Coleg Caerdydd a'r Fro yn cefnogi twf menywod i ddyfodol mewn STEM ar ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod

8 Maw 2024

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni mae Coleg Caerdydd a'r Fro (CCAF) yn tynnu sylw at y rhan bwysig mae menywod yn ei chwarae gyda STEM - gyrfa mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg - ac yn dathlu twf sylweddol yn nifer y menywod sy'n dewis pynciau lle mae dynion wedi bod yn fwy amlwg yn draddodiadol.

Ar hyd a lled Cymru a'r DU, mae menywod yn parhau i gael eu tangynrychioli o fewn diwydiannau sy'n gysylltiedig gyda STEM. Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae CCAF wedi gweld cynnydd aruthrol yn y nifer o ddysgwyr sy'n fenywod yn cofrestru ar gyrsiau sy'n gysylltiedig gyda STEM, gyda meysydd pwnc megis Peirianneg Aerofodol a Phlymio ymhlith y rhai sydd wedi gweld y mwyaf o gynnydd ynddynt.

Meddai Sharon James-Evans, Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro:

"Yn CCAF, rydyn ni'n ymwybodol iawn o'r gwahaniaeth sy'n parhau rhwng nifer y dysgwyr gwrywaidd a'r dysgwyr benywaidd sy'n astudio pynciau STEM y tu hwnt i TGAU. Mae'n dda gweld ein bod yn cymryd camau breision i ddenu mwy o ferched at bynciau sydd yn debygol o gael eu dewis gan ddynion, ac yn fwy na hynny hyd yn oed, yn sicrhau bod merched yn mynd ymlaen i ymuno gyda'r gweithlu ac yn cael traweffaith sylweddol o fewn eu diwydiant."

Ers 2020, mae cyrsiau Peirianneg Aerofodol wedi gweld cynnydd o 325% yn y nifer o ferched sy'n dewis datblygu eu sgiliau yn y diwydiant, ac nid cyfranogi yn unig maen nhw'n ei wneud - maen nhw hefyd yn rhagori ynddynt.

Mae Annabel Leger yn enghraifft wych o hyn, a hithau wedi dechrau yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro ar Gwrs Awyrenegol BTEC Lefel 3 yng Nghanolfan Ryngwladol Hyfforddiant Awyrofod (ICAT) enwog y Coleg ym Maes Awyr Caerdydd. Gan gwblhau ei chwrs gyda gradd Teilyngdod Rhagoriaeth aeth Annabel ymlaen wedyn i'r cwrs gradd BEng (Hons) Peirianneg Awyrennau.

Cyflwynodd Annabel draethawd hir hynod o arloesol yn ei blwyddyn olaf ar botensial defnyddio pelydr golau uwchfioled fel ffordd o ddiheintio gyfleusterau ystafell ymolchi awyren a graddiodd gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Mae hi bellach yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Economeg Cludiant Awyr ym Mhrifysgol Cranfield.

Mae pynciau sy'n gysylltiedig gyda TG wedi gweld cynnydd o 107% yn nifer y menywod sy'n astudio, ac mae nifer ohonynt wedyn yn symud ymlaen i gyrsiau ar lefel uwch ac i'r gweithlu.

Dechreuodd Ellie Mitchell yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro ar gwrs Cyfrifiaduro Lefel 3 gan symud ymlaen i BSc (Hons) Diogeledd Seiber. Parhaodd i ddatblygu sgiliau technolegol cynyddol uwch a graddiodd gydag anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Mae Ellie yn awr yn gweithio gyda chwmni Diogeledd Seiber enwog yng Nghaerdydd.

"Penderfynais astudio ar gyfer fy BSc ar ôl cwblhau BTEC yn y Coleg," meddai Ellie. "Siaradais gyda fy nhiwtoriaid, oedd yn hynod o gefnogol. Dysgais lawer a chefais y cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad WorldSkills, gan gystadlu â myfyrwyr eraill o golegau a phrifysgolion ledled y byd!    

"Os ydych chi'n ystyried astudio yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, yna ewch amdani! Rwyf wedi cael cefnogaeth arbennig drwy gydol fy nghyfnod yno. Mae'r profiad rydw i wedi ei gael yn y Coleg wedi bod yn wirioneddol wych, ac mae'r bobl rydw i wedi cwrdd â nhw wedi bod yn anhygoel."

Mae CCAF yn annog menywod ifanc i ystyried pynciau STEM, gan gynnal digwyddiadau a chystadlaethau drwy gydol y flwyddyn sy'n darparu cyfleoedd i gael profiad ymarferol, gan gynnwys Her Awyrlu Ysgolion hynod boblogaidd sy'n denu ac yn ysbrydoli rhai o'r disgyblion ysgol ifanc gorau a disgleiriaf o bob rhan o'r rhanbarth.

Aeth PennaethColeg Caerdydd a'r Fro, Sharon James-Evans ymlaen, “Rydyn ni'n hynod o frwd dros waredu unrhyw rwystrau i addysg yma yn CCAF, gan sicrhau ein bod yn darparu ein pobl ifanc gyda chyfleoedd dirifedi i symud ymlaen i unrhyw yrfa, waeth beth fo eu rhywedd. Byddwn yn parhau i gefnogi ein menywod ifanc sy'n fodelau rôl i'n pobl ifanc, trwy ddangos iddynt beth sy'n bosib a beth allen nhw hefyd ei gyflawni.”