Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cadw ei Ddyfarniad Coleg Aur CyberFirst am ei rôl arweiniol mewn addysgu seibrddiogelwch.
Mae rhaglen Ysgolion a Cholegau CyberFirst yn cael ei gweithredu gan y Ganolfan Seibrddiogelwch Genedlaethol, sy’n rhan o sefydliad diogelwch a chudd-wybodaeth y llywodraeth GCHQ. Mae’r rhaglen yn cydnabod ysgolion a cholegau a all ddangos ymrwymiad i ysbrydoli’r genhedlaeth ddiweddaraf o arbenigwyr seibrddiogelwch a phontio’r bwlch sgiliau.
Mae ysgolion a cholegau CyberFirst yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i ennyn diddordeb myfyrwyr, fel clybiau codio a gweithgareddau cyfoethogi. Mae CCAF wedi cydnabod pwysigrwydd cyrsiau seibrddiogelwch ar draws pob diwydiant ers tro, gyda’r cyn-fyfyriwr Seibrddiogelwch Kyle Woodward yn cynrychioli’r DU mewn Rowndiau Terfynol WorldSkills diweddar a rhoddodd Emma Morgan, dysgwr Cyfrifiadura a Seibrddiogelwch Lefel 3, dystiolaeth i Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin am yr angen i fynd i’r afael â’r anghydbwysedd rhwng y rhywiau mewn pynciau STEM.
Nid yw ymrwymiad y Coleg i seibrddiogelwch yn dod i ben yn ei ystafelloedd dosbarth. Mae CCAF yn ymgysylltu'n weithredol ag ysgolion a phartneriaid strategol drwy ystod eang o weithgareddau allgyrsiol. Drwy weithdai, cystadlaethau a chydweithredu, nod y Coleg yw ehangu gorwelion darpar selogion seibr, gan gryfhau ei gysylltiadau â’r gymuned leol a chadarnhau ei safle fel coleg blaenllaw ym maes addysg seibrddiogelwch.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans; “Rydyn ni wrth ein bodd bod Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cadw Dyfarniad Coleg Aur CyberFirst. Mae hyn nid yn unig yn dyst i waith caled a phenderfyniad ein Hadran Gyfrifiadura ond mae’n adlewyrchu gweledigaeth y Coleg cyfan o bwysigrwydd seibrddiogelwch fel diwydiant cyffrous a hanfodol i ddysgwyr anelu at weithio ynddo.
“Yn ogystal, rydyn ni’n credu bod statws Dyfarniad Coleg Aur y Coleg yn adlewyrchu ein hymrwymiad i barhau i ddatblygu perthnasoedd gwaith cadarn gyda’n partneriaid ni ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a bydd yn rhoi’r llwyfan a’r dyhead i ni barhau i dyfu a chynnig cwricwlwm Seibrddiogelwch arloesol yn CCAF.”