Mae gwaith Coleg Caerdydd a’r Fro i ddatblygu modiwlau cwricwlwm gwrth-hiliaeth ar gyfer y sector addysg bellach wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau Beacon nodedig Cymdeithas y Colegau ledled y DU.
Yn cael eu hadnabod fel ‘Oscars y Colegau’, mae Gwobrau Beacon yn dathlu’r arferion gorau a mwyaf arloesol ymhlith colegau’r DU. Cyrhaeddodd CCAF restr fer y ddau olaf yng Ngwobr Jisc am Ddefnydd Effeithiol o Dechnoleg Ddigidol mewn Addysg Bellach, gan golli allan o drwch blewyn i Goleg Hull.
Yn 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i sicrhau y bydd Cymru yn wlad wrth-hiliol erbyn 2030 – y wlad gyntaf i wneud yr ymrwymiad hwn. Un elfen allweddol o'i Chynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth ar gyfer Cymru fu datblygu cwricwlwm addysg bellach gwrth-hiliaeth.
Mae'r cwricwlwm ar ffurf metafyd - y byd rhithwir gwrth-hiliaeth cyntaf. Mae’r datblygiad arloesol yma, sy’n cael ei arwain gan Goleg Caerdydd a’r Fro ar ran Llywodraeth Cymru, yn darparu profiad dysgu hygyrch a chyfranogol sydd wedi’i ddatblygu a’i gynhyrchu mewn cydweithrediad ag arbenigwyr lleiafrifoedd ethnig o ysgolion, colegau, prifysgolion a thrydydd partïon.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Rydyn ni’n hynod falch o fod yn un o ddau goleg yn unig yn y DU i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Beacon am Ddefnydd Effeithiol o Dechnoleg Ddigidol mewn Addysg Bellach.
“Mae CCAF wrth galon y rhanbarth mwyaf bywiog ac amrywiol yng Nghymru ac rydyn ni wedi ymrwymo’n gadarn i agenda gwrth-hiliaeth. Rydyn ni wedi bod yn falch o arwain ar y buddsoddiad unigryw ac arloesol yma yng nghwricwlwm Cymru ac mae cyrraedd rowndiau terfynol Gwobrau Beacon yn dangos y diddordeb cenedlaethol a rhyngwladol sydd yn y prosiect yma.”