Gyrfa newydd yn y Flwyddyn Newydd gyda chyrsiau rhan amser ac unigryw Coleg Caerdydd a’r Fro ar gyfer oedolion

13 Rhag 2024

Awydd cychwyn newydd? Gobeithio datblygu neu newid gyrfa yn y Flwyddyn Newydd? Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn cynnig ystod eang o gyrsiau rhan amser sy’n cychwyn ym mis Ionawr 2025 ar gyfer oedolion.

Mae amrywiaeth eang o gyrsiau i ddatblygu eich sgiliau i newid neu ddatblygu eich gyrfa, yn cynnwys cymwysterau proffesiynol poblogaidd. Mae’r cyrsiau hefyd wedi’u dylunio ar gyfer oedolion, er mwyn in chi allu dysgu o gwmpas eich oriau gweithio, bywyd teuluol neu ymrwymiadau eraill.

Mae hefyd cyrsiau Mynediad ar gyfer symud ymlaen i’r brifysgol, Cyrsiau Addysg Sylfaenol i Oedolion sy’n dymuno datblygu eu sgiliau a chyrsiau byr i ennyn diddordeb pobl.

Mae’r cyrsiau rhan amser yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, yn amrywio o gyrsiau Cwnsela ar bob lefel i hyfforddiant Barista, Printio 3D ar gyfer Busnesau Bach a Chyflwyniad i Osodiad Trydanol. Am restr lawn o gyrsiau i oedolion neu i gofrestru, ewch i: https://cavc.ac.uk/coursesforadults

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Rydym yn falch o allu cynnig ystod mor eang o gyrsiau rhan amser i oedolion o gychwyn 2025. Bob blwyddyn, mae miloedd o oedolion yn dysgu â ni i ennill cymwysterau proffesiynol i ddatblygu neu newid eu gyrfa - ac rydym yn gweld yr effaith mae hyn yn ei gael.

”Rydym yn cynnig cyrsiau sy’n darparu’r sgiliau a’r cymwysterau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Mae rhai o’n rhaglenni hyfforddiant hefyd yn unigryw, ac mae ein gwaith gyda chyflogwyr yn cefnogi pobl i gael mynediad at swyddi sydd eu hangen a’r swyddi maen nhw eu heisiau. Mae gennym hefyd nifer fawr o oedolion sy’n ymuno â ni i ddatblygu eu sgiliau ar gyfer eu gwaith, eu bywyd, a chefnogi eu teuluoedd.”