Yn ystod ymweliad diweddar ag Academi Celfyddydau Coleg Caerdydd a’r Fro, fe wnaeth gwaith y dysgwr Ffotograffiaeth, Steven Pitten, gymaint o argraff ar yr artist a’r ffotograffydd Jon Pountney nes iddo ei wahodd i ymuno ag arddangosfa yr oedd yn ei threfnu.
Cynhaliwyd yr arddangosfa, Ysbryd Lle, yng Nghanolfan Gymunedol Abertridwr yn ystod mis Chwefror ac roedd yn cynnwys ffotograffau Steven o'i dref enedigol, Senghenydd, a'r ardaloedd cyfagos.
“Roeddwn i’n hapus iawn pan wnaeth Jon Pountney fy ngwahodd i fod yn rhan o arddangosfa Ysbryd Lle,” dywedodd Steven. “Fe wnaeth i mi sylweddoli bod yr hyn roeddwn i’n ei wneud yn fwy na dim ond tynnu lluniau pert o’r bobl yn y cwm.
“Roedd wir yn hwyl siarad â phobl yn yr arddangosfa a chlywed barn pobl am yr arddangosfa yn gyffredinol.”
Mae Steven, sydd eisiau cael gyrfa fel ffotograffydd natur, yn mwynhau astudio yn CCAF.
“Rydw i wrth fy modd ar gwrs Ffotograffiaeth CCAF,” meddai. “Rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau gwych, mae Dave a Paul yn ddarlithwyr anhygoel ac mae’r prosiectau’n heriol ond hefyd yn ysbrydoledig.
“Rydw i’n mwynhau bod yng nghwmni llawer o bobl sydd â’r un meddylfryd. Mae llawer o bobl dalentog ar y cwrs hefo fi sy’n haeddu cydnabyddiaeth hefyd ac mae’n wych cydweithio ar brosiectau er bod y prosiectau’n unigol.”
Ond mae un foment wedi gwneud ei gyfnod yn y Coleg yn brofiad cwbl unigryw.
“Rydw i’n meddwl mai’r foment fwyaf nodedig i mi ei phrofi ar y cwrs oedd pan ddaeth Jon Pountney i mewn i gynnal sgwrs,” esboniodd Steven. “Pe bai hynny heb ddigwydd, dydw i ddim yn meddwl y byddwn i ble rydw i heddiw.
“Nid yn unig y mae wedi cynnig cyfleoedd i mi, mae hefyd wedi dylanwadu’n sylweddol ar fy arddull ffotograffig i ac wedi fy helpu i sylweddoli llawer am yr hyn y gallaf i ei wneud i wella fy hun fel ffotograffydd, yn ogystal â datblygu mwy o gysylltiad â fy ardal leol.
“Rydw i’n meddwl y bydd yr arddangosfa yn bendant yn helpu yn y dyfodol. Fe wnaeth gyflwyno llawer o bobl i fy ngwaith i a hyd yn oed os nad yw'r bobl wnaeth edrych ar fy ngwaith i’n dilyn fy nghyfryngau cymdeithasol neu'n penderfynu fy nghyflogi fel ffotograffydd, rydw i wedi datblygu enw da fel ffotograffydd yn y cwm lleol ac mae pobl yn gwybod pwy ydw i nawr.”
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Da iawn Steven! Mae cael gwahoddiad i arddangos ochr yn ochr ag artist cydnabyddedig ag yntau dal yn astudio yn gyflawniad gwych.
“A diolch i Jon Pountney. Yn CCAF rydyn ni’n hoffi cynnig profiadau sy’n real ac nid dim ond realistig, ac mae rhoi cyfle i un o’n dysgwyr ni brofi realiti arddangos ei waith yr union fath o flas ar fyd gwaith i artist a fydd yn ei helpu fel mae'n symud ymlaen yn ei yrfa."