawgar sy’n apelio nid yn unig at y gymuned Gymraeg ei hiaith ond hefyd y rhai sy’n dymuno ymwneud â’r Gymraeg am y tro cyntaf.

“Fel y coleg mwyaf yng Nghymru rydyn ni’n angerddol am ein gwlad a’n hiaith – ac rydyn ni’n parhau i hyrwyddo’r Gymraeg drwy gydol y flwyddyn, yn fewnol i staff a dysgwyr ac yn allanol hefyd, gan rannu ein hymrwymiad i gynnig cyfleoedd i bawb siarad, dysgu a byw yn y Gymraeg.”

Mae’r Coleg yn parhau i ymgorffori modiwlau iaith Gymraeg mewn cyrsiau allweddol, gyda’r dysgwyr TAR yn cwblhau rhaglenni hyfforddiant ymwybyddiaeth o’r Gymraeg Sgiliaith, ac yn darparu gwersi Cymraeg lefel dechreuwyr i’r di-Gymraeg ar draws llu o gyrsiau, o feysydd lle mae’r Gymraeg yn flaenoriaeth fel Iechyd a Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, drwodd i ESOL.

I ddysgu mwy am ddarpariaeth Gymraeg CCAF, gallwch ddod o hyd i fanylion yma, neu dewch draw i’n gweld ni yn y digwyddiad i gael sgwrs a chael ambell beth am ddim.