Mae dysgwyr Coleg Caerdydd a’r Fro wedi ennill cyfanswm anhygoel o 19 medal aur yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru - mwy nag erioed o’r blaen.
Mae myfyrwyr CCAF wedi ennill cyfanswm o 34 medal, yn cynnwys 11 medal arian a phedair medal efydd a hynny mewn amrywiaeth eang o gystadlaethau, gan gynnwys Gwyddor Fforensig, Celf Coginio, Dylunio Gwefannau, Marchnata Gweledol a Choluro Creadigol.
Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru hefyd wedi gweld llwyddiannau i fenywod ifanc sy’n ddysgwyr ac sy’n astudio cyrsiau STEM - Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg - yn y Coleg. Enillodd Kritika Chandel fedal aur mewn Diogelwch Seibr ynghyd ag aelod arall o’r tîm, James Thole ac Emma Morgan a enillodd y fedal aur mewn Diogelwch Rhwydwaith.
Disgrifiodd Emma Morgan ei phrofiad yn y gystadleuaeth: “Rydw i wrth fy modd o fod wedi ennill medal aur – mae’n anrhydedd enfawr!
“Roedd cael y cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad mor uchel ei barch yn anhygoel ac fe wnaeth ddangos i mi sut beth yw rhwydweithio yn y byd go iawn. Gwnaeth i mi deimlo’n gyffrous am yr hyn sy’n bosibl yn y dyfodol.
“Un o uchafbwyntiau’r gystadleuaeth oedd cael cwrdd â chystadleuwyr eraill o wahanol gefndiroedd a diwydiannau a gweld pa mor dalentog yw pobl fy oedran i. Roedd yn brofiad cwbl newydd ac mae wedi fy nghymell i ragori ar fy nghyfoedion.
“Wrth edrych ymlaen, rydw i’n gobeithio mynd i’r brifysgol neu gwblhau gradd-brentisiaeth. Rydw i hefyd yn gobeithio gallu cystadlu yn y categori Gweinyddu Systemau Rhwydwaith TG yn y gystadleuaeth ledled y DU, WorldSkills UK.”
Roedd yna ganlyniadau cryf yn y categori Modurol, gyda Mihaly Zeke yn ennill y fedal aur a Ryan George yn ennill y fedal efydd mewn Technoleg Cerbydau Trymion, a Belal Al Haka yn ennill y fedal aur ac Owen Thomas yn ennill y fedal arian mewn Atgyweirio Cerbydau. Enillodd Ben Williams fedal aur a Kyle Davin fedal arian mewn Ailorffen Cerbydau.
Fe wnaeth Belal Al Jaka hefyd ennill gwobr Gorau yn y Rhanbarth - Dwyrain Cystadleuaeth Sgiliau Cymru
“Rwy’n meddwl bod hyn yn mynd i fy helpu yn fy ngyrfa yn y dyfodol,” meddai. “Rwy’n hapus ac yn falch iawn i dderbyn y ddwy wobr yma ar ôl yr holl waith caled wnes i.”
Enillodd pump o ddysgwyr CCAF fedal aur mewn Cerddoriaeth Boblogaidd: Evan Cook, Gabe Ellis, Seren Leyshon, Ryan Morgan a Corey Thomas gyda’u band Rico Shay. Roedd yna hefyd fedal aur i Marnie Gaskell mewn Gwasanaeth Bwyty, medal aur i Olivia Bellamy mewn Trin Gwallt Oedran 14-16 a Grace Deguara mewn Gofal Plant, tra bu i Tory Dobel, Oliver Rhodes, Alfie Franklin ac Alexander Hill i gyd ennill medal aur mewn Cynhyrchu Cyfryngau Digidol, ac enillodd Josh Nicholls fedal aur mewn Gwaith Brics.
Bydd nifer o’r dysgwyr yn awr yn mynd ymlaen i gystadlu yn Rowndiau Terfynol WorldSkills UK, gyda chyfle i gystadlu yn y pendraw yn yr ‘Olympics Sgiliau’ - Cystadleuaeth Rownd Derfynol fyd-eang WorldSkills, sy’n cael ei chynnal bob pedair blynedd.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Llongyfarchiadau i bob un o’n myfyrwyr am flwyddyn arall o ganlyniadau rhagorol - gyda chymaint yn enillwyr medal aur! Mae CCAF yn credu’n gryf mewn pwysigrwydd cystadlaethau sgiliau a’r rolau maent yn eu chwarae wrth ddatblygu set sgiliau a chreu ffynhonnell o dalent ar gyfer y dyfodol a fydd yn ychwanegu gwerth yn syth i unrhyw gyflogwr.
“Mae’r digwyddiad hwn sy’n dathlu Sgiliau Ysbrydoledig wedi gweld cannoedd o fedalau yn cael eu cyflwyno i gystadleuwyr ar draws colegau Cymru i gyd - sector sy’n perfformio mor dda. Rwy’n falch iawn o’r 34 medal mae dysgwyr Coleg Caerdydd a’r Fro wedi eu hennill ond mae hwn yn ddathliad gwirioneddol o’r sgiliau sydd yng Nghymru a gwaith y sector Addysg Bellach. Da iawn bawb, yn staff a myfyrwyr, sydd wedi cymryd rhan.”