Llwyddiant yn Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU i Goleg Caerdydd a'r Fro

28 Tach 2024

Mae pump o ddysgwyr a phrentisiaid Coleg Caerdydd a’r Fro wedi dod yn ôl o Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU eleni gyda medalau, gan gynnwys tair aur – mwy nag unrhyw goleg arall yng Nghymru.

Enillodd Marnie Gaskell fedal aur yn y gystadleuaeth Gwasanaeth Bwyty, ac enillodd Samuel Turato a Mihaly Zeke fedalau aur mewn Oergelloedd a Cherbydau Trwm Modurol yn y drefn honno. Enillodd Owen Thomas efydd mewn Atgyweirio Cyrff Cerbydau ac enillodd Travis Huntley arian mewn Teilsio Waliau a Lloriau yn SkillBuild.

Mae’r canlyniadau’n golygu bod CCAF wedi ennill mwy o fedalau aur nag unrhyw Sefydliad Addysg Bellach arall yng Nghymru ac roedd yn y 5 Uchaf yn Nhabl Cynghrair Medalau WorldSkills y DU yn gyffredinol.

Enillodd tîm o ACT, aelod o Grŵp CCAF, yn cynnwys Jessica Poole a Gareth Williams, fedalau efydd hefyd mewn Technegydd Cyfrifeg.

Teithiodd deuddeg o ddysgwyr a phrentisiaid o Goleg Caerdydd a’r Fro i Fanceinion i gystadlu yn Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU – sy’n cael eu hadnabod yn eang fel y Gemau Olympaidd Sgiliau. Ochr yn ochr â Marnie, Samuel, Mihaly a Travis, bu David Morgan yn cystadlu mewn Peirianneg Awyrennau a Belal Al Haka mewn Atgyweirio Cyrff Cerbydau.

Cystadlodd Kyle Davin a Ben Williams mewn Ailorffen Modurol, Miah Jenkins a Remi Evans mewn Colur Masnachol a Joe Davies mewn Technegydd Cefnogi TG.

Dywedodd Sam Turato, enillydd y fedal aur yn yr adran Oergelloedd: “Pan gafodd fy enw i ei alw, roeddwn i wir wedi fy syfrdanu. Roedd y gystadleuaeth yma’n hynod heriol, nid dim ond i mi, ond i bob un o’r chwech oedd yn y rownd derfynol.

“Rydw i wir yn credu ein bod ni i gyd yn haeddu aur am yr ymdrech, y sgil a’r ymroddiad wnaethon ni eu dangos. Rydw i’n teimlo bod hon yn fraint ac rydw i’n wylaidd iawn, mae’r fedal yma’n cynrychioli nid yn unig fy ngwaith caled i, ond hefyd cefnogaeth y rhai oedd wrth fy ochr i ac sydd wedi fy ysbrydoli i ar hyd y siwrnai yma. Diolch yn fawr.”

“Roedd y cyffro o dderbyn y newyddion fy mod i wedi cyrraedd y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol yn swreal – ychydig wyddwn i bryd hynny y byddai fy enw i, bedwar mis yn ddiweddarach, yn cael ei alw i dderbyn fy medal aur,” meddai enillydd y fedal aur yn y categori Gwasanaeth Bwyty, Marnie Gaskell. “Dydw i ddim hyd yn oed yn gallu rhoi mewn geiriau y teimlad o aros yn bryderus tan wobr olaf y noson a’r rhyddhad wnes i ei deimlo ar ôl i fy enw i gael ei alw.

“Fe wnaeth y misoedd a’r misoedd o hyfforddiant, y gwaith caled a’r ymroddiad dalu ar ei ganfed, dydw i erioed wedi profi unrhyw beth mor arbennig! Cyfle anhygoel; fe fyddwn i’n dweud wrth unrhyw un am fanteisio arno o gael y cyfle, mae wedi fy newid i fel unigolyn er gwell a dydw i ddim yn gallu diolch digon i bawb sydd wedi fy helpu i a fy nghefnogi."

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Llongyfarchiadau i Marnie, Samuel, Mihaly, Travis ac Owen – rydych chi i gyd wedi profi eich bod chi ymhlith y gorau yn y DU yn eich meysydd. Mae’n gyflawniad anhygoel i bob un o’r 12 cystadleuydd sydd wedi cymryd rhan i gyrraedd y Rowndiau Terfynol ac mae’n dyst i’ch gwaith caled a’ch penderfyniad chi.

“Hoffwn ddiolch hefyd i holl staff Grŵp CCAF sydd wedi gweithio mor ddiflino, yn eu hamser eu hunain yn aml, i hyfforddi’r cystadleuwyr a’u galluogi i gystadlu i’r safon yma.”

Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp CCAF ac Ymddiriedolwr WorldSkills UK, Mike James: “Llongyfarchiadau enfawr i enillwyr y medalau, ac mae cyfle i rai ohonyn nhw fod yn Nhîm y DU ar gyfer Rowndiau Terfynol rhyngwladol nesaf WorldSkills.

“Rydw i wir yn credu mewn cystadlaethau sgiliau a’r manteision a ddaw yn eu sgil i’r rhai sy’n cystadlu, y rhai sy’n cael eu hysbrydoli ganddyn nhw, cyflogwyr a’r economi. Diolch yn fawr iawn i’r holl staff cysylltiedig sydd wedi cefnogi ein dysgwyr ni oedd yn cystadlu yn ystod ac yn y cyfnod yn arwain at Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU.”