Mae 20 o ddysgwyr Busnes Lefel 3 a Chyfrifiadura Lefel 3 o Goleg Caerdydd a’r Fro wedi bod ar daith ‘unwaith mewn oes’ i ymweld â chwmnïau uwch-dechnoleg ac uchafbwyntiau diwylliannol y Dyffryn Silicon a San Francisco yng Nghaliffornia, Unol Daleithiau America.
Ariannwyd y daith gan Brosiect Turing a chafwyd nawdd gan y cwmni TG Trusted Data Solutions ar gyfer dillad wedi’u brandio. Yn ystod y daith, cafodd criw o ddysgwyr – yn cynnwys rhai nad oeddynt erioed wedi hedfan o’r blaen – gyfle i fynd ar antur 17 diwrnod o amgylch Califfornia. Cawsant ymweld â Sunnyvale a San Jose a chawsant fynychu seminar ym Mhrifysgol Stanford, lle trafodwyd prinder lithiwm a sut y gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial i ddod o hyd i lithiwm.
Hefyd, cafodd y dysgwyr gyfarfod â chynfyfyrwyr Prifysgol Stanford a esboniodd system addysg yr Unol Daleithiau, gan agor llygaid y dysgwyr i’r posibilrwydd o astudio dramor.
Yn San Jose, aeth y dysgwyr i wylio gêm hoci rhew er mwyn cael blas ar y ffordd Americanaidd o fyw a gweld sut y mae’r wlad yn ymdrin â chwaraeon. Hefyd, aethant i’r Amgueddfa Hanes Cyfrifiaduron ac i Amgueddfa Intel. Yno, cafodd y dysgwyr Cyfrifiadura ganolbwyntio ar y dechnoleg sy’n berthnasol i fodiwlau eu cyrsiau a llwyddodd y dysgwyr Busnes i gael profiad o farchnata a datblygu yn y sector technoleg.
Hefyd, cafodd y dysgwyr fynd i Ganolfan Ddarganfod Google, gan gael cyfle i weld sut y mae gweithwyr Google yn rhyngweithio, a hefyd cawsant fynd ar gefn Beiciau Google cyn mynd ar y ‘Caltrain’ i San Francisco.
Yn ystod yr ail wythnos, aeth y dysgwyr am dro i Fisherman’s Wharf a Lombard Street yn San Francisco a chawsant wylio gêm pêl fas gyda’r San Francisco Giants. Hefyd, cawsant fynd i Alcatraz ac i bencadlys y cwmni technoleg addysgol Padlet.
Yn Swyddfa Conswl Prydain yn San Francisco, cafodd y dysgwyr gyfarfod â Rebecca Harvey, Online Harms and Trust and Safety. Dangosodd Rebecca i’r dysgwyr y gallai eu cwrs arwain at yrfa yn teithio yn y Gwasanaeth Sifil.
Yn ôl Fiona Tierney, Pennaeth Busnes, Cyfrifiadura ac E-chwaraeon yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro: “Roedd y dysgwyr wrth eu bodd. Mae pob un ohonyn nhw wedi magu hyder ac wedi elwa mewn rhyw ffordd ar y profiad, o reoli amser i rwydweithio – y cwbl yn sgiliau trosglwyddadwy.”
“Llwyddodd yr ymweliad â Phrifysgol Stanford i ehangu eu gorwelion, ac mae gweld gwahanol gwmnïau a busnesau wedi eu hysbrydoli i edrych rywfaint ymhellach a sylweddoli bod unrhyw beth yn bosibl.”
“Ar y daith i San Francisco, dysgais sut y mae busnesau’n gweithredu ar lawr gwlad ac yn rhyngwladol, a hefyd sut y mae’r economi’n gweithio yn America,” medd Bobby Martin, dysgwr Marchnata Busnes. “Hefyd, yn sgil Google ac Intel rydw i wedi dysgu beth mae’r gweithwyr yn ei wneud ac yn olaf rydw i wedi ennill rhagor o sgiliau rhyngweithio cymdeithasol trwy siarad â phobl newydd. Mae’r daith i San Francisco wedi fy ysgogi i lwyddo, mae wedi dangos y gallaf fyw yn rhywle arall ac eithrio’r DU ac mae wedi fy sbarduno i gyflawni.”
Yn ôl Lloyd Thelwall, dysgwr Cyfrifiadura a Seiberddiogelwch: “Yn ystod y sgwrs gyda’r myfyrwyr a’r gyfadran yn Stanford, dysgais eu bod yn canolbwyntio ar eu hangerdd dros eu gyrfaoedd. Roedd ganddyn nhw awydd cyffredinol i weithio yn y maes, ond trwy fynd i’r brifysgol a thrwy gynnal prosiectau ymchwil fe ddaethon nhw ar draws pethau a lwyddodd i danio’u hangerdd dros eu pwnc.
“Hefyd, diddorol oedd gweld y cyfleoedd sydd ar gael i ddinasyddion Prydain wrth weithio i’r llywodraeth. Wrth siarad â chynrychiolydd Conswl Prydain yn San Francisco, diddorol oedd dysgu sut i ymuno â maes o’r fath a gweld sut fath o gyfleoedd y mae’r llywodraeth yn eu cynnig i’w diplomyddion.”
Medd Rosaria Bowes, dysgwr Cyfrifiadura a Seiberddiogelwch: “Cynigiodd y daith i San Francisco gipolwg ar y ffordd y mae technoleg wedi tyfu a sut y caiff ei defnyddio mewn gwahanol sectorau.
“Buddiol iawn oedd cael sgwrsio gyda Rebecca yn Swyddfa Conswl Prydain. Dysgais sut i ddod o hyd i waith o fewn y llywodraeth yn y maes seiberddiogelwch a pha gyfleoedd sydd ar gael – mae hyn wedi fy helpu i gael cynllun cliriach ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol ac rydw i’n bwriadu dilyn Gradd-brentisiaeth mewn Seiberddiogelwch trwy’r llywodraeth, gyda’r gobaith y bydd modd imi weithio dramor o fewn y llywodraeth a chamu ymlaen yn fy ngyrfa.”
Yn ôl Sharon James-Evans, Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro: “Yn CCAF, rydym eisiau cynnig profiad sy’n ymestyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth – ac mae’r daith anhygoel hon wedi gwneud yr union beth hwnnw. Nid pawb sy’n cael cyfle i hedfan i America ac archwilio’r Dyffryn Silicon – felly hoffem ddiolch o galon i’r noddwyr Trusted Data Solutions am gyfrannu at y dillad.
“Rydw i mor falch bod y dysgwyr wedi mwynhau’r daith a chael profiad ymarferol o’r byd gwaith ar frig y busnes uwch-dechnoleg. Gwych yw gweld bod y daith wedi ysbrydoli un ohonyn nhw i chwilio am yrfa yn y gwasanaeth sifil. Llongyfarchiadau i’r dysgwyr a diolch o galon i’r holl staff a fu’n gysylltiedig â threfnu’r daith a chynorthwyo’r dysgwyr.”