Mae dysgwyr Coleg Caerdydd a’r Fro, Sara Head a Sean Early, wedi ennill Gwobrau Dysgwr y Flwyddyn Mynediad i Addysg Uwch (AU) Agored.
Enillodd Sara hefyd Wobr Goffa genedlaethol Keith Fletcher ar gyfer dysgwyr Mynediad i AU, yn y categori Ymrwymiad Eithriadol i Addysg.
Mae cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch CCAF wedi cael eu cynllunio i roi'r hyder a'r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr aeddfed i ymdopi â gofynion academaidd astudio ar lefel uwch. Mae’r Coleg yn croesawu’n arbennig geisiadau gan ddysgwyr aeddfed sydd wedi penderfynu newid gyrfa neu sy’n dychwelyd at eu hastudiaethau ar ôl seibiant.
Mae Mynediad i Astudiaethau Pellach yn gwrs blwyddyn dwys sy'n adeiladu ar sgiliau presennol. Mae’r dysgwyr yn astudio TGAU Saesneg a Mathemateg, ac fel rhan o Ddiploma Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach Agored maent hefyd yn astudio Gwyddoniaeth, Gwyddor Gymdeithasol, Mathemateg, TG a Sgiliau Astudio. Cynhelir tiwtorials wythnosol i edrych ar lwybrau cynnydd a'u cefnogi drwy eu hastudiaethau.
Dychwelodd Sean Early i fyd addysg ar ôl pum mlynedd yn yr Awyrlu Brenhinol ac astudiodd gwrs Mynediad i Fiowyddoniaeth. Yn fyfyriwr llawn cymhelliant a brwdfrydig a oedd yn barod i gefnogi ei gydfyfyrwyr pan oedd angen, etholwyd ef yn gynrychiolydd y cwrs a chyflawnodd ragoriaeth ym mhob un o'i unedau graddedig.
Mae Sean, a enillodd Wobr Agored yn y categori Cyflawniad Academaidd Eithriadol, bellach yn astudio Geowyddoniaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bryste.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James Evans: “Llongyfarchiadau mawr i Sean ar ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Mynediad i AU Agored Cymru am Gyflawniad Academaidd Eithriadol.
“O’r dechrau un, roedd ymrwymiad Sean i’w gwrs yn amlwg iawn ac mae ansawdd ei waith wedi bod yn gyson wych. Yn hynod frwdfrydig a chyfranogol, cyrhaeddodd lefel academaidd ragorol ac roedd yn gyfranogwr brwd mewn gweithgareddau allgyrsiol fel cystadleuaeth WorldSkills. Da iawn Sean!"
Astudiodd Sara Head y cwrs Mynediad i Wyddor Iechyd yn CCAF.
Ar ôl ymddeol o yrfa 20 mlynedd fel athletwraig a chystadlu yn y Gemau Paralympaidd ddwywaith, penderfynodd ddychwelyd i fyd addysg. Er gwaethaf bod yn yr ysbyty gyda Covid a threulio dwy flynedd yn adfer ar ôl hynny, roedd Sara wedi ymrwymo i fynychu ei dosbarthiadau Mynediad ar-lein.
Gan ddangos agwedd o ‘allu gwneud’ bob amser a helpu eraill drwy gyfnodau anodd, roedd Sara yn aelod hynod boblogaidd o’i grŵp gyda sgiliau TG rhagorol. Cyflawnodd Sara 39 Rhagoriaeth a Chwe Chlod fel rhan o’i chwrs ac enillodd y categori Ymrwymiad Eithriadol i Astudio yng Ngwobrau Agored.
Mae holl enillwyr Gwobrau Dysgwr y Flwyddyn Mynediad i AU Agored yn cael eu cynnwys yng Ngwobrau Gwobr Goffa Keith Fletcher ledled y DU ar gyfer dysgwyr Mynediad. Enillodd Sara yn y categori Ymrwymiad Eithriadol i Astudio yn y gwobrau hyn hefyd.
Dywedodd beirniad Gwobrau Keith Fletcher: “Mae’r myfyriwr yma wedi cyflawni i safon uchel er gwaethaf rhai heriau iechyd difrifol iawn.
“Cafodd y penderfyniad wnaeth ei sbarduno hi i droi ei hanabledd yn rhywbeth y gallai ei ddefnyddio, drwy chwaraeon, i gyflawni, ei ddangos wedyn ar ôl cyswllt a allai fod wedi bod yn drychinebus gyda Covid. Er gwaethaf hyn fe gwblhaodd ei diploma gyda graddau da. Bydd ei chyflawniadau yn newid ei bywyd ac yn rhoi gyrfa gwbl newydd iddi.”
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Llongyfarchiadau mawr i Sara am ennill nid yn unig Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Mynediad i AU Agored yn y categori Ymrwymiad Eithriadol i Astudio ond hefyd Gwobr Goffa Keith Fletcher ledled y DU am Ymrwymiad Eithriadol i Astudio.
“Mae siwrnai dysgwr Sara yn CCAF wedi bod yn ysbrydoliaeth eithriadol i fyfyrwyr a staff fel ei gilydd. Mae hi wedi wynebu rhai heriau gwirioneddol ar hyd y ffordd, gan gynnwys cyfarfyddiad lle roedd ei bywyd yn y fantol gyda Covid, ond mae wedi dangos dewrder, penderfyniad ac ymrwymiad diwyro i lwyddo. Rydyn ni i gyd yn hynod falch ohoni.”